Ar ôl graddio o ysgol uwchradd yng Ngwlad Pwyl, dechreuais ar gwrs gradd Rheoli Twristiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth am ei fod yn cyd-fynd â’m diddordebau, i raddau helaeth. Diolch i’r sbectrwm eang o ddewisiadau modiwl posib sy’n cael eu cynnig gan y Brifysgol, fe wnes i lwyddo i greu’r cwrs a oedd yn fwyaf addas ar gyfer y proffil addysg o’m dewis. Yn ystod tair blynedd fy nghwrs israddedig, llwyddais i gyfeirio fy addysg tuag at elfennau Marchnata, Busnes ac Astudiaethau Cymdeithasol, gyda hyn yn ategu fy ngwybodaeth am dwristiaeth.

Lle ydych chi ar hyn o bryd?

Chwe mis ar ôl graddio, rydw i bellach ar Gwrs Marchnata Uwch (Gradd Meistr mewn Astudiaethau Economaidd a Chymdeithasol) yn Aberystwyth. Rwy’n cydweithio â Chronfa Gymdeithasol Ewrop ar brosiect rheoli sy’n cynnwys cydweithredu’n agos â chynrychiolwyr y diwydiant a defnydd ymarferol o sgiliau a’u datblygiad. Gan fy mod i’n fyfyriwr Prosiect Mynediad at Radd Meistr, mae fy nghwrs yn cael ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

Yn fy swydd bresennol, rydw i wedi gallu datblygu nifer o gysylltiadau defnyddiol a meithrin profiad gwerthfawr ym meysydd marchnata a rheoli yn y diwydiant. Yn ogystal, bydd gweithgareddau’r prosiect sy’n gysylltiedig â’r cwrs yn sicr o roi hwb i’m rhagolygon i’r dyfodol. Mae’r cwrs ei hun yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gydweithio’n agos â chynrychiolwyr y diwydiant sy’n fuddiol dros ben am ei fod yn gyfle i greu rhwydweithiau proffesiynol. Ar hyn o bryd, rydw i’n gwneud cais am ysgoloriaeth PhD.

Sut gwnaethoch chi gyrraedd yno?

Mae gen i ddiddordeb mawr mewn marchnata, ac roedd gen i awydd go iawn i hogi fy sgiliau a’m gwybodaeth yn y maes hwn, ac fe wnaeth hynny fy sbarduno i wneud cais i’r cwrs Mynediad at Radd Meistr sy’n cael ei gynnig gan Brifysgol Aberystwyth. Roedd y cwrs yn apelio’n fawr am ei fod yn ymwneud â rhoi sgiliau myfyrwyr a theori ar waith yn ymarferol.

Ble rydych chi’n mynd?

Yn ddelfrydol, fe fyddwn i’n hoffi mynd ymlaen i gwblhau cwrs PhD sy’n ymwneud â Marchnata a Rheolaeth yn ogystal â materion Twristiaeth. Rydw i hefyd eisiau cael profiad gwaith perthnasol ym meysydd marchnata a thwristiaeth.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i fyfyriwr sy’n astudio eich pwnc chi yn y brifysgol nawr?

Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cael cydbwysedd da rhwng astudio a bywyd cymdeithasol. Mae cyfleoedd diri yn y Brifysgol ac ar hyd a lled tref Aberystwyth. Gwrandewch ar gyngor eich tiwtoriaid a’ch darlithwyr, ei ddadansoddi, ei ddeall a’i ddefnyddio. Mae’r tiwtoriaid a’r darlithwyr yn y Brifysgol yn bobl brofiadol a hyddysg iawn sy’n fwy na pharod i’ch helpu gyda’ch datblygiad. Fe fydd yr hyn rydych chi’n ei wneud yn y Brifysgol yn dylanwadu ar eich bywyd yn y dyfodol, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud yn fawr o’ch amser, a cheisiwch gadw cymaint o ddrysau ag sy’n bosib ar agor, fel na fyddwch chi’n difaru dim.