Mae'r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn cynnal sawl Cynllun Gwobrwyo a Chydnabyddiaeth i gydnabod y gweithgareddau dysgu ac addysgu rhagorol sy'n digwydd yn y Brifysgol. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’n cynlluniau Gwobrwyo a Chydnabod, cysylltwch â ni (udda@aber.ac.uk). 

Cynllun ARCHE - Cymrodoriaeth yr Academi Addysg Uwch

"Mae cymrodoriaeth Advance HE yn dangos ymrwymiad i broffesiynoldeb ac yn cydnabod ymarfer, effaith ac arweinyddiaeth mewn addysgu a dysgu."  (Advance HE). 

Mae cynllun PA wedi'i achredu gan Advance HE, sy'n caniatáu i’r Brifysgol ddyfarnu statws Cymrawd Cyswllt, Cymrawd, ac Uwch Gymrawd.  Nid oes ffioedd yn gysylltiedig â cheisiadau drwy gynllun PA ac nid oes angen adnewyddu neu ailymgeisio yn barhaus am statws cymrawd. 

Meini Prawf:

Mae'r gymrodoriaeth yn seiliedig ar dystiolaeth o ymarfer sy'n cwrdd â'r Fframwaith Safonau Proffesiynol.  Mae'n agored i ystod eang o staff yn y Brifysgol sy'n addysgu neu'n cynorthwyo’r dysgu mewn addysg uwch.  Bydd gwahanol gategorïau o gymrodoriaethau yn berthnasol i wahanol grwpiau o staff. 

Y Broses:

Gwneir cais i Gynllun ARCHE drwy gais portffolio yn seiliedig ar arfer presennol. Gellir gwneud cais gan gydweithwyr, myfyrwyr neu trwy hunan-enwebiad.  Caiff pob cais ei ystyried gan adolygwyr mewnol a'i gadarnhau gan banel sy'n cynnwys Arholwr Allanol.  Mae ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn statws cymrawd a thystysgrif.

Rhagor o wybodaeth: https://www.aber.ac.uk/cy/lteu/hea-fellowships/

Cynllun Cymrodoriaethau Addysgu Cenedlaethol (CCAC) 

Pwrpas y Cynllun Cymrodoriaethau Addysgu Cenedlaethol (CCAC) yw cydnabod, gwobrwyo a dathlu unigolion sydd wedi cael effaith eithriadol ar ganlyniadau myfyrwyr a'r proffesiwn addysgu.

Trefnir y CCAC gan Advance HE. Mae pob darparwr Addysg Uwch yn y DU yn gymwys i gofrestru hyd at dri aelod o staff sy'n addysgu neu'n cefnogi dysgwyr yn eu sefydliad. Mae angen i'r rhai a enwebir ddangos eu bod yn cyfrannu at wella profiad myfyrwyr a'r proffesiwn addysgu yn eu sefydliad, neu yn fwy eang, yn eu disgyblaeth.

Dylai enwebai fod yn gymrawd AAU (unrhyw gategori) neu'n gweithio tuag at gais.
 
I gael rhagor o wybodaeth am y dyfarniad hwn, gweler tudalen we (dolen) neu cysylltwch â Annette Edwards (aee@aber.ac.uk). 

Wobr ar y Cyd am Ragoriaeth mewn Addysgu (CATE) 

Diben y Wobr ar y Cyd am Ragoriaeth mewn Addysgu (CATE) yw cydnabod a dathlu gwaith ar y cyd sydd wedi cael effaith amlwg ar ddysgu ac addysgu. Bydd pob gwobr yn cydnabod tîm sydd wedi galluogi newid mewn arferion ar gyfer cydweithwyr neu fyfyrwyr ar lefel sefydliadol neu ddisgyblaethol.

Caiff y cynllun ei drefnu a'i redeg gan Advance HE. Dim ond un tîm y gellir ei enwebu o'r Brifysgol.

Bydd hyd at 15 o dimau'n cael eu dewis yn genedlaethol i dderbyn y wobr hon.

I gael rhagor o wybodaeth am y wobr, gweler tudalen we AU Ymlaen (dolen) neu cysylltwch â Annette Edwards (aee@aber.ac.uk). 

Gwobr Cwrs Nodedig

Cydnabyddiaeth fewnol yw’r Wobr Cwrs Nodedig a gynlluniwyd i gydnabod a dathlu cyrsiau sy'n esiamplau o arferion gorau mewn dysgu ar-lein a dysgu cyfunol.  Mae'r wobr hon yn tynnu sylw at ein hymrwymiad i ddarparu profiadau dysgu digidol o ansawdd uchel i fyfyrwyr amrywiol y Brifysgol.

Meini Prawf:

Mae'r cyrsiau sy'n gymwys ar gyfer y Wobr Cwrs Nodedig yn dangos eu bod yn arloesi wrth ddysgu ar-lein, yn defnyddio technoleg yn effeithiol, ac yn ymrwymo i lwyddiant myfyrwyr.  Maent yn arddangos creadigrwydd wrth ddylunio a chyflwyno cyrsiau, gan feithrin amgylchedd dysgu ar-lein sy’n hoelio’r sylw ac yn gefnogol.

Y Broses:

Gall cydweithwyr gyflwyno eu cyrsiau i'w hystyried, gan gynnig tystiolaeth o sut mae eu cwrs yn bodloni'r meini prawf.  Bydd panel o arbenigwyr yn asesu'r cyflwyniadau, ac bydd y cyrsiau llwyddiannus yn cael cydnabyddiaeth ffurfiol, tystysgrif, a'r cyfle i rannu eu harferion gorau gyda'r gymuned academaidd ehangach.

Rhagor o wybodaeth: https://www.aber.ac.uk/cy/is/it-services/elearning/blackboard/blackboard-exemplary-course-award/

Cynlluniau eraill

Mae adrannau eraill yn cynnal cynlluniau gwobrwyo a chydnabod gwahanol, megis: 

  • Fframwaith Goruchwylio
  • Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol