Proffilau Myfyrwyr

Samuel Luke JacksonSamuel Luke Jackson

Dewisais i astudio ym mhrifysgol Aberystwyth ar ôl i fi ymweld a’r lle ar ddiwrnod agored a gwnaeth yr adran argraff arnaf i. Mae staff yr adran gyfrifiadureg yn gyfeillgar, yn frwdfrydig, gwybodus ac yn hawdd mynd atynt. Cynigir amrywiaeth eang o fodiwlau yma sydd yn siwtio fy mwriadau ac roeddwn i’n awyddus treulio blwyddyn mewn diwydiant fel rhan o’m cwrs (MEng Peirianneg Meddalwedd) sydd yn dechrau mewn ychydig o wythnosau! Mae Aberystwyth yn lle prydferth i fyw ac astudio ynddo, yn enwedig o ystyried y ffaith nad ydw i’n dod o dref ger y lli. Mae’r lle’n ymlaciedig ac yn addas i fyfyrwyr. Mae gwastad rhywbeth diddorol yn mynd ymlaen ac mae’n hawdd cwrdd â rhywun yr ydych yn ei adnabod.

Catrin Jones

Mae’r adran wedi bod yn ardderchog. Nad oedd profiad cyfrifiaduro gennyf pan ddechreuais ond roedd hi’n hawdd dysgu gan fod y staff mor gyfeillgar ac yn awyddus rhoi ateb i unrhyw un o’m cwestiynau. Hefyd, mae’r gwasanaeth ymgynghorol yn bendigedig os mae angen cymorth ynglŷn â’r asesiadau arnoch. Dw i wrth fy modd mynd allan yn Aberystwyth, mae’n rhad i deithio o gwmpas ac yn hawdd cwrdd â phobl newydd yn y nos. Hyd yn oed os mae’ch ffrindiau chi’n mynd adref yn gynnar, byddwch chi’n gweld naill ai ffrindiau eraill neu’n cwrdd â phobl newydd. Mae llawer o bethau gwych wrth sôn am Aberystwyth ond dw i’n hoffi’r ffaith ei fod e’n dref bach i’w gymharu a phrifysgolion eraill, Mae hyn yn golygu llawer o gyfleoedd cwrdd â ffrindiau gan ddamwain yn aml ac mae’n dref i fyfyrwyr. Mae’n fwy hyfryd a mwy bersonol na phrifysgolion eraill. Mae Aberystwyth yn llawer mwy gyfeillgar.

Connor Goddard (3ydd blwyddyn - lleoliad blwyddyn mewn diwydiant)Connor Goddard (3ydd blwyddyn - lleoliad blwyddyn mewn diwydiant)

Ymddangosodd Aber i fi fel y gorau o’r ddechreuad. Y graddfeydd gyflogadwyedd uchel sydd gan yr adran a wnaeth i mi ddewis astudio yma yn y lle cyntaf a’r ffaith bod y cyrsiau cyfrifiadureg i gyd yn achrededig gan y Gymdeithas Brydeinig Cyfrifiaduron (BCS). Mae hyn yn bwysig, yn fy marn i, gan ystyried y sefyllfa heddiw o ran swyddi. Dwy flynedd yn ddiweddarach ac rwy’n falch o hyd mod i wedi penderfynu astudio yma. Rwy’n deall yn llwyr pam mae graddfeydd gyflogadwyedd mor uchel i raddedigion gan y brifysgol, oherwydd mae’r adran yn rhoi pwyslais ar ddysgu a datblygu sgiliau hanfodol yn y gweithle o’r diwrnod cyntaf. Un gynllun trawiadol yw’r penwythnos hyfforddiant cyflogadwyedd yng Ngregynog, Powys. Aethom fel adran i faenordy hyfryd yn y cefn gwlad Cymreig lle roedd arbenigwyr a chyflogwyr diwydiant go iawn yn barod i rhoi cyngor inni o amgylch beth sydd yn ddisgwyliedig ohonom yn y gweithle. Yn ystod y penwythnos roedd cyngor am strwythuro CV a thechnegau mewn cyfweliad, sut i farchnata eich hun ar-lein a sgiliau angenrheidiol er mwyn ennill swydd. Roedd yr hyfforddiant yma mor ddefnyddiol i fi wrth chwilio am swydd ac yn sgil y digwyddiad ces i interniaeth gyda Renishaw, cwmni rhyngwladol R&D wedi’u leoli yn Swydd Gaerloyw. Mae’r adran hon yn ardderchog a baswn i’n herio un rhywun i ddod o hyd i gasgliad staff mor gyfeillgar nag y rhai sydd yn Aber. Gan fod bolisi ‘drws agored’ gan bob aelod o staff, nad oes anhawster rhy fawr neu’n rhy fach i ddelio gyda fe. Cynigir cyfleoedd cyflogadwyedd a rydw i’n gweithio fel arddangoswr a llysgennad i’r adran (mae hyn yn helpu gyda’r biliau). Os yr ydych eisiau mynd i brifysgol sydd yn gofalu ar ôl y myfyrwyr, sydd yn darparu bywyd cymdeithasol gwych ac sydd yn agos at y môr, dylech chi’n ystyried o ddifri prifysgol Aberystwyth.