Prifysgol Aberystwyth yn croesawu Prif Arweinydd y Ganolfan Ddeialog newydd

Dr Jennifer Wolowic

Dr Jennifer Wolowic

20 Ionawr 2023

Mae arbenigwraig flaenllaw ar y berthynas rhwng deialog a chyfnewid gwybodaeth wedi cychwyn ar ei swydd fel Prif Arweinydd Canolfan Ddeialog newydd Prifysgol Aberystwyth.

Daw’r Dr Jennifer Wolowic i Aberystwyth o Ganolfan Ddeialog Morris J. Wosk ym Mhrifysgol Simon Fraser yn Vancouver, Canada, lle bu’n arwain prosiectau’n ymwneud â democratiaeth, ymgysylltu gyhoeddus a diwylliant.

Drwy gydol ei gyrfa, mae Dr Wolowic wedi bod yn ymwneud ag ymchwil ryngddisgyblaethol gymhwysol ac fe ddaw  â’r profiad hwnnw i’w gwaith o arwain y Ganolfan Deialog newydd, oddi mewn i Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesedd Prifysgol Aberystwyth. Lansiwyd y Ganolfan Ddeialog ym mis Tachwedd 2022 a’i nod yw cydlynu, cefnogi a hyrwyddo sut y mae ymchwilwyr Prifysgol Aberystwyth yn cyfnewid gwybodaeth ac arbenigedd. Wrth siarad yn ystod ei hwythnos gyntaf yn y swydd, dywedodd Dr Wolowic: “Rwyf wrth fy modd yn ymuno â Phrifysgol Aberystwyth wrth i ni ddatblygu’r Ganolfan Ddeialog gyntaf o’i bath yng Nghymru. Ein nod yw hyrwyddo cydweithio pellach, hwyluso sgyrsiau ar faterion a meysydd polisi sydd o bwys i bobl, a gweithio gyda chymunedau a llunwyr polisi er mwyn cryfhau’r broses amlffordd o ymgysylltu, darganfod a lledu ymchwil.” Dywedodd yr Athro Colin McInnes, Dirprwy Is-Ganghellor ar gyfer Ymchwil, Cyfnewid Gwybodaeth ac Arloesi: “Pleser mawr yw croesawu Dr Wolowic i Aberystwyth. Yn sgil ei phenodiad rydym yn cymryd cam mawr ymlaen o ran gwireddu’n gweledigaeth ar gyfer y Ganolfan Ddeialog. “Bydd y ganolfan nid yn unig yn ofod ond yn ffordd o gyflawni ymchwil a chyfnewid gwybodaeth, gan gysylltu cymunedau â’n hymchwil, ysgogi sgyrsiau sy’n hyrwyddo cyd-ddealltwriaethau newydd, a chryfhau effaith ymchwil Prifysgol Aberystwyth. Y gorau fo’n deialog, y gorau y byddwn ni wrth gyfnewid gwybodaeth a bydd yr effaith a gawn yn y byd yr ydym yn byw ynddo’n ehangach ac yn ddyfnach.” Ceir rhagor o wybodaeth ar dudalennau gwe Canolfan Deialog Prifysgol Aberystwyth neu gallwch e-bostio deialog@aber.ac.uk.