Ble a Sut i roi gwybod am Newidiadau i'ch Cofnod Myfyriwr
Newid Enw
Mae modd ein hysbysu eich bod am newid eich enw dros eich Cofnod Myfyriwr ar y we. Mae fan newidiadau fel cywiro sillafu yn gallu cael eu gwneud heb yr angen am dogfennu swyddogol, disgwylir i newidiadau fel hyn gael eu prosesu o fewn 5 diwrnod gwaith.
Os yr ydych am gwneud newid o bwys byddwn yn gofyn i chi roi dogfennau swyddogol yn dangos eich enw newydd i ni yn y Swyddfa Academaidd e.e. Tystysgrif Priodas neu Tystysgrif gweithred newid enw. Byddwn yn danfon e-bost atoch a gofyn i chi ddod a’r dogfennau swyddogol yn dangos eich enw newydd ir Swyddfa Academaidd o fewn 5 diwrnod gwaith. Unwaith i ni gael y dogfennau priodol bydd eich enw yn newid o fewn 24 awr.
Ar ôl i ni newid eich enw fe cewch e-bost i gadarnhau y newid ac fydd eich enw newydd yn dangos ar eich Cofnod Myfyriwr ar y we. Os oes angen cerdyn myfyriwr newydd arnoch bydd angen i chi fynd ir ddesg gymorth yn Llyfrgell Hugh Owen a gofyn am cerdyn newydd yn dangos eich enw newydd ar ôl i chi weld bod eich enw wedi newid ar eich Cofnod Myfyriwr.
Newid Cyfeiriad
Gellir newid eich cyfeiriad yn uniongyrchol ar eich Cofnod Myfyriwr ar y we. Mae bob newid cyfeiriad yn newid ar unwaith. Cofiwch bod angen côd post arnoch i bob cyfeiriad preifat.