Dr. Roger Owen

Darlithydd mewn Drama (cyfrwng-Cymraeg)
Llun o Dr. Roger Owen.

Cyswllt

Ebost: roo@aber.ac.uk
Swyddfa: FF2 Parry-Williams
Ffôn: 01970 622836

Cyfrifoldebau

Wedi i mi raddio o’r Adran yma yn Aberystwyth ym 1987, bûm yn dilyn cwrs PhD ar hanes Theatr yn yr iaith Gymraeg ers yr Ail Ryfel Byd, a gweithio’n ysbeidiol fel actor proffesiynol. Ers dechrau gweithio yn yr Adran ym 1994, rwyf wedi parhau i weithio yn academaidd ac ymarferol fel darlithydd, cyfarwyddwr a pherfformiwr. Fy mhrif faes yw Astudiaethau Theatr, ond rwyf hefyd wedi dysgu ym maes Astudiaethau Perfformio (a hjyd yn oed ambell seminar mewn Ffilm flynyddoedd maith yn ôl!). Rwyf wedi dysgu’n rheolaidd ar fodiwlau megis Dadansoddi Perfformio, Performance in Context, Theatr a Chymdeithas, Ymarfer Cyfarwyddo, Cyflwyniad i Actio, Theatr Cymru a Drama Americanaidd.

Rwy’n aelod o Gwmni Cydweithredol Troed-y-Rhiw a Lurking Truth Theatre Company/ Cwmni’r Gwir sy’n Llechu

Dysgu

  • DD10120 – Cyflwyniad i Astudiaethau Theatr
  • DD21610 – Astudiaethau Ymarferol mewn Actio: Realaeth Seicolegol
  • DD30720 – Theatr Cymru
  • DD33830 – Ymarfer Cynhyrchu 1
  • DD33020 – Ymarfer Cyfarwyddo
  • DD39020 – Drama Americanaidd
  • AP30520 – Brith Gof
  • DR30320 - Theatre in Society

Cyhoeddiadau

  • ‘State of Flux: Metaphors of Society and Nation in the work of Charles Way, Dic Edwards and Ed Thomas’ yn Hazel Walford Davies (gol.), State of Play (Gomer, 1998)
  • ‘Y Theatr Amatur a’r Fro’ and ‘Theatr y Gegin a Chwmni’r Gegin, Cricieth’ in Hazel Walford Davies (ed.), Llwyfannau Lleol (Gomer, 2000).
  • ‘The Play of History: The Performance of Identity in Welsh Historiography and Theater’, in North American Journal of Welsh Studies (Vol. 1 No. 2 [Summer 2001]) ar-lein ar http://spruce.flint.umich.edu/~ellisjs/VolOne.html
  • Ar Wasgar: Theatr a Chenedligrwydd yn y Gymru Gymraeg 1979-97 (University of Wales Press, 2003)
  • ‘Powerful Simplification: Theatre in Wales in the 1990s and Beyond’ in Baz Kershaw (ed. ), Cambridge History of British Theatre vol.iii (Cambridge University Press, 2004
  • ‘Demolition needs a drawing, too...: Case Histories of the Lurking Truth Theatre Company’s Engagements with Barker’ yn Karoline Gritzner, David Ian Rabey (goln.), Theatre of Catastrophe: New Essays on Howard Barker (Llundain: Oberon, 2006)
  • ‘Hanes Ymddiriedolaeth Theatr Dewi Sant, 1959-1984’ yn Hazel Walford Davies (gol.), Theatrau Cenedlaethol Cymru (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, i’w gyhoeddi Hydref 2007)
  • ‘“The Net and the Self”: Colliding Views of Individuality and Nationhood in the pre-Devolutionary plays of Mark Jenkins and Ed Thomas’ yn Rebecca D’Monté, Graham Saunders (goln.), Cool Britannia: British Political Drama in the 1990s (Llundain: Palgrave Macmillan, 2008)
  • ‘Shattering All Excuse: A Performer’s Perspective on The Hanging Judge’ yn David Ian Rabey, Lovefuries (Bristol: Intellect, 2008)

Cynhyrchiadau Diweddar

  • Tosca (Puccini, addasiad dyfeisiedig) Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, 2004 
  • Meini Gwagedd (James Kitchener Davies), Cwmni Cydweithredol Troed-y-Rhiw, 2007 
  • Blodeuwedd (Saunders Lewis), Cwmni Cydweithredol Troed-y-Rhiw, 2008-9 
  • Y Bacchai (Ewripides, cyf. Gareth Miles) Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, 2009