Naratif Mewn Celf
Naratif Mewn Celf can be studied as a stand-alone course at Aberystwyth University.
Key Facts
Language: Welsh
Duration: 10 Weeks
Number of Credits: 10
Tutor: Eurfryn Lewis
Learning Method: Online
Level: This module is at CQFW Level 4
Module Code: YD15310
Fee: £140.00 - Fee Waiver Scheme available
This course is currently unavailable for booking
Be the first to know when new dates are announced by joining our mailing list.
Thanks to financial support from Medr through the Fee Waiver Scheme : Lifelong Learning , Aberystwyth University individuals who live in Wales (and who are not studying at a university), can study this course for free.
Due to the nature of the course, there are a limited number available so it will be first come, first served!
Amlinell
Bydd y modiwl hwn yn cael ei ddysgu mewn tiwtorialau trwy greu ac archwilio arlunwyr cyfoes sy'n darlunio ac yn adrodd straeon trwy baentio. Bydd y myfyrwyr yn gwneud astudiaeth fer o hanes ‘naratif mewn paentio’ ac yn datblygu eu naratif eu hunain gyda thri darn gorffenedig ar thema o'u dewis. Mae hwn yn fodiwl ardderchog er mwyn datblygu portffolio ar gyfer ysgol gelf. Mae bylchau amser wedi eu cynnwys rhwng sesiynau i roi cyfle i atgyfnerthu syniadau’r myfyrwyr. Bydd pwyslais o fewn y modiwl hwn ar artistiaid o Gymru ond byddwn yn dechrau gyda'r stori gyntaf - sut mae artistiaid wedi darlunio straeon o'r Beibl.
Rhaglen y Cwrs
Bydd y cynllun gwaith yn cyfeirio at waith celf arlunwyr cyfoes fel Paula Rego, Stanley Spencer a Sidney Nolan; Karolina Laurusdottir, arlunwyr cyfoes Cymreig fel Gus Payne, Shani Rhys, James, a Kevin Sinnott. Bydd y sesiynau'n cael eu cyflwyno fel tiwtorial grŵp gyda chyflwyniad byr i rai technegau pan fo'n briodol. Bydd pedair sesiwn yn cael eu rhannu'n astudiaeth 5 awr a'u cyflwyno dros rai misoedd fel bod myfyrwyr yn gweithio o fewn ffiniau am yr ychydig sesiynau cyntaf hyd nes y sefydlir digon o hyder i gychwyn ar ddatblygu eu portffolio eu hunain.
Sesiwn Un: Arwyr. The Larrikin. Gwaith yn seiliedig ar baentiadau Sidney Nolan o Ned Kelly. PowerPoint: Cyfres Ned Kelly, Burke and Wills a Mrs Fraser. Creodd Nolan weithiau gydag emylsiynau cartref a phaentio chwistrell enamel.
Sesiwn Dau: Stanley Spencer: Naratif a dylanwadau crefyddol Piero della Francesca. Atyniad patrymau a dyfeisiau cyfansoddiadol safonol. Creu naratif Beiblaidd. Trafodaeth dosbarth: Pa mor bwysig yw'r sgil o luniadu'n dda? A yw'n iawn defnyddio ffotograffau fel defnydd cyfeiriol?
Sesiwn Tri: Safbwynt Cymreig: Shani Rhys, James a Kevin Sinnott. Beirniadaeth dosbarth. Cyflwyno eich syniadau i'ch cyfoedion. Creu cyfansoddiadau deinamig ar gyfer cyflawni paentiadau terfynol. Bydd bwlch hir rhwng y sesiwn hon a'r sesiwn olaf i roi cyfle i fyfyrwyr gael ymgolli a phenderfynu ar eu gwaith portffolio. Bydd tiwtor ar gael i roi cyngor tiwtorial ar-lein.
Sesiwn Pedwar: Penderfynu a dathlu. Asesiad a beirniadaeth dosbarth trwy adolygiad cymheiriaid. Dod o hyd i'ch beirniadaeth: I le'r ewch chi o fan hyn? Wyth cam creadigrwydd.
Canlyniadau Dysgu
- Adnabod y prosesau a'r camau y mae artistiaid yn eu defnyddio i ddatblygu eu naratif drwy'r dyddlyfr myfyriol.
- Ymgorffori sgiliau a thechnegau amrywiol yng ngwaith y myfyrwyr eu hunain.
- Cymharu a chyferbynnu fformatau a chyfansoddiadau naratif hanesyddol a chyfoes.
- Adnabod yr angen am wahanol fathau o waith paratoi: h.y. bywluniad, casglu deunyddiau cyfeirio, defnyddio ffotograffiaeth.
- Gwerthfawrogi agweddau symbolaidd, emosiynol, diwylliannol a chorfforol paentio naratif.
Asesiadau
- Portffolio - 50%
- Portffolio - 30%
- Dyddlyfr myfyriol - 20%
Gofynion Mynediad
Mae hwn yn gwrs i bawb. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol ac nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol.
Lifelong Learning Office, Second Floor of Cledwyn Building, Penglais Campus, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3DD
Tel: (01970) 621580 Email: learning@aber.ac.uk