Gwibdaith Drwy Lenyddiaeth Gymraeg 

 

This is a Welsh medium course run over a period of ten weeks giving students an introduction to some of Wales' poets and writers.

Key Facts 

 

Language: Welsh  

Duration: 10 Weeks

Number of Credits: 10

Tutor: Mererid Hopwood 

Learning Method: Online/Scheduled Sessions

Level: This module is at CQFW Level 4

Module Code: YD11010

Fee: £140.00 - Fee Waiver Scheme available

This course is currently unavailable for booking

Be the first to know when new dates are announced by joining our mailing list.

 

Thanks to financial support from Medr through the Fee Waiver Scheme  : Lifelong Learning , Aberystwyth University individuals who live in Wales (and who are not studying at a university), can study this course for free.

Due to the nature of the course, there are a limited number available so it will be first come, first served!

 

Amlinell 

‘Gwlad beirdd a chantorion’ medd yr anthem genedlaethol am Gymru, a thros gyfnod o ddeg wythnos, bydd y cwrs hwn yn rhoi cyflwyniad i rai o feirdd a llenorion Cymru. Bob wythnos trafodir un darn o lenyddiaeth o wahanol gyfnod, gan roi trosolwg o rai o brif themâu a ffurfiau llenyddiaeth Gymraeg dros 1000 o flynyddoedd a mwy.  

Bydd y sesiynau’n defnyddio cerddi a darnau o ryddiaith fel drws i agor trafodaeth am y gwaith, y bardd, yr hanes a’r gymdeithas. O’r Gododdin i Gwyneth Lewis, o Ddafydd ap Gwilym i Ddafydd Iwan, ceir cip ar Gymru drwy ei llenyddiaeth a chyfle hefyd i ddefnyddio a mireinio sgiliau iaith Gymraeg.  

Mae’r cwrs hwn yn eich galluogi i astudio o gartref a bod yn rhan o gymuned ar-lein gyda myfyrwyr eraill. Cynigir y modiwl drwy'r 'Bwrdd-du/Blackboard', sef ein hamgylchfyd dysgu rhithiol ym Mhrifysgol Aberystwyth.  

Mae’n addas ar gyfer dysgwyr Cymraeg sydd wedi cyrraedd rhengoedd uchaf Dysgu Cymraeg ac sy’n awyddus i ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth. Mae’r modiwl yn cynnig cymysgedd o ddysgu yn ôl eich amserlen eich hunain a seminarau byw ac ar-lein dros Microsoft Teams. Arweinir y sesiynau gan aelodau Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd y Brifysgol sy’n arbenigwyr cydnabyddedig yn y maes.  

Rhaglen y Cwrs 

Wythnos - 1  

  • Croeso a chyflwyniad i’r cwrs. Sesiwn sgiliau astudio gan gynnwys sut i ddefnyddio’r Bwrdd-du, Panopto ayb.  
    Gweithgaredd: cyflwyniad byw ar-lein gydag ymarferion mewn grwpiau. 
  • Cyflwyniad i’r Hengerdd. Cyflwyniad i farddoniaeth hynaf yr iaith Gymraeg, sy’n rhoi cipolwg ar erchyllterau rhyfel o safbwynt cymdeithas lle roedd marw’n arwrol ar faes y gad yn gamp i’w chlodfori  
    Gweithgaredd: cyflwyniad Panopto; gosodir 4 cwestiwn yn seiliedig ar y testun i’w trafod yn y sesiwn nesaf.  

Wythnos - 2  

  • Trafod yr Hengerdd  
    Gweithgaredd: seminar byw yn defnyddio’r cwestiynau a osodwyd fel sbardun i drafodaeth.  
  • Cyflwyniad i’r Mabinogion. Cyflwyniad i’r chwedlau canoloesol a adnabyddir, ers amser Charlotte Guest, fel Y Mabinogion: hud a lledrith, bwystfilod dychrynllyd, cyfeillgarwch, brad a moch arbennig yn erbyn tirwedd Cymru.  
    Gweithgaredd: cyflwyniad Panopto; gosodir 4 cwestiwn yn seiliedig ar y testun i’w trafod yn y sesiwn nesaf.  

Wythnos - 3   

  • Trafod Y Mabinogion. Gweithgaredd: seminar byw yn defnyddio’r cwestiynau a osodwyd fel sbardun i drafodaeth.  
  • Cyflwyniad i Ddafydd ap Gwilym a’i gyfoedion. Trosolwg o’r bedwaredd ganrif ar ddeg, un o’r cyfnodau mwyaf cyffrous yn hanes barddoniaeth Gymraeg. Roedd y cywyddwyr cynnar yn feirdd o fri a weddnewidiodd y traddodiad, a neb yn fwy na Dafydd ap Gwilym, un o feirdd mawr Ewrop yn yr Oesoedd Canol.  
    Gweithgaredd: cyflwyniad Panopto; gosodir 4 cwestiwn yn seiliedig ar y testun i’w trafod yn y sesiwn nesaf.  

Wythnos - 4 

  • Trafod Dafydd ap Gwilym a’i gyfoedion. Gweithgaredd: seminar byw yn defnyddio’r cwestiynau a osodwyd fel sbardun i drafodaeth.  
  • Cyflwyniad i ‘Merched a’r traddodiad barddol Cymraeg’  
    Trosolwg o gyfraniad merched i’r traddodiad barddol Cymraeg, gan gynnwys prif themâu eu cerddi a’r modd yr herient genres a chonfensiynau’r traddodiad barddol.  
    Gweithgaredd: cyflwyniad Panopto; gosodir 2 gwestiwn yn seiliedig ar y testun i’w trafod yn y sesiwn nesaf.  

Wythnos - 5 

  • Sesiwn drafod ac adolygu gyda chwis ar-lein.  

Wythnos - 6 

Trafod ‘Merched a’r traddodiad barddol Cymraeg’ Gweithgaredd: seminar byw yn trafod yr ymatebion i’r cwis ac yn defnyddio’r cwestiynau a osodwyd fel sbardun i drafodaeth.  

  • 20G: Detholiad o waith Iwan Llwyd. Cyflwyniad byr i yrfa Iwan Llwyd.  

Gweithgaredd: cyflwyniad Panopto; gosodir 4 Cwestiwn yn seiliedig ar y testun i’w trafod yn y sesiwn nesaf.   

Wythnos - 7   

Trafod cyd-destun cerddi Iwan Llwyd. Gweithgaredd: seminar byw yn defnyddio’r cwestiynau a osodwyd fel sbardun i drafodaeth Bydd cyfle i drafod, dadansoddi a chymharu enghreifftiau o waith gan gyfoeswyr Iwan.  

  • Crefft Cyfieithu Llenyddol: Williams a Walliams. Dyma gipolwg ar gyfieithu barddoniaeth a rhyddiaith ddiweddar. Trafodir cyfieithiad Rowan Williams o’r gerdd ‘Pa Beth yw Dyn?’ gan yr heddychwr a’r cenedlaetholwr, y bardd Waldo Williams. Edrychir hefyd ar gyfieithiadau Cymraeg o rai o nofelau poblogaidd David Walliams.  
    Gweithgaredd: cyflwyniad Panopto; gosodir darn i’w gyfieithu i’w drafod yn y sesiwn nesaf.  

Wythnos - 8   

  • Tasg Cyfieithu. Gweithgaredd: cyflwyniad a gweithdy byw yn trafod y darn a osodwyd i’w gyfieithu.  
  • Cyflwyniad i Gwyneth Lewis. Mae’r Prifardd Gwyneth Lewis yn fardd, llenor, dramodydd a libretydd. Bu’n Fardd Cenedlaethol Cymru rhwng 2005-06. Mae’n ysgrifennu yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd a’i harddull yn un o gynildeb a hwnnw’n aml yn ddeifiol.  
    Gweithgaredd: cyflwyniad Panopto; gosodir 4 cwestiwn yn seiliedig ar y testun i’w trafod yn y sesiwn nesaf.   

Wythnos - 9  

  • Trafod Gwyneth Lewis. Gweithgaredd: seminar byw’n defnyddio’r cwestiynau a osodwyd fel sbardun i drafodaeth.  
  • Cyflwyniad i rai o feirdd caneuon ‘poblogaidd’ Cymru. Mae barddoniaeth ddiddorol a chyfoethog yn nifer o ganeuon poblogaidd Cymru a’r gweithiau yn rhychwantu’r gerdd brotest a’r emyn, y delyneg a’r anthem. Yn y sesiwn hon, cawn gyfle i graffu ar rai o’r geiriau hyn o waith rhai fel Dafydd Iwan a Kizzy Crawford a gwerthfawrogi’r grym sydd y tu ôl i’r symlrwydd ymddangosiadol.  
    Gweithgaredd: cyflwyniad Panopto; gosodir 4 cwestiwn fel sbardun i drafodaeth yn y sesiwn nesaf.  

Wythnos - 10 

Trafod beirdd caneuon poblogaidd Cymru. Gweithgaredd: seminar byw.  

  • Adolygu a pharatoi ar gyfer y traethawd 
    Atgyfnerthir y sesiwn byw gan sesiwn Panopto yn trafod llunio traethawd sy’n ymateb i destun llenyddol.   

Canlyniadau Dysgu 

Ar ôl cwblhau'r modiwl dylai'r rhai sydd ar y cwrs fod yn gallu:  

  1. Dangos dealltwriaeth o brif themâu llenyddiaeth Gymraeg o’r gorffennol tan heddiw a datblygu gwybodaeth am rai o’r awduron a’r testunau allweddol. 
  2. Dadansoddi, dehongli a thrafod detholiad o destunau llenyddol gwreiddiol. 
  3. Datblygu’r gallu i ddarllen yn feirniadol. 
  4. Magu hyder i drafod llenyddiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar. 
  5. Llywio gwefannau i chwilio am ffynonellau gwreiddiol ac eilaidd a defnyddio’r deunydd hwnnw. 
  6. Crynhoi, dadansoddi a chyfuno gwybodaeth o blith yr amrywiaeth o ddeunydd a ddefnyddir ar y modiwl, er mwyn ysgrifennu traethawd byr sy’n dangos dirnadaeth o waith y bardd/yr awdur a ddewiswyd. 

Asesiadau 

  1. Cyfieithu detholiad cryno o ffynhonnell ysgrifenedig. 500 gair (25% o gyfanswm y marc).  
  2. Prosiect ar un o’r unigolion a gyflwynwyd ar y cwrs. 1500 gair (75% o gyfanswm y marc). 

Rhestr Darllen 

Llawlyfr y Modiwl a fydd yn cynnwys darnau allweddol o’r testunau a drafodir  
Literary translation a practical guide  
Landers, Clifford E. c2001 e-lyfr:  
Ysgrifau a Chanllawiau Cyfieithu gan Delyth Prys a Robat Trefor  
I. Williams (gol.), Canu Aneirin (Aberystwyth, 1938)  
K. Jackson (ed.), The Gododdin: The Oldest Scottish Poem (Edinburgh, 1969)  
Gwefan www.dafyddapgwilym.net  
D. Johnston, Llên yr Uchelwyr: Hanes Beirniadol Llenyddiaeth Gymraeg 1300–1525 (Caerdydd, 2005)  

Gofynion Mynediad 

Mae hwn yn gwrs i bawb. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol ac nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol.  

Beth sydd ei angen arnaf? 

Gan mai cwrs ar-lein yw hwn, bydd angen y canlynol arnoch: 

  • Mynediad i'r rhyngrwyd. 
  • Mynediad i liniadur neu gyfrifiadur gyda chamera gwe a meicroffon; gallai clustffonau fod yn ddefnyddiol hefyd. 
  • Defnyddiwch borwr gwe Chrome lle bo hynny'n bosib.