Asesiadau Ailgynnig yr Haf

Mi fydd Asesiadau Ailgynnig yr Haf yn cael eu cynnal o:

Ddydd Llun 16 Awst 2027 i Dydd Gwener 27 Awst 2027

Bydd myfyrwyr ag arwydd ailsefyll o R, M, P, H, S, F, V, A neu T yn gymwys i ailsefyll yn ystod Asesiadau Ailgynnig yr Haf yn fis Awst (yn ôl rheolau).  

Bydd holl fyfyrwyr Israddedig yn cael eu cofrestru yn awtomatig (gan eithrio myfyrwyr FDA, FDSC) i ailsefyll pob modiwl maent yn gymwys ailsefyll (hyd at uchafswm o 80) yn ystod Asesiadau Ailgynnig yr Haf. Bydd myfyrwyr sy'n methu 20 credyd neu lai, felly nad yw'n ofynnol iddynt ailsefyll er mwyn fynd ymlaen i'r flwyddyn nesaf o’r cwrs, yn gallu gwrthod ailsefyll ym mis Awst trwy gwblhau'r dasg Asesiadau Ailgynnig yr Haf ar eu Cofnod Myfyriwr ar y we.  Bydd y dasg Asesiadau Ailgynnig yr Haf ar gael i fyfyrwyr o'r diwrnod y cyhoeddir canlyniadau semester dau am bythefnos yn unig.

Noder: Bydd methu â chwblhau'r dasg a gwrthod ailsefyll, hyd yn oed os na fyddwch chi'n dod i'r arholiad, neu'n cyflwyno'ch asesiad ysgrifenedig ar gyfer y modiwl rydych chi wedi'ch cofrestru ynddo, yn golygu y bydd eich cofnod yn dangos eich bod wedi methu.  Sylwch mai'r marc uchaf a gawsoch yn y modiwl sy'n cyfri at eich gradd.

Rhaid i fyfyrwyr FDA ac FDSC gofrestru ar gyfer ailsefyll yr asesiadau – nid yw myfyrwyr yn cael eu cofrestru’n awtomatig i ailsefyll. 

Gall myfyrwyr gwneud hyn drwy eu Cofnod Myfyriwr ar y we ar ddiwedd mis Mehefin/cychwyn mis Gorffennaf. Bydd y cyfleuster cofrestru ar gyfer Asesiadau Ailgynnig yr Haf ar gael am bythefnos yn unig o’r diwrnod bydd canlyniadau'r ail semester yn cael eu cyhoeddi. Gwelwch yma am sut i gofrestru.

Mae’r Rheolau ar Gynnydd ac Ailsefyll ar gael ar-lein yn y Llawlyfr Ansawdd Academaidd, o dan y pennawd Confensiynau Arholiadau.  Gall fyfyrwyr hefyd gyfeirio at Lawlyfr Arholiadau Myfyrwyr (ar gael trwy’r we ar dudalen Materion Israddedig, o dan y pennawd Arholiadau ac Asesiadau.

Os bydd unrhyw fyfyriwr yn methu cofrestru ar gyfer asesiad gorfodol a bodloni rheolau cynnydd bydd hynny yn meddwl na chewch fynd ymlaen i'r flwyddyn nesaf h.y. ni chewch ail-wneud modiwlau Rhan 1 a fethwyd ac astudio yn Rhan 2 ar yr un pryd.

Os am gymorth ynglŷn â'ch cofrestriad modiwlau ailsefyll cysylltwch â'r Swyddfa Gweinyddu Myfyrwyr y Gofrestrfa Academaidd drwy e-bost ugfstaff@aber.ac.uk neu ffoniwch 01970 622945.

Bydd amserlen a manylion llety ar gael ar lein yn wythnos gyntaf mis Awst.

Am ragor o fanylion ynglŷn â'r amserlen cysylltwch â'r Swyddfa'r Amserlenni, rhif ffôn 01970 628771,  e-bost attstaff@aber.ac.uk

Gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar yr Amserlen Arholiadau.