Am yr Adran Hanes a Hanes Cymru
Mae Hanes wedi cael ei ddysgu yn Aberystwyth ers sefydlu’r Brifysgol yn 1872. Dyma un o adrannau mwyaf y Brifysgol, ac mae diddordebau ymchwil ei staff yn ymestyn ar draws ystod cronolegol a daearyddol cyflawn o gyfnod y Rhufeiniaid i bynciau gwleidyddol cyfoes, ac o Gymru a Phrydain i America, Ffrainc, a Rwsia. Bu haneswyr megis Richard Cobb, R.R. Davies, Gwynne Lewis, R.F. Treharne a Gwyn Alf Williams yn arloesi yn Aberystwyth drwy eu diddordebau mewn hanes cymharol, ‘hanes oddi isod’, a sefydlu’r wladwriaeth ym Mhrydain a Ffrainc. Mae cenhedlaeth newydd o haneswyr bellach yn ychwanegu at ddiddordebau ymchwil yr adran mewn meysydd megis hanes a’r cyfryngau, diwylliant gwleidyddol, Iddewon yn y byd Saesneg ei iaith, gwerinwyr yn y byd canoloesol, chwaraeon, hanes merched a’r rhywiau, hanesyddiaeth ac addasu technegau cyfrifiadurol ar gyfer astudio’r gorffennol.
Yn y cyfamser, mae Aberystwyth yn falch iawn o gynnal ei safle hirsefydlog fel prif ganolfan dysgu ac ymchwil hanes Cymru o’r cyfnod canoloesol hyd heddiw. Penodwyd y darlithydd cyntaf yn hanes Cymru yn 1910, ac ers sefydlu’r gadair yn 1931, bu haneswyr nodedig megis E.A. Lewis, David Williams, W. Ogwen Williams, Ieuan Gwynedd Jones, J. Beverley Smith ac Aled G. Jones yn Athrawon Hanes Cymru Syr John Williams.
Ers iddi gael ei sefydlu yn 1909, bu Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, yn gartref i’r casgliad helaethaf sy’n bodoli o ddeunyddiau’n ymwneud â hanes Cymru, o roliau llysoedd yr Oesoedd Canol i Archif Genedlaethol Sgrîn a Sain Cymru. Mae casgliadau helaeth y Llyfrgell Genedlaethol a mannau eraill yn Aberystwyth yn rhoi cyfle digyffelyb i fyfyrwyr hanes Cymru ddilyn eu diddordebau ymchwil.
Bu’r Adran yn brif ganolfan ymchwil a dysgu hanesyddol am ganrif a mwy. Mae ganddi enw da ers tro am fod yn le da i uwchraddedigion astudio a chynigir yma wasanaeth goruchwylio rhagorol gan dîm nodedig o haneswyr a chyfleusterau ymchwil na welir mo’u tebyg yn y rhan fwyaf o brifysgolion yn y DU. Rydym yn awyddus i ddenu graddedigion mentrus a dychmygus o bob math o gefndir, ac yn barod bob amser i ystyried cynigion ymchwil neu ymholiadau ynglŷn ag ymchwil yn ofalus.