Arlunio Taith y Porthmyn

 

This is a practical course in Welsh that will include depicting the local area using various drawing materials.

Key Facts

 

Language: Welsh

Duration: 5 sessions 

Number of Credits: 10

Tutor: Eurfryn Lewis

Learning Method: In-person 

Level: This module is at CQFW Level 4

Module Code: YD15810

Fee: £140 - Fee Waiver Scheme available  (See conditions below) 

Thanks to financial support from 'Medr' through the Fee Waiver Scheme, learners and Welsh speakers who live in Wales (and do not study at a university), are allowed to study this course for free.

Due to the nature of the course, there are limited numbers available so it will be first come, first served!

To begin your application please complete the Fee Waiver application form: Lifelong Learning Fee Waiver Application Form  (Academic Year 2024 - 2025)

 

 

 

 

Amlinell 

Cwrs ymarferol yw hwn yn y Gymraeg a fydd yn cynnwys delweddu'r ardal leol gan ddefnyddio deunyddiau lluniadu amrywiol. Ceir gweithdai i ddysgu sgiliau ymarferol a fydd yn cael eu hategu gan drafodaethau damcaniaethol am y lleoliadau a’r gwaith celf a ysbrydolwyd gan fywyd Y Porthmyn yn Nhregaron a’u hanes. Byddwn yn edrych ar waith artistiaid sydd wedi defnyddio nifer o wahanol ddeunyddiau lluniadu a thrwy gydol y cwrs byddwn yn cyfeirio at Artistiaid lleol a’r cysylltiad sydd rhyngddynt â hanes y Porthmyn.

Rhaglen y Cwrs

Cychwyn yn: Neuadd Goffa Tregaron 

30/08/2025 (10yb - 3.30yp)

Gweithgaredd i dorri’r iâ ac yna rhagarweiniad i'r modiwl a chyflwyniad/trafodaeth yn hen dref y Porthmyn, sef Tregaron. Rhywfaint o luniadu!
Cyflwyniad i gefndir stori'r Porthmyn a'i hanes diddorol. Trafodaeth am brofiadau personol y myfyrwyr a gwybodaeth am y Porthmyn. Taith gerdded i fannau cyfarwydd yn Nhregaron sydd â chysylltiadau â’r Porthmyn.

Astudiaeth bersonol:
Mae'r bwlch hwn o bythefnos wedi ei roi er mwyn i chi ddechrau gweithio ar eich asesiad cyntaf sydd yn cyfrif am 40% o’ch asesiad.

Sesiwn Dau: Ar leoliad: Soar y Mynydd

13/09/2025 (10yb - 3.30yp)

Astudio yn yr awyr agored, ymweliad â 3 lleoliad gwahanol ym mynyddoedd y Cambria: Llyn Berwyn, Y blwch ffôn yn Nantymaen a Chapel Soar y Mynydd.

Sesiwn Tri: Hostel Ieuenctid Tregaron

20/09/2025 (yr hwyr - amser i gael ei gadarnhau)

Astudio yn yr awyr agored, ymweliad â'r Hostel Ieuenctid Tregaron. Dosbarth lluniadu gyda'r nos!

Sesiwn Pedwar: Neuadd Llanwrtyd

11/10/2025 (10yb - 3.30yp)

Neuadd Victoria Llanwrtyd a’r Cylch. Cyflwyniad i'r archifau, parhau â’r astudiaeth ar y Porthmyn. Tiwtorial. Tasg i'r myfyrwyr ei chwblhau yn eu hamser eu hunain. Dysgu yn seiliedig ar wrthrychau

Astudio ar-lein er mwyn cwblhau'r uned gyfan o waith.
Gweithio ar eich llyfr olaf am Y Porthmyn.

Sesiwn olaf: Neuadd Goffa Tregaron

8/11/2025 (10yb - 3.30yp)

Dychwelyd i Dregaron

Canlyniadau Dysgu 

  1. Dangos amrywiaeth o dechnegau gan ddefnyddio pastelau i a) gofnodi ar leoliad a b) gwneud paentiad stiwdio.
  2. Darganfod a chofnodi a defnyddio tirweddau a motifau arwyddocaol gan gynllunio yn y dyddiadur gweledol a’r poster.
  3. Dychmygu a chyflawni peintiad o dirwedd mewn pastel a chyfryngau eraill o amrywiol ddeunyddiau ffynhonnell.
  4. Creu llyfr ‘codi fflap’ a fydd yn canolbwyntio ar eich astudiaethau o'r Porthmyn.
  5. Ymchwilio a defnyddio gwybodaeth a delweddau o genres tirwedd perthnasol yn y dyddiadur gweledol.

Asesiadau 

  1. Portffolio - 60%
  2. Poster - 20%
  3. Dyddiadur Gweledol

Beth sydd ei angen arnaf? 

Cyn i’r cwrs ddechrau gallech fynd ati i gasglu delweddau o olygfeydd amaethyddol, yn enwedig anifeiliaid fferm ac astudiaethau tirwedd. Gallai’r rhain gynnwys copïau o waith artistiaid, cardiau post, ffotograffau, printiadau o’r rhyngrwyd, darluniau ac ati - unrhyw ddeunydd gweledol, mewn gwirionedd, sy’n dal eich sylw. Bydd y deunyddiau hyn yn gychwyn i’ch llyfr braslunio/dyddiadur personol ac ychwanegir ato trwy gydol y cwrs.
Bydd yr artistiaid a astudir yn cynnwys: Ogwyn Davies, Margaret Jones, Aneurin Jones, Mike Jones, Sidney Nolan, John Tennant, David Cox yr Ieuengaf a llawer mwy o artistiaid a ddarluniodd y Porthmyn. Yn ogystal â'r llenyddiaeth leol gan "Joseph Evans, Y Swagman"