Cyfieithu
Nod yr Uned Gyfieithu yw rhoi gwasanaeth parod ac effeithiol, gan sicrhau bod pob cyfieithiad o'r ansawdd uchaf. Cynigir Gwasanaeth Cyfieithu Cymraeg > Saesneg a Saesneg > Cymraeg i holl adrannau academaidd a gweinyddol Prifysgol Aberystwyth.
Golygu
Anogir staff adrannau a swyddfeydd i gysylltu â’r Ganolfan hefyd os hoffent iddynt edrych dros ddarn o waith y maent wedi ei gyfieithu eu hunain neu wedi ei ysgrifennu yn Gymraeg cyn iddo ymddangos yn gyhoeddus er mwyn sicrhau bod y gwaith yn gywir a bod pob gair a threiglad yn eu lle!
Cyfieithu ysgrifenedig
Dyma enghreifftiau o’r mathau o ddogfennau yr ydym yn eu cyfieithu. Os nad ydych yn siŵr a yw eich gwaith chi yn berthnasol i un o’r categorïau hyn cysylltwch â’r Ganolfan am gyngor pellach.
- Dogfennau gweinyddol
- Gohebiaeth
- Lawlyfrau/taflenni gwybodaeth
- Gwefannau adrannol a thudalennau'r Brifysgol ar y we
- Deunydd cyhoeddusrwydd
- Hysbysebion
- Arwyddion a hysbysiadau
- Cofnodion rhai o bwyllgorau'r Brifysgol
- Deunydd addysgu
- Papurau arholiad at gyrsiau sy'n rhan o gynlluniau gradd
- Sgriptiau arholiad a thraethodau sy'n rhan o asesiad ffurfiol
- Ffurflenni cais gan ddarpar-fyfyrwyr
- Ceisiadau am swyddi neu ddyrchafiadau yn y Brifysgol
- Papurau/sgriptiau arholiadau am ysgoloriaethau mynediad
Cyfieithu ar y pryd
Rydym yn darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gyfer sawl achlysur, ac anogir adrannau i ystyried gofynion dwyieithrwydd wrth drefnu pwyllgorau neu gyfarfodydd mewnol ac allanol. Cysylltwch â’r Ganolfan i drefnu cyfieithu ar y pryd neu os hoffech gyngor. Ymhlith y cyfarfodydd a’r pwyllgorau y trefnir cyfieithu ar y pryd ar eu cyfer mae’r canlynol:
- Y Llys, y Cyngor, y Senedd a phwyllgorau sy'n ateb iddynt
- Byrddau adrannol
- Cyfweliadau/gwrandawiadau yn ymwneud â staff neu fyfyrwyr
- Cynadleddau a chyfarfodydd a drefnir gan yr adran