Ffioedd Dysgu

Mae ffioedd dysgu’n talu am gostau eich astudiaethau yn y brifysgol; mae’r ffioedd yn cynnwys taliadau am bethau fel y dysgu, eich arholiadau a graddio.

Mae benthyciadau a grantiau ar gael i’ch helpu i dalu eich ffioedd dysgu a’ch costau byw; os hoffech gael gwybod mwy am y benthyciadau a’r grantiau y gallai fod gennych hawl iddynt, ewch i’n hadran Benthyciadau i Fyfyrwyr.

Gweler ein ffioedd dysgu isod:

2016-17

Myfyrwyr y DU/UE
MathSwm (£)
Sesiwn Llawn 9,000
Un Semester 4,500
Cyfnewid - Sesiwn Llawn 1,350
Cyfnewid - Un Semester Dramor 9,000
Blwyddyn Dramor 1,350
Blwyddyn Mewn Diwydiant 900
Myfyrwyr Rhyngwladol
MathSwm (£)
Llawn-Amser Celfyddydau / Gwyddorau Cymdeithasol 13,000 *
Llawn-Amser Gwyddoniaeth 14,500 *

 

* Myfyrwyr Rhyngwladol
Ysgoloriaethau gwerth £2,000 y flwyddyn tuag at ffioedd dysgu. Ar gael i fyfyrwyr rhyngwladol (tu allan i'r UE) sy'n cychwyn rhaglen israddedig llawn-amser ym mis Medi 2016. Gweler https://www.aber.ac.uk/cy/undergrad/fees-finance/scholarships/non-eu/ am fanylion ac amodau.

Mae ffioedd dysgu israddedigion Cartref/yr UE yn cael eu rheoli gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Bydd y Brifysgol yn newid Ffioedd Dysgu israddedigion Cartref/yr UE yn unol ag unrhyw addasiad a hysbyswyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Bydd unrhyw newidiadau yn y ffioedd rheoledig hyn yn effeithio ar y myfyrwyr cyfredol a'r rhai newydd fel ei gilydd.

Y cyfraddau'r ffioedd ar gyfer ffioedd yn 2016/17 yn unig yw'r rhai a restrir uchod. Mae'r Brifysgol yn disgwyl y bydd Llywodraeth y DU yn caniatáu i ffioedd dysgu godi ychydig yn y dyfodol i gymryd i ystyriaeth bwysau chwyddiant yn y blynyddoedd canlynol. I'r blynyddoedd astudio canlynol dylech dybio y bydd 3% o gynnydd ar gyfer chwyddiant yn flynyddol.

Bydd y cynnydd yn y ffioedd yn adlewyrchu cyfuniad o wahanol ffactorau, ac ni fydd y cynnydd o reidrwydd yn cyd-fynd yn union â chyfradd chwyddiant cyhoeddedig y DU (Mynegai Prisiau Defnyddwyr) i'r flwyddyn. Dim ond un o blith llawer o ffactorau a ystyrir wrth osod y polisi ffioedd blynyddol yw cyfradd chwyddiant y DU.

2017-18

 

Myfyrwyr y DU/UE
MathSwm (£)
Sesiwn Llawn 9,000
Un Semester 4,500
Myfyrwyr Cartref ar Exchange yn 2017/18
Cyfnewid - Sesiwn Llawn I’w gadarnhau
Cyfnewid - Un Semester Dramor 9,000
Blwyddyn Mewn Diwydiant 1,000
Yn y blynyddoedd i ddod, Ffioedd Dysgu, bydd ffioedd ar gyfer Blwyddyn Dramor a Blwyddyn mewn Diwydiant yn cael eu costio yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru. Y ffi presennol yw 15% o’r ffi blynyddol cyffredin ar gyfer Cyfnewid – Blwyddyn Dramor ac 20% o’r ffi blynyddol cyffredin ar gyfer Blwyddyn mewn Diwydiant.
Myfyrwyr Rhyngwladol
MathSwm (£)
Llawn-Amser Celfyddydau / Gwyddorau Cymdeithasol 13,200 *
Llawn-Amser Gwyddoniaeth 14,750 *
Myfyrwyr Tramor ar Exchange yn 2017/18
MathSwm (£)
Cyfnewid - Sesiwn Llawn I’w gadarnhau
Blwyddyn Mewn Diwydiant 1,000
Yn y blynyddoedd i ddod, Ffioedd Dysgu, bydd ffioedd ar gyfer Blwyddyn Dramor a Blwyddyn mewn Diwydiant yn cael eu costio yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru. Y ffi presennol yw 15% o’r ffi blynyddol cyffredin ar gyfer Cyfnewid – Blwyddyn Dramor ac 20% o’r ffi blynyddol cyffredin ar gyfer Blwyddyn mewn Diwydiant.

 

* Myfyrwyr Rhyngwladol
Ysgoloriaethau gwerth £2,000 y flwyddyn tuag at ffioedd dysgu. Ar gael i fyfyrwyr rhyngwladol (tu allan i'r UE) sy'n cychwyn rhaglen israddedig llawn-amser ym mis Medi 2017. Gweler https://www.aber.ac.uk/cy/undergrad/fees-finance/scholarships/non-eu/ am fanylion ac amodau.

Mae ffioedd dysgu israddedigion Cartref/yr UE yn cael eu rheoli gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Bydd y Brifysgol yn newid Ffioedd Dysgu israddedigion Cartref/yr UE yn unol ag unrhyw addasiad a hysbyswyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Bydd unrhyw newidiadau yn y ffioedd rheoledig hyn yn effeithio ar y myfyrwyr cyfredol a'r rhai newydd fel ei gilydd.

Y cyfraddau'r ffioedd ar gyfer ffioedd yn 2017/18 yn unig yw'r rhai a restrir uchod. Mae'r Brifysgol yn disgwyl y bydd Llywodraeth y DU yn caniatáu i ffioedd dysgu godi ychydig yn y dyfodol i gymryd i ystyriaeth bwysau chwyddiant yn y blynyddoedd canlynol. I'r blynyddoedd astudio canlynol dylech dybio y bydd 3% o gynnydd ar gyfer chwyddiant yn flynyddol.

Bydd y cynnydd yn y ffioedd yn adlewyrchu cyfuniad o wahanol ffactorau, ac ni fydd y cynnydd o reidrwydd yn cyd-fynd yn union â chyfradd chwyddiant cyhoeddedig y DU (Mynegai Prisiau Defnyddwyr) i'r flwyddyn. Dim ond un o blith llawer o ffactorau a ystyrir wrth osod y polisi ffioedd blynyddol yw cyfradd chwyddiant y DU.

2018-19

Myfyrwyr y DU/UE

 

Ar hyn o bryd mae ffioedd dysgu israddedigion Cartref / UE a chyrsiau TAR o 2018/19 ymlaen yn destun adolygiad llywodraethol yng Nghymru a Lloegr.

 

Ar sail y wybodaeth ddiweddaraf sydd gael inni, i'r myfyrwyr Cartref/ yr UE newydd sy'n cofrestru ar gyrsiau amser-llawn israddedig a TAR yn dechrau yn 2018, mae Prifysgol Aberystwyth yn bwriadu gosod £9,000 yn ffi ddysgu i'r flwyddyn academaidd 2018/19.

 

Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau’r trefniadau ar gyfer 2019/20 ymlaen eto, sy’n golygu ei bod yn bosib y bydd y ffioedd dysgu i’r myfyrwyr sy’n dechrau yn 2018/19 neu wedi hynny yn codi am unrhyw flynyddoedd wedyn yn eu hastudiaethau, yn unol ag unrhyw uchafswm sy’n gysylltiedig a chwyddiant a ganiateir gan Lywodraeth Cymru am ffioedd dysgu. Byddai’r ffioedd uwch hyn yn berthnasol hefyd i’r ffioedd cyfrannol a godir am Flwyddyn Dramor a’r Flwyddyn mewn Diwydiant.

 

Rhoddwn wybod i'r holl ymgeiswyr a myfyrwyr am lefelau'r ffioedd i 2018/19 ac am unrhyw gynnydd a gysylltir â chwyddiant am y blynyddoedd astudio wedyn cyn gynted ag y ceir cadarnhad oddi wrth Lywodraeth Cymru, ac fe gyhoeddwn unrhyw ddiweddariadau [ar y tudalen hwn]. Dylech wirio'r wybodaeth ddiweddaraf am y ffioedd a fydd i'w gweld ar y tudalen hwn cyn i chi wneud cais.  Bydd manylion diweddaraf y ffioedd perthnasol yn cael eu cynnwys yn y ddogfennaeth ar gyfer unrhyw gynigion, ac fe fydd eich telerau a'ch amodau gyda ni yn disgrifio sut y gallai fod gennym hawl i gynyddu'r ffioedd, neu eu newid fel arall, yn ystod cyfnod eich astudiaethau gyda ni.

 

Mae sefyllfa'r ffioedd i fyfyrwyr o dramor yn wahanol.

 

Myfyrwyr Rhyngwladol
MathSwm (£)
Llawn-Amser Celfyddydau / Gwyddorau Cymdeithasol 13,450 *
Llawn-Amser Gwyddoniaeth 15,000 *

 

* Myfyrwyr Rhyngwladol
Ysgoloriaethau gwerth £2,000 y flwyddyn tuag at ffioedd dysgu. Ar gael i fyfyrwyr rhyngwladol (tu allan i'r UE) sy'n cychwyn rhaglen israddedig llawn-amser ym mis Medi 2017. Gweler https://www.aber.ac.uk/cy/undergrad/fees-finance/scholarships/non-eu/ am fanylion ac amodau.

 

I gael gwybod mwy am ffioedd dysgu israddedig myfyrwyr Cartref y DU / yr UE a myfyrwyr rhyngwladol (gan gynnwys ffioedd rhan-amser ac ail-wneud blwyddyn, a ffioedd eraill ad-hoc), cysylltwch â’r Swyddfa Ffioedd Myfyrwyr ar 01970 62 2043 neu fees@aber.ac.uk