Newyddion
Eich adborth SgiliauAber
10/04/2025
Diolch yn fawr i'r rheiny ohonoch a gymerodd amser i rannu'ch adborth ar y safle SgiliauAber yn ddiweddar.
Dyma gyhoeddi crynodeb o'r hyn roedd ganddoch chi i'w ddweud a'n camau gweithredu yn sgil eich adborth: https://www.aber.ac.uk/cy/is/feedback/response/issugharv/
Diolch am ein helpu i barhau i ddatblygu ein gwasanaethau llyfrgell a dysgu
Gweld adnoddau Llyfrgell ar-lein o'ch dyfais eich hun: effaith newidiadau preifatrwydd porwyr byd-eang
14/03/2025
Yn ystod 2025 bydd porwyr gwe megis Chrome, Firefox, Safari ac Edge yn gweithredu swyddogaeth preifatrwydd newydd a fydd yn rhwystro gwefannau rhag gwybod cyfeiriad IP y defnyddiwr. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar-lein am y newidiadau hyn a sut i barhau i weld adnoddau ar-lein, ar y campws ac oddi arno.
Tanysgrifiwch ar gyfer e-bost wythnosol newydd SgiliauAber
26/02/2025
Dysgwch am y gweithdai SgiliauAber diweddaraf, newyddion sgiliau, awgrymiadau ac adnoddau defnyddiol heb adael eich mewnflwch.
Beth sy'n cael ei gynnig?
- Cael gwybod: Derbyn manylion am y gweithdai sydd ar ddod yn ystod yr wythnos. Mae’r gweithdai yn cwmpasu sgiliau hanfodol fel ysgrifennu academaidd, cyflogadwyedd, a datblygiad personol.
- Darganfod adnoddau i ddatblygu’ch sgiliau: Dysgwch am adnoddau amrywiol a all eich helpu yn eich astudiaethau, eich addysgu a'ch gyrfa.
Mae eich dos wythnosol o sgiliau a llwyddiant yn dechrau yma! Cliciwch i danysgrifio
Gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg.
Cwestiynau am gyfeirnodi?
17/02/2025
Gall cyfeirnodi fod yn anodd, ond does dim rhaid iddo fod yn frwydr! Os oes gennych chi gwestiynau, mae gennym atebion ichi.
- Yn gyntaf, archwiliwch ein LibGuide Cyfeirnodi cynhwysfawr - mae'n llawn gwybodaeth, enghreifftiau, a chynghorion i'ch helpu i feistroli cyfeirnodi.
- Yn ail, cysylltwch â'ch llyfrgellydd pwnc am gymorth. Maent yn cynnig ymgynghoriadau un-i-un ac yn arbenigo yn y dulliau cyfeirnodi penodol ar gyfer eich mesydd pwnc.
Cewch y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch i lwyddo o’r llyfrgell heddiw.
Microsoft Office
15/01/2025
Gall staff a myfyrwyr lawrlwytho Microsoft Office yn rhad ac am ddim ar hyd at 15 dyfais.
Mae’n cynnwys y rhaglenni:
- Word
- Excel
- PowerPoint
- Outlook
- OneNote
- Teams
- Publisher
- Access
- Skype
Mae canllaw cam wrth gam ar gyfer lawrlwytho MS Office ar eich dyfais ar gael yma: https://faqs.aber.ac.uk/cy/1391
Gwasanaethau Gwybodaeth: Canllawiau DA i chi
13/01/2025
Mae gan y Gwasanaethau Gwybodaeth dudalen gymorth a gwybodaeth newydd ar gyfer Deallusrwydd Artiffisial: https://www.aber.ac.uk/cy/is/help/ai/
Mae'r dudalen hon yn dwyn ynghyd bolisïau a chyngor ar ddiogelwch yn ogystal â chanllawiau ar gyfer defnyddio DA yn eich astudiaethau, eich addysgu, eich ymchwil a'ch gwaith gweinyddol.
Llyfrgell, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais, Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2020 Ebost: llyfrgell@aber.ac.uk