Er gwaetha’r honiad fod yr haul bob tro’n gwenu ar ddiwrnodau agored Aberystwyth, doedd hynny’n sicr ddim yn wir pan ddois i yma. Fe wnes i gyrraedd Aberystwyth am y tro cyntaf ar un o ddyddiau glawog a llwyd nodweddiadol mis Chwefror – ond wnaeth hynny ddim amharu ar fy hwyliau! O’r eiliad y dechreuais i’r cwrs Cyfrifeg a Chyllid, roedd y tiwtoriaid yn gymwynasgar, yn amyneddgar a bob amser yno i’r myfyrwyr. Roedd y cwrs yn rhoi sylw i’r hanfodion i gyd cyn symud ymlaen at feysydd fel buddsoddiadau a threthiant. O feddwl nad oedd llawer ohonom erioed wedi astudio Cyfrifeg o’r blaen, doedden ni byth yn teimlo ein bod ni o dan anfantais. Roedd y darlithwyr yn llawn gwybodaeth ac roedd cymryd rhan yn cael ei annog gydol y cwrs.

Yn y Brifysgol, fe wnes i setlo i fywyd myfyrwyr ar unwaith, gan wneud ffrindiau gyda chyd-letywyr yn y fflat a chyd-fyfyrwyr ar y cwrs i ddechrau. Dydw i ddim yn mynd i raffu celwyddau a dweud nad oeddwn i’n ofnus ar y pryd, mi o’n i. Ond yna fe wnes i i sylweddoli fod pob myfyriwr blwyddyn gyntaf yn yr un cwch, a daeth cyfarfod â phobl newydd yn llawer haws. Mae’r dref yn cynnig bywyd cymdeithasol amrywiol a waeth pa noson yw hi, mae yna wastad bobl o gwmpas. Yn bersonol, roeddwn i wrth fy modd yn byw ger y môr ac er nad yw Aberystwyth yn cynnig amrywiaeth eang o siopau, rydych chi’n siŵr o weld rhywun rydych chi’n ei adnabod wrth gerdded o gwmpas y dref.

 

Yn ystod fy nghyfnod yn Aberystwyth, fe ges fy ethol yn gynrychiolydd cwrs ddwywaith cyn dod yn llysgennad myfyrwyr i weithio ar ddiwrnodau agored. Cefais fy ethol yn ysgrifennydd y Fforwm Ymgynghorol Staff Myfyrwyr yn fy nhrydedd flwyddyn ac roeddwn hefyd yn drysorydd Cymdeithas Buddsoddiadau Aberystwyth. Fe wnes i fwynhau bod yn llysgennad a chael y cyfle i helpu darpar fyfyrwyr ac roedd cael fy ethol yn ysgrifennydd yn ffordd wych o fod yn rhan o’r Ysgol Rheolaeth a Busnes.

Ar hyn o bryd, rwy’n astudio ar gyfer MSc mewn Cyfrifeg Ryngwladol a Llywodraethu Corfforaethol ym Mhrifysgol Sussex, ar ôl ennill Ysgoloriaeth Hornsey. Byddaf hefyd yn treulio gwyliau’r Pasg fel intern yn Fidelity Investments yn Llundain lle rwy’n gobeithio ennill profiad a dealltwriaeth amhrisiadwy o’r gorfforaeth. Mae mynychu prifysgol fwy wedi gwneud i fi sylweddoli pa mor ffodus oeddwn i fel myfyriwr israddedig. Roedd y darlithwyr wrth law bob amser ac os oedd gennych chi unrhyw gwestiynau, roedd modd i chi bicio i fyny’r grisiau i’w swyddfeydd yn Adeilad Rheidol. Roedd staff swyddfa’r Ysgol Rheolaeth a Busnes bob amser yn barod i helpu hefyd.

Diolch i’r profiadau ges i yn Aberystwyth, rwy’n teimlo fy mod i wedi hogi a datblygu nifer o sgiliau rhyngbersonol yn ogystal â meithrin gwybodaeth hollbwysig a fydd yn hanfodol ar gyfer fy ngradd Meistr. Fe allaf ddweud â’m llaw ar fy nghalon fy mod i wedi mwynhau fy nhair blynedd yn Aberystwyth ac fe fyddai’n fythol ddiolchgar am gefnogaeth ddiflino’r darlithwyr drwy gydol fy nghwrs ngradd.