Cloi cyfrifiaduron staff wrth eu gadael

Mae gan y Brifysgol ddyletswydd yn ôl y gyfraith ac yn unol â’i chytundeb cyswllt rhwydwaith â JANET (sy’n darparu ein cysylltiadau â’r Rhyngrwyd) i orfodi arfer da o safbwynt defnyddio cyfleusterau cyfrifiadurol. Mae sicrhau na ellir defnyddio cyfrifiaduron PA yn ddiawdurdod ar unrhyw adeg yn agwedd bwysig ar hyn.

Y dull sy’n cael ei argymell yw trefnu bod eich cyfrifiadur yn ‘cloi’ ar ôl cyfnod penodol o amser (deg munud, dyweder). Unwaith y bydd wedi’i gloi, dim ond â’r cyfrinair y byddwch yn ei ddefnyddio wrth droi’r cyfrifiadur ymlaen y gellir ei ddatgloi. Dangosir ffordd hawdd o osod y drefn hon ar waith mewn ateb i un o’r cwestiynau a ofynnir yn aml ar wefan y Gwasanaeth Cynghori: gweler yma.

Gall unrhyw un sy’n llwyddo i ddod i mewn i’ch ystafell gamddefnyddio cyfrifiaduron nad ydynt wedi’u diogelu gan y drefn hon. Gall y camddefnyddio gynnwys darllen a newid y wybodaeth ar eich cyfrifiadur, defnyddio e-bost ac edrych ar wefannau tramgwyddus. Gall y wybodaeth sydd ar gael gynnwys gwybodaeth bersonol sydd o fewn cwmpas y Ddeddf Gwarchod Data, ac os oes rhywbeth o’r fath yn digwydd dylech gofio y gallech fod yn atebol yn bersonol dan y Ddeddf os nad ydych wedi dilyn argymhellion y Brifysgol.

Bu sawl digwyddiad annymunol yn Prifysgol Aberystwyth pan gamddefnyddiwyd cyfrifiaduron  am y rheswm syml nad oedd y drefn hon ar waith, felly bydd y camau syml a ddisgrifir yma er budd personol i chi. Gellir cael cyfarwyddiadau ar sut i wneud hyn yn ein Cwestiynau Cyffredin. Os hoffech drafod y mater ymhellach, neu am fwy o gyngor, os gwelwch yn dda cysylltwch â’n Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid.

Diweddarir y Rheoliadau hyn gan y Gwasanaethau Gwybodaeth. Fe’u hadolygwyd ddiwethaf ym mis Mehefin 2022 a byddant yn cael eu hadolygu eto ym mis Awst 2023.