Cyfathrebu Diwifr
1.0 Diben
Egluro'r canlynol: er mwyn diogelu cyfanrwydd y rhwydwaith cyfrifiadurol ym Mhrifysgol Aberystwyth, dim ond systemau diwifr sy'n bodloni'r meini prawf a nodir isod a gaiff eu cymeradwyo ar gyfer eu cysylltu â rhwydweithiau'r Brifysgol. Gwaherddir mynediad trwy fecanwaith cyfathrebu diwifr anniogel.
2.0 Cwmpas
Mae'r canllawiau hyn yn ymdrin â phob dyfais cyfathrebu data diwifr (e.e. cyfrifiaduron personol, ffonau symudol, Cynorthwywyr Digidol Personol ac ati) sydd wedi'u cysylltu ag unrhyw un o rwydweithiau mewnol y Brifysgol. Mae hyn yn cynnwys unrhyw fath o ddyfais cyfathrebu ddiwifr sy'n gallu trosglwyddo data pecyn. Nid yw dyfeisiau diwifr nad ydynt wedi'u cysylltu â rhwydwaith y Brifysgol yn dod o dan gymalau'r polisi hwn.
3.0 Canllawiau
3.1 Cofrestru Pwyntiau Mynediad
Mae'n rhaid cofrestru pob gorsaf a Phwynt Mynediad diwifr sydd wedi'u cysylltu â rhwydwaith y Brifysgol ac mae'n rhaid iddynt gael eu cymeradwyo gan y Gwasanaeth Gwybodaeth.
3.2 Technoleg a Gymeradwyir
Mae'n bwysig nad yw adrannau, prosiectau ymchwil nag unigolion yn prynu pwyntiau mynediad diwifr nad ydynt yn briodol i'w defnyddio yn y Brifysgol. Er mwyn manteisio ar wasanaeth diwifr y Brifysgol, ac i integreiddio â rhwydwaith mewnol diwifr presennol y Brifysgol, mae'n rhaid ystyried nifer o ffactorau yn ofalus iawn:
- a yw'r offer yn safonol ac a yw'n cyd-fynd ag offer arall;
- addasrwydd y lleoliad a'r offer ar gyfer y defnydd dan sylw;
- cynhwysedd unrhyw ddolenni rhwydwaith a'r llwybr rhwydwaith i weddill JANET;
- diogelwch ffisegol y pwynt mynediad diwifr;
3.3 Dilysu ac Amgryptio
Mae'n rhaid i bob cyfrifiadur sydd â dyfeisiau LAN diwifr ddefnyddio naill ai gweinyddwr Rhwydwaith Preifat Rhithwir (VPN) sydd wedi'i gymeradwyo gan y sefydliad, neu Fynediad Wi-Fi wedi'i Ddiogelu (WPA) ac mae'n rhaid iddynt gael eu ffurfweddu i gael gwared ar unrhyw draffig nad yw wedi'i ddilysu na'i amgryptio. I gydymffurfio â'r polisi hwn, mae'n rhaid i weithredoliannau diwifr gynnal lefel uchel o amgryptiad pwynt i bwynt.
3.4 Gosod yr SSID
Mae'n rhaid i'r SSID gael eu ffurfweddu er mwyn iddo beidio â chynnwys unrhyw wybodaeth adnabyddedig am y sefydliad, megis enw'r Brifysgol, enw'r gweithiwr, neu wybodaeth arall.
4.0 Diffiniadau
| Termau | Diffiniadau |
|---|---|
| VPN | Dull o gyfathrebu trwy weinyddwr un pwrpas yn ddiogel i rwydwaith corfforaethol dros y rhyngrwyd, dros rwydwaith anniogel. |
| WPA | Protocol wedi'i ddiogelu ar gyfer rhwydweithiau 802.11 |
Manylion Cyswllt
Roger MatthewsDirprwy Gyfarwyddwr
Gwasanaethau Gwybodaeth
Prifysgol Aberystwyth
Adeilad Llandinam
Penglais
Aberystwyth
SY23 3DB
Ffôn: 01970 62 2471 Ffacs: 01970 62 2587 Ebost: rfm@aber.ac.uk