Lle ydych chi ar hyn o bryd?

Rwy’n byw yn Llundain ac yn gweithio i’r EDF Energy London Eye

Sut gwnaethoch chi gyrraedd yno?

Ar ôl graddio o Brifysgol Aberystwyth, symudais i Lundain i weithio mewn asiantaeth deithio i gael profiad gwaith. Ar ôl cael tri mis o brofiad gwaith, penderfynais chwilio am swydd yn ymwneud yn uniongyrchol â thwristiaeth, a oedd yn golygu ymwneud â chwsmeriaid. Fe welais i swydd dymhorol yn adran fanwerthu’r London Eye, fel cynorthwyydd gwasanaethau gwesteion yn ystod misoedd yr haf. Dyma wneud cais amdani, ac o fewn pythefnos o gael fy asesu, fe ges i gynnig y swydd. Ar ôl profi fy ngwerth yn ystod y contract tymhorol tri mis, fe ges i gynnig swydd barhaol yn gweithio i’r London Eye.

I ble ydych chi’n mynd?

Rwy’n gweld y cyfle hwn fel carreg gamu yn fy ngyrfa. Y London Eye yw un o’r atyniadau twristaidd mwyaf yn Llundain ac mae’r cwmni sy’n ei weithredu (Merlin Entertainments) yn un o’r sefydliadau adloniant mwyaf yn y byd. Hoffwn ddatblygu fy ngyrfa o fewn y sefydliad blaenllaw hwn, gan fy mod i’n angerddol am weithio i gwmni sy’n ymwneud â busnes atyniadau twristiaeth. Hoffwn symud ymlaen o’m swydd bresennol i ddod yn arweinydd tîm yn yr adran fanwerthu. Rydw i wedi cysgodi gweithwyr mewn adrannau eraill o’r cwmni, megis yr adrannau masnachol, lletygarwch a rheoli reidiau, er mwyn dod i ddeall sut mae pob adran yn gweithio. Yn y dyfodol, fe allwn i wneud cais am swyddi uwch yn EDF Energy London Eye neu yn unrhyw un o’r atyniadau eraill y mae Merlin yn eu rhedeg, naill ai yn y DU neu yn unrhyw un o’r 16 gwlad arall ledled y byd lle mae’r cwmni’n gweithredu.

Beth, os rywbeth, fyddech chi wedi’i wneud yn wahanol yn ystod eich amser yn Aberystwyth i’ch helpu i baratoi’n well ar gyfer eich gyrfa/bywyd ar ôl graddio?

Fe fyddwn i wedi treulio mwy o amser yn ystyried fy opsiynau gyrfa yn gynharach yn fy mywyd prifysgol ac wedi gofyn am fwy o gyngor gan ddarlithwyr yn ogystal â’r Gwasanaeth Cynghori ar Yrfaoedd. Fe fyddwn i hefyd wedi cymryd rhan mewn mwy o gyfleoedd profiad gwaith mewn sefydliadau sy’n gysylltiedig â thwristiaeth er mwyn cael blas ar wahanol yrfaoedd y gallwn eu hystyried ar ôl graddio.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i fyfyriwr sy’n astudio eich pwnc chi yn y brifysgol nawr?

Gofynnwch am help bob amser a pheidiwch ag oedi cyn mynd i weld eich darlithwyr i drafod unrhyw broblemau. Yn ystod y gwyliau, ewch i ymweld â lleoedd yr hoffech chi weithio yn y dyfodol a cheisio cael profiad gwaith perthnasol. Bydd hyn yn taflu goleuni ar ba mor addas yw’r gyrfaoedd hyn i chi, ac yn eich galluogi i ddatblygu cysylltiadau gwerthfawr â phobl yn y diwydiant. Gall hefyd agor drysau ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol. Meddyliwch am yr hyn rydych chi eisiau ei gyflawni o fynd i’r Brifysgol a sut rydych chi’n mynd i gyrraedd y nod.