Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu
Cyrsiau Israddedig
Mae gennym ni ystod eang o gyrsiau gradd cyffrous sydd wedi eu teilwra i sicrhau eich bod yn cael profiad cyfartal o theori ac ymarfer.
Cyrsiau Uwchraddedig
Bydd ein ystod ni o gyrsiau meistr yn eich paratoi chi ar gyfer ymchwil yn ogystal ag ymarfer proffesiynol.
Ymchwil
Cydnabyddir canran uchel o waith ymchwil yr Adran fel ymchwil 'mwyaf blaenllaw'r byd' ac yn 'ryngwladol ardderchog'.
Darllenwch ragor am ein gwaith ymchwil arloesol yma:
Menter a Chysylltiadau Allanol
Rydym ni a'n bryd ar fod yn sefydliad mentrus sydd a'i golygon ar y byd y tu hwnt i'r Adran, gan weithio'n agos gyda'r diwydiannau creadigol ehangach.
- Partneriaeth Boomerang
- Cwmniau Spinout
Newyddion
CYFARFOD UNDYDD
i gofnodi a dathlu
20 mlwyddiant marwolaeth
GWENLYN PARRY
Cyfraniadau gan rhai o’i gydweithwyr a’i ffrindiau agosaf gan gynnwys John Hefin John Ogwen a Maureen Rhys Meic Povey Ann Beynon Dydd Sadwrn, 5ed Tachwedd 11am-4pm Adeilad Parry-Williams Prifysgol Aberystwyth
£5 (£3)
Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth
Fe fydd y digwyddiad hwn yn trafod a chofnodi gwaith Gwenlyn Parry yn y theatr ac ar deledu. Fe fydd yn cynnwys cyfweliadau a chyfraniadau gan nifer o gydweithwyr allweddol iddo, a chan rhai o’r rheini a oedd yn ei adnabod orau. Nod y digwyddiad fydd i geisio canfod personoliaeth a natur Gwenlyn y dyn yn ogystal â’r artist. Fe fyddwn yn dangos enghreifftiau o waith Gwenlyn, ac yn cynnwys rhai sylwadau ar fideo yn ystod y dydd.
Ysgoloriaeth PhD mewn Cyfryngau Digidol
Mae Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yn falch o gyhoeddi ysgoloriaeth PhD ym maes y Cyfryngau Digidol a gyllidir drwy gynllun KESS. Cynigir yr ysgoloriaeth mewn partneriaeth â Golwg360. Mae’r ysgoloriaeth yn gyfle ardderchog i archwilio’r meysydd heriol hyn, gyda’r gwaith ymchwil wedi ei leoli’n gadarn yn yr economi ddigidol Gymreig. Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus gychwyn ar yr Ysgoloriaeth yn Medi 2011.
Manylion pellach yma ar gyfer Ysgoloriaeth Prosiect ‘Strategaethau ar gyfer Cynhyrchu a Dosbarthu Cynnwys Aml-Gyfryngol Ar-lein mewn Cyd-destunau Lleol a Hyper-Lleol yn yr iaith Gymraeg’ mewn cydweithrediad â Golwg360.
Dyddiad cau: 25 Awst 2011
Ysgoloriaeth ôl-raddedig PhD mewn Sgriptio.
Cynigir yr ysgoloriaeth am gyfnod o hyd at 5 mlynedd. Bydd yr ymchwil ym maes sgriptio ar gyfer y theatr ond gall yr astudiaeth hefyd gyfeirio at sgriptio mewn meysydd perthnasol eraill megis Ffilm a Theledu a/neu’r Cyfryngau Newydd. Mae gan yr Adran gryn brofiad ym maes doethuriaethau ymarferol a gall yr astudiaeth hon gynnwys elfen sylweddol o waith ymchwil creadigol, ymarferol.
Bydd disgwyl i’r deiliad gyfrannu at ddarlithio drwy gyfrwng y Gymraeg o’r ail flwyddyn astudio ymlaen. Bydd disgwyl i’r deiliad gwblhau’r prosiect ymchwil erbyn diwedd y drydedd neu’r bedwaredd flwyddyn a hynny am fod blwyddyn olaf y cynllun yn flwyddyn gymrodoriaeth pan fydd y deiliad yn derbyn cyflog fel Cymrawd.
Cefnogir yr Ysgoloriaeth gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Am fanylion pellach, cysyllter â’r Dr Anwen Jones, aej@aber.ac.uk (Dyddiad cau: 1 Awst 2011)
Manylion Cyswllt
Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a TheleduPrifysgol Aberystwyth
Adeilad Parry-Williams
Aberystwyth
Aberystwyth
SY23 3AJ
Ffôn: (01970) 622828 Ffacs: (01970) 622831 Ebost: tfts@aber.ac.uk Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu



