Cwrs Cynganeddu: Yr Ail Gam
This is a Welsh medium course on ‘cynghanedd’ aimed at reminding students of the rules and enable them to practice composing poems.
Key Facts
Language: Welsh
Duration: 10 Weeks
Number of Credits: 10
Tutor: Ceri Wyn Jones
Learning Method: Online: Scheduled Sessions
Level: This module is at CQFW Level 4
Module Code: YD12910
Fee: £255.00 - Fee Waiver Scheme available
This course is available to book.
Thanks to financial support from Medr through the Fee Waiver Scheme : Lifelong Learning , Aberystwyth University individuals who live in Wales (and who are not studying at a university), can study this course for free.
Due to the nature of the course, there are a limited number available so it will be first come, first served!
To begin your application please complete the Fee Waiver application form: Lifelong Learning Fee Waiver Application (Academic Year 2025/2026)
Amlinell
Rhaglen y Cwrs
- 1. Adolygu gwybodaeth o dermau technegol y gynghanedd ac o ofynion y cyn ganeddion gwahanol: croes, croes o gyswllt, traws, sain a llusg. Dadansoddi llinellau o gerddi buddugol y Gadair eleni.(Gosod tri chwpled/pennill cywydd fel tasg)
2 (a)Dadansoddi a thrafod cwpledi’r dosbarth a fyddai ‘ar y cyd’ yn well na ‘y dosbarth’ – rhag i bobl fynd i ofidio y byddan nhw o dan y chwyddwydr fel unigolion?
(b)Adolygu gofynion yr englyn a chyflwyno nifer o esiamplau o waith awduron amlwg (a llai amlwg). (Gosod englyn fel tasg.)
3. (a) Dadansoddi a thrafod englynion y dosbarth
(b) Cyflwyniad i’r amrywiaeth o ddulliau posib o gynganeddu rhwng y gair cyrch a’r ail linell, (Gosod englyn fel tasg.)
4. (a) Dadansoddi a thrafod englynion y dosbarth
(b) Cyflwyniad i fesurau gwahanol yr englyn (ee englyn milwr ac englyn penfyr). (Gosod englyn milwr/penfyr fel tasg)
5 (a) Dadansoddi a thrafod englynion milwr a phenfyr y dosbarth
(b) Cyflwyniad i’r hir-a-thoddaid. (Gosod tasg gweithio llinellau decsill.)
6 (a) Dadansoddi a thrafod llinellau decsill y dosbarth
(b) Cyflwyniad i gyfundrefn y pedwar mesur ar hugain.
(c) Gosod tasg englyn neu hir-a-thoddaid
7. (a) Dadansoddi a thrafod englynion/hir-a-thoddeidiau’r dosbarth
(b) Cyflwyniad i fesurau digynghanedd cyfres Y Talwrn
(c) Gosod englyn fel tasg.
8. (a) Dadansoddi a thrafod englynion y dosbarth
(b) Gosod tasgau gwaith cartref ar gyfer Steddfod y Dosbarth (i’w chynnal yn ystod gweithdy 10)
9. (a) Adolygiad o’r cwrs ar ei hyd.
(b) Neilltuo amser ar gyfer rhoi tro ar dasgau’r Steddfod.
10. Steddfod y Dosbarth, sef y pedair tasg a osodwyd yng ngweithdy 8, sef Englyn, Cwpled, Triban a Limrig
Mae’n bosib y bydd union gynnwys y gweithdai yn gorfod newid o wythnos i wythnos, gan ddibynnu ar brofiad blaenorol y myfyrwyr a’r graddau y maen nhw’n ymdopi â’r gwaith newydd.
Manylion y Cwrs
Ar-lein; Sesiynau Byw
Dyddiadau:-
Dydd Mawrth
Amser:
7:00yp - 8:30yp
(Mae’n bosib y bydd yn rhaid i’r tiwtor newid amseroedd / dyddiadau ambell sesiwn ond rhoddir blaen-rybudd teg).
Canlyniadau Dysgu
- 1. Adnabod a llunio gwahanol ffurfiau ar y gynghanedd;
- 2. Llunio cwpledi/pennill cywydd
- 3. Llunio englyn penfyr ac englyn milwr
- 4. Llunio llinellau decsill
- 5. Llunio englynion
Asesiadau
- Trafodaethau - 40%
- Aseiniad ysgrifenedig neu ar lafar 1 - 30%
- Aseiniad ysgrifenedig neu ar lafar 2 - 30%
Gofynion Mynediad
Mae hwn yn gwrs i bawb. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol ac nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol. Mae’r cwrs yn addas i ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg.
Beth sydd ei angen arnaf?
- Mynediad i'r rhyngrwyd.
- Mynediad i liniadur neu gyfrifiadur gyda chamera gwe a meicroffon; gallai clustffonau fod yn ddefnyddiol hefyd.
- Defnyddiwch borwr gwe Chrome lle bo hynny'n bosib.