Cyfrifeg a Chyllid

Mae Cyfrifeg a Chyllid yn cynnwys cysyniadau arian, busnes a rheolaeth, gyda phwyslais ar yrfaoedd proffesiynol yn y meysydd hyn. Mae cyfrifyddu'n ymwneud â dadansoddi gwybodaeth ar gyfer gwahanol agweddau ar fusnes, tra bod cyllid yn ymwneud â chronfeydd ariannol busnes yn unig.

ACCA
CII
CIMA
CIPFA
ICAEW
ICAS
  • Yn y 5 uchaf yn y DU am Brofiad Myfyrwyr ym mhwnc Cyfrifeg a Chyllid (Canllaw Prifysgolion Da 2024, The Times and Sunday Times)
  • Yn y 5 uchaf yn y DU am Brofiad Myfyrwyr ym mhwnc Cyfrifeg a Chyllid (Canllaw Prifysgolion Da 2024, The Times and Sunday Times)
  • Ymhlith y 5 uchaf yn y DU am Brofiad Myfyrwyr ac Ansawdd y Dysgu ym maes Cyfrifeg a Chyllid (Canllaw Prifysgolion Da, Y Times a'r Sunday Times 2021)

Pam astudio Cyfrifeg a Chyllid ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Yn Aberystwyth, mae ein graddau cyfrifeg a chyllid wedi'u hachredu gan Gymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA), Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli (CIMA), a'r Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA).   
  • Cewch eich cefnogi drwy gydol eich astudiaethau gan ein staff profiadol, proffesiynol a chyfeillgar.  
  • Gallai astudio Cyfrifeg a Chyllid fod yn ddelfrydol i chi os ydych yn mwynhau mathemateg ac eisiau ei chymhwyso i fusnes, boed hynny'n rheolaeth, cyfraith busnes neu economeg.  
  • Byddwch yn cael eich addysgu a'ch mentora gan gyfrifwyr cymwysedig a chydnabyddedig sydd â chyfoeth o brofiad diwydiant ac academaidd.  
“Mae'n darparu amrywiaeth eang o wybodaeth sy'n berthnasol i fusnes yn ogystal â marchnadoedd y byd. Mae’n heriol, ond yn werth chweil ar yr un pryd. Mae'r tiwtoriaid yn hawddgar iawn ac maent bob amser ar gael i siarad ac yn barod i helpu pryd bynnag y bydd angen rhywfaint o arweiniad arnoch. Mae'r holl gyngor gyrfaoedd yr wyf wedi'i gael hyd yn hyn wedi fy helpu i benderfynu ar y cyfeiriad yr hoffwn ei ddilyn yn ddelfrydol yn y dyfodol.”
Harry James Geyton Harry James Geyton BSc Cyfrifeg a Chyllid
“Rwyf wrth fy modd yn astudio cyfrifeg oherwydd mae'n rhoi safbwynt hollol wahanol i mi ar fyd busnes. Mae cymaint mwy i gyfrifeg nag y mae'r rhan fwyaf o bobl yn ei feddwl; nid pobl yn eistedd o gwmpas yn cadw llyfrau’n unig yw cyfrifeg. Mae wedi fy ngalluogi i astudio cwmnïau a rhoi gwell dealltwriaeth i mi o'u cymhlethdodau yn ogystal â'u potensial.”
Emma Louise Taberner  
 Emma Louise Taberner  BSc Cyfrifeg a Chyllid

Cyflogadwyedd

Mae cwmnïau cyfrifeg, banciau buddsoddi a sefydliadau ariannol yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa gan gynnwys gwaith archwilio a sicrwydd traddodiadol, ymgynghori rheoli, cyllid corfforaethol, ymgynghori TG, cynllunio treth a methdalu. Yn ogystal â gosod ein myfyrwyr mewn cwmnïau cyfrifeg traddodiadol gan gynnwys Deloitte, PwC, E&Y, a KPMG, mae ein graddedigion mwyaf diweddar wedi dod o hyd i gyflogaeth gyda sefydliadau adnabyddus eraill fel Barclays, y BBC, Lidl a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.  

Mae rhai o'n graddedigion hefyd wedi archwilio llwybrau gyrfa eraill. Dyma rai enghreifftiau:  

  • ymgynghorydd treth  
  • archwiliwr  
  • dadansoddwr buddsoddi  
  • masnachwr ariannol  
  • banciwr adwerthu  
  • economegydd  
  • actiwari. 

Cyfleusterau

Mae Refinitiv Workspace wedi'i ymgorffori’n rhan o nifer o fodiwlau craidd ar draws yr Ysgol Fusnes. Mae'n darparu gwybodaeth am gyfrifon cwmnïau, newyddion a dadansoddi ac yn efelychu'r amgylchedd masnachu. Darperir hyfforddiant hefyd ar feddalwedd cyfrifeg Sage a sut i ddefnyddio Excel. 

Ymchwil

Mae gennym dîm rhagorol o academyddion sy'n cynnig arbenigedd eang, cyfunol, a enillwyd drwy brofiad proffesiynol ac ymchwil academaidd. Mae ein hacademyddion wedi goruchwylio ystod eang o bapurau ymchwil ôl-ddoethurol ac wedi defnyddio eu gwybodaeth ymchwil i ddatblygu rhaglenni busnes, rheoli a chyllid unigryw a nodedig er budd ein holl fyfyrwyr israddedig ac uwchraddedig.  

Yn ogystal â'r ystod eang o ddiddordebau ymchwil a gynrychiolir gan ein cyfadran academaidd, rydym wedi denu cydnabyddiaeth am feysydd penodol o arbenigedd ymchwil, a gynrychiolir gan ein canolfannau ymchwil: Y Ganolfan Cymdeithasau Cyfrifol (CRiSis) ag Y Ganolfan Menter Leol a Rhanbarthol (CLaRE). 

 

Astudio neu Weithio Dramor

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle i bob myfyriwr astudio, gwirfoddoli neu weithio dramor am un semester, blwyddyn academaidd, neu am ychydig o wythnosau yn ystod gwyliau’r Brifysgol.

Am fwy o wybodaeth, ewch i’n tudalen Cyfleoedd Byd-eang 

Astudio trwy gyfrwng y Gymraeg

Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn Brifysgol ddwyieithog. A ninnau’n brifysgol flaenllaw yng Nghymru, rydym yn falch o gynnig gwasanaethau cymorth a neuaddau preswyl arbennig i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith, gan annog ymdeimlad o gymuned a chartref oddi cartref. Bydd y myfyrwyr sy’n gymwys yn cael ysgoloriaethau cyfrwng Cymraeg y Brifysgol yn awtomatig a gallant hefyd wneud cais am ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Dysgwch fwy am ein Hysgoloriaethau Cyfrwng Cymraeg yma.