Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth Yr Athro Elizabeth Treasure yn cyhoeddi ei hymddeoliad

Yr Athro Elizabeth Treasure

Yr Athro Elizabeth Treasure

23 Mai 2023

Mae Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi ei phenderfyniad i ymddeol ar ddiwedd y flwyddyn.

Bydd yr Athro Elizabeth Treasure yn gadael y Brifysgol yn gynt nag a fwriadwyd yn wreiddiol yn dilyn triniaeth feddygol barhaus.

Penodwyd yr Athro Treasure yn Is-Ganghellor yn Aberystwyth yn 2017. Ers hynny, mae wedi arwain ar ddatblygiadau academaidd megis addysg nyrsio yn y Brifysgol am y tro cyntaf, ac agor unig Ysgol Gwyddor Filfeddygol Cymru.

Wrth roi cynlluniau ar waith i sicrhau cynaladwyedd ariannol, bu’r Athro Treasure hefyd yn arwain prosiectau i ailwampio rhai o adeiladau eiconig y sefydliad megis Neuadd Pantycelyn, a phrosiect parhaus yr Hen Goleg sy’n rhoi bywyd newydd i adeilad gwreiddiol y Brifysgol ar bromenâd Aberystwyth.

Roedd yr Athro Treasure wedi nodi’n flaenorol y byddai’n rhoi’r gorau i’w swydd fel Is-Ganghellor ym mis Medi 2024.

Mewn neges at staff y Brifysgol dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure: “Fel y gwyddoch, roeddwn wedi bwriadu ymddeol fel eich Is-Ganghellor yn 2024. Fodd bynnag, rwyf wedi penderfynu ailasesu fy nghynlluniau yn dilyn triniaeth feddygol ddiweddar a pharhaus.

“Rwyf wedi ystyried y penderfyniad hwn yn ddwys dros y misoedd diwethaf gan fy mod wrth fy modd yn cydweithio gyda chi. Fodd bynnag, gan fy mod yn agosáu at y dyddiad ymddeol a gynlluniwyd, fe ddes i’r casgliad mai gadael ychydig yn gynt nag a fwriadwyd yn wreiddiol i ganolbwyntio ar fy iechyd oedd y penderfyniad cywir.

“Rwyf felly wedi gofyn i Gadeirydd Cyngor y Brifysgol, Dr Emyr Roberts, ddechrau’r broses o recriwtio Is-Ganghellor newydd yn gynnar, ac fe fyddaf yn gadael fy rôl ym mis Rhagfyr 2023.”

Meddai Cadeirydd Cyngor Prifysgol Aberystwyth, Dr Emyr Roberts: “Er yn siomedig y bydd Elizabeth yn gadael y Brifysgol yn gynt na’r disgwyl, rwy’n gwerthfawrogi’n fawr ei rhesymau dros wneud hynny. Trwy ei harweinyddiaeth, mae Elizabeth wedi gwneud cyfraniad eithriadol i’r sefydliad hwn ers iddi gyrraedd yn 2017, ac mae wedi trawsnewid y Brifysgol mewn cymaint o ffyrdd a hynny drwy gadw ysbryd unigryw Aberystwyth. Rydym wedi bod yn ffodus iawn i gael Is-Ganghellor o’i gallu, a gwn y bydd pawb yn y Brifysgol a thu hwnt yn dymuno’n dda iddi. Edrychaf ymlaen at gael y cyfle i ddiolch yn llawn i Elizabeth cyn iddi ymddeol ddiwedd y flwyddyn.

“Bydd Cyngor y Brifysgol nawr yn symud ymlaen i recriwtio Is-Ganghellor newydd i adeiladu ar y cynnydd rhagorol a wnaed yn ystod cyfnod Elizabeth, ac ar ein henw da byd-eang am ragoriaeth mewn addysgu ac ymchwil.”