Beth yw lefel cwrs Dysgu Gydol Oes?

Dyfernir un o lefelau Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol i’r holl gymwysterau achrededig, a gefnogir gan Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru. Diben y fframwaith yw eich helpu i wneud penderfyniadau gwybodus am y cymwysterau yr hoffech eu cael. Bydd y tabl isod yn eich helpu i gysylltu lefel y cyrsiau a gynigir gan Dysgu Gydol Oes ag unrhyw gyrsiau y gallech fod wedi’u hastudio o’r blaen. Cofiwch - Nid oes raid i chi fod wedi astudio ar lefelau 1-3 i astudio cwrs gyda Dysgu Gydol Oes.

Mae’r tabl isod yn dangos rhai enghreifftiau cyffredin yn unig o’r cymwysterau ar y gwahanol lefelau. Efallai eich bod wedi cymryd cyrsiau achrededig eraill. Mae cyrsiau Dysgu Gydol Oes yn cael eu galw’n gyrsiau ‘Lefel 1’ oherwydd eu bod yn gyfwerth a lefel 1 cwrs gradd tair blynedd. Maent ar lefel 4 y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol.

Y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol (NQT)

Lefel NQT

Enghraifft o gymhwyster ar y lefel hon

8 Doethuriaeth (PhD)
7 Gradd Meistr (MA, MSc)
6 Gradd
5 Diploma Addysg Uwch (Diploma Cenedlaethol Uwch)
4

Tystysgrif Addysg Uwch – blwyddyn gyntaf cwrs gradd.

Modiwlau Lefel 1 gyda Dysgu Gydol Oes.

3

Cyrsiau rhagarweiniol - cyrsiau Lefel 0 gyda Dysgu Gydol Oes, Safon Uwch, NVQ lefel 3

2

TGAU graddau A-C, NVQ lefel 2, OCN lefel 3 (Open College Network)

1 TGAU graddau D-G, NVQ lefel 1, OCN lefel 1
Mynediad

Lefel Mynediad OCN (Rhwydwaith y Coleg Agored)

Cymwysterau a gynigir mewn Dysgu Gydol Oes

Tystysgrif Addysg Uwch (TAU)

Diploma Addysg Uwch (DAU)