GG: Mae'ch Llais Chi'n Cyfrif Adborth 2022
Eich adborth, ein hymateb
Eich adborth
- Roedd rhai o fannau astudio'r Llyfrgell yn rhy swnllyd ichi
- Fe wnaethoch ofyn am ffordd o wirio pa ystafelloedd
astudio sydd ar gael yn y Llyfrgell - Roeddech chi wedi darganfod nad oedd rhai o’r plygiau yn
y Llyfrgell yn gweithio - Fe ddywedoch chi nad oedd rhywfaint o’r feddalwedd yr
oedd ei hangen arnoch ar gael ar gyfrifiaduron y Llyfrgell
nac mewn rhai ystafelloedd cyfrifiaduron - Rydych chi'n hoff iawn o’r man astudio newydd, Y
Weithfan, yn nhref Aberystwyth
Ein hymateb
- Sŵn - Mae staff y Llyfrgell yn cerdded drwy'r holl fannau astudio
yn y llyfrgell bob awr rhwng 10:00 a 17:00 o ddydd Llun i ddydd
Gwener i fonitro lefel y sŵn yn yr ardaloedd astudio tawel ar Lefel
F ac mewn ymateb i'r gwasanaeth rhybuddio am sŵn.
Rydym yn ymwybodol y gall y sŵn ailddechrau pan fydd yr aelod o staff yn gadael, felly rhowch wybod inni drwy neges destun os yw’r sŵn yn tarfu arnoch.
- Ystafelloedd astudio - Gallwch wirio pa ystafelloedd astudio mewn
grŵp sydd ar gael ar-lein gan ddefnyddio'r cyfarwyddiadau yma. - Plygiau - Diolch am roi gwybod inni nad yw rhai plygiau’n gweithio.
Rydym yn adrodd y broblem ac yn trefnu eu trwsio cyn gynted â
phosibl er mwyn lleihau unrhyw anghyfleustra. - Meddalwedd - Rydym wedi datrys y broblem a oedd yn golygu nad
oedd y llwybrau byr i rai rhaglenni meddalwedd yn cael eu dangos
ar rai cyfrifiaduron mwyach.
- Tymheredd - Mae'r ffenestri yn y Llyfrgell yn agor yn awtomatig ar
sail y tymheredd a lefelau C02. Dyma pam y gall rhai mannau
astudio deimlo braidd yn oer. Rydyn ni wedi addasu'r gosodiadau
fel eu bod yn agor yn llai aml yn y tywydd oer. - Y Weithfan - Rydych chi wedi dweud wrthym eich bod chi'n
mwynhau'r adnoddau newydd yn y Weithfan yn fawr. Daliwch ati i
rannu eich barn â ni a dweud wrthym beth yr hoffech ei weld wrth
i ni barhau i ddatblygu'r adnodd yma.