Ymchwilio i effaith trais ar sail rhywedd ar ddynion a bechgyn yn Nigeria

Dr Onyinyechukwu Durueke

Dr Onyinyechukwu Durueke

15 Ionawr 2024

Effaith trais ar sail rhywedd ar ddynion a bechgyn yn Nigeria yw ffocws astudiaeth newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn sgil dyfarnu cymrodoriaeth o fri.

Mae gwrthdaro treisgar wedi bod yn mynd rhagddo yng ngogledd-ddwyrain Nigeria ers 2009, ac mae’r grŵp gwrthryfelgar Islamaidd milwriaethus, Boko Haram, wedi’i gyhuddo o dorri hawliau dynol sifiliaid.

Mae Dr Onyinyechukwu Durueke yn arbenigwr ar astudiaethau heddwch a gwrthdaro, ac mae’n arbenigo ym maes rhywedd a diogelwch.

Bydd prosiect ymchwil Dr Durueke 'FLEECOIN' yn ymchwilio i’r strategaethau y mae dynion a bechgyn yn eu harddegau yn eu defnyddio i ddianc rhag y trais ar sail rhywedd sy’n gysylltiedig â gwrthchwyldroadaeth yn erbyn Boko Haram.

Trwy gyfweliadau manwl gyda chymunedau yn Nigeria, bydd hi’n ymchwilio yn benodol i fföedigaeth fel dull ymdopi - yn enwedig dynion a bechgyn bregus sy’n ceisio dianc rhag trais ar sail rhywedd drwy ffoi i rannau eraill o’r wlad lle nad oes gwrthryfel.

Wrth siarad am ei phrosiect, dywedodd Dr Durueke:

“Mae cofnod helaeth o’r effaith gorfforol a meddyliol trawmatig y mae trais ar sail rhywedd wedi’i chael ar fenywod yn Nigeria ers y cynnydd yng ngwrthryfelgarwch Boko Haram,”

"Fodd bynnag, hyd yma, mae diffyg ymchwil i effaith ymgyrchoedd gwrthchwyldroadaeth (COIN) yn erbyn Boko Haram ar y boblogaeth sifil, yn enwedig dynion a bechgyn. Mae prosiect FLEECOIN yn ceisio mynd i'r afael â'r bwlch hwn."

Mae ymchwil Dr Durueke, a gynhelir gan yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn Aberystwyth, yn rhan o’r cynllun Cymrodoriaethau Ôl-ddoethurol Marie Skłodowska-Curie Actions, sy’n cael ei ariannu drwy gyllid gwarantedig y DU ar gyfer Horizon Europe. 

Yn ystod dwy flynedd ei Chymrodoriaeth, bydd Dr Durueke yn gweithio dan fentoriaeth Berit Bliesemann de Guevara, Athro Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Dr Onyinyechukwu Durueke

Mae gan Dr Onyinyechukwu Durueke gefndir mewn Astudiaethau Heddwch a Gwrthdaro gyda ffocws arbenigol ar Rywedd, Heddwch a Diogelwch. Derbyniodd ei PhD a'i MA mewn astudiaethau heddwch a gwrthdaro o Brifysgol Ibadan, Nigeria. Mae ganddi hefyd radd israddedig mewn Saesneg ac Astudiaethau Llenyddol o'r un Brifysgol.

Cyn ymuno â Phrifysgol Aberystwyth, roedd hi'n Gymrawd Norbert Elias yn y Ganolfan Ymchwil Rhyngddisgyblaethol ym Mhrifysgol Bielefeld, a derbyniodd Grant Ymchwil Unigol gan Rwydwaith Creu Heddwch yn Affrica Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol lle defnyddiodd ddull croestoriadol i ddeall dulliau ymdopi menywod ar ôl gwrthdaro. Mae hi'n Uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Port Harcourt, Nigeria.

Astudiaethau rhywedd, astudiaethau diogelwch, ac astudiaethau heddwch a gwrthdaro yw ei diddordebau o ran addysgu ac ymchwil.

Mae Durueke wedi cyhoeddi erthyglau a phenodau llyfrau. Mae hi ar hyn o bryd yn gweithio ar erthygl ar gyfer rhifyn arbennig o Journal of Strategic Studies ar ail-ddychmygu gwrthchwyldroadaeth.