Diolch am Ddod

Cawsom ni gwmni cyn-fyfyrwyr, cyfeillion, cefnogwyr, staff a myfyrwyr wrth i ni ddathlu 130 o flynyddoedd o Gymdeithas y Cyn-Fyfyrwyr a chanrif a hanner ers sefydlu Prifysgol Aberystwyth ym Mhenwythnos Aduniad y Cyn-fyfyrwyr, 23-25 Mehefin 2023.

Roedd yn amser addas i ni ddathlu’r cerrig milltir hyn, ond hefyd yn gyfle i rannu newyddion y Brifysgol heddiw — a nodi’r datblygiadau newydd a'n llwyddiannau academaidd.  

A hithau’n bedair blynedd ers y penwythnos cyn-fyfyrwyr diwethaf, a chyda llawer o gerrig milltir adrannol i'w dathlu, daeth cryn nifer i’r penwythnos, ac rydym wedi croesawu’r adborth cadarnhaol a gawsom gennych.

Dyma ddolen i gasgliad o’r caneuon Pier Parti ar Spotify

Fideo o Benwythnos Aduniad y Cyn-fyfyrwyr gan y myfyriwr Leon Underwood

Detholiad o Luniau o Benwythnos Aduniad y Cyn-fyfyrwyr

i weld yr holl luniau o'r penwythnos cliciwch yma