Ymweld
Diwrnodau Agored y Brifysgol
Mae ymweld ag Aberystwyth yn ffordd wych o ddysgu mwy am yr Ysgol Rheolaeth a Busnes.
Cofrestrwch i ddod i Ddiwrnod Agored Prifysgol Aberystwyth o flaen llaw a bydd rhaglen yn cael ei hanfon atoch chi. Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn astudio yn Aberystwyth ymweld ac mae holl adrannau’r Brifysgol yn cymryd rhan. Mae Diwrnodau Agored yn rhoi cyfle i chi drafod ein cyrsiau a’n hadnoddau â’r staff academaidd.
- Rhagor o wybodaeth am Ddiwrnodau Agored