Bwrsariaeth Rashid Domingo

Bwrsariaeth Rashid Domingo; Myfyrwyr mewn labordy; offer labordy; myfyrwyr mewn cotiau gwyn

Hyd at £12,000 dros 3 blynedd - cynigir y Fwrsariaeth hon drwy rodd hael i’r Brifysgol gan y ddiweddar Mr Rashid Domingo.

Mae ar gael i ymgeiswyr am unrhyw gwrs israddedig yn IBERS neu yn yr Adran Ffiseg, sydd wedi bod mewn ysgol uwchradd/coleg yng Nghymru am o leiaf 3 blynedd.

Bwriedir i’r Fwrsariaeth helpu myfyrwyr a allai fel arall fod wedi methu â mynd i brifysgol oherwydd ystyriaethau ariannol.

Sylwch nad yw myfyrwyr cyfredol yn gymwys ar gyfer yr ysgoloriaeth hon. 

Sut mae gwneud cais?

Mae'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau 2024 bellach wedi cau.

Telerau ac Amodau