Llunio gwasanaeth prawf sy’n gwasanaethu pobl Cymru yn well

13 Chwefror 2024

Mae academyddion Troseddeg o Brifysgol Aberystwyth yn cyfrannu at y drafodaeth genedlaethol ynghylch sut y gallai gwasanaeth prawf datganoledig weithio i Gymru.

Ar y cyd â phrifysgolion eraill yng Nghymru a swyddogion prawf presennol a chyn-swyddogion prawf, mae ymchwilwyr o Adran y Gyfraith a Throseddeg yn rhan o Grŵp Datblygu’r Gwasanaeth Prawf; grŵp arbenigol annibynnol sydd wedi nodi tystiolaeth a ffyrdd o weithio ar gyfer datblygu gwasanaeth prawf datganoledig yng Nghymru.

Daw hyn ar ôl i’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru gyhoeddi ei adroddiad yn ystod yr wythnosau diwethaf yn argymell datganoli’r gwasanaeth prawf i Gymru.

Mae adroddiad Grŵp Datblygu’r Gwasanaeth Prawf yn cynnwys meddwl am wasanaeth prawf annibynnol newydd sy'n canolbwyntio ar y berthynas oruchwyliol rhwng y swyddog prawf a'r sawl sydd ar brawf, gwell defnydd o ymyriadau ar sail tystiolaeth, adnoddau lleol, a phartneriaethau cryf.

Mae'r grŵp hefyd yn tynnu sylw at rôl bwysig y gymuned a dedfrydau cymunedol, i hyrwyddo adsefydlu effeithiol a diogelwch dioddefwyr.

Gall darparu gwasanaeth prawf yn effeithiol, meddai’r grŵp, arwain at garcharu llai costus, gostyngiadau mewn troseddu, a chymunedau mwy diogel gyda llai o ddioddefwyr troseddau.

Dywedodd Dr Gwyn Griffith, o Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, sydd yn aelod o Grŵp Datblygu’r Gwasanaeth Prawf:

“Mae wedi bod yn wych cael cyfle i gyfrannu at waith Grŵp Datblygu'r Gwasanaeth Prawf. Bûm yn gweithio fel Swyddog Prawf yng Nghymru am nifer o flynyddoedd, a chefais brofiad uniongyrchol o’r ffordd y mae newidiadau polisi cyson yn effeithio ar effeithiolrwydd y gwasanaethau a ddarperir i ddioddefwyr a chleientiaid.

“Os caiff gwasanaethau prawf eu datganoli, fel sy’n edrych yn debygol, mae'n bwysig bod y rhai sy'n gyfrifol am sefydlu'r gwasanaeth datganoledig newydd yn cael eu hysbysu’n llawn am gamgymeriadau'r gorffennol, yn ogystal â'r pethau a weithiodd yn dda ac y dylid eu cadw. Mae Grŵp Datblygu’r Gwasanaeth Prawf yn darparu'r wybodaeth hon yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru ac mae lefel yr arbenigedd a'r profiad sydd gan aelodau’r grŵp yn helpu i sicrhau y gwrandewir arno.”

Dywedodd y darlithydd Troseddeg o Brifysgol Abertawe a chyn uwch swyddog prawf, Ella Rabaiotti, sy’n cynnull Grŵp Datblygu'r Gwasanaeth Prawf:

“Er ein bod yn cydnabod bod mwy o darfu o fewn y gwasanaeth prawf ymhell o fod yn ddelfrydol, credwn fod angen dull cryfach seiliedig ar dystiolaeth i waith prawf i helpu i fynd i’r afael â’r gwahaniaethau gwirioneddol yng nghanlyniadau cyfiawnder troseddol Cymru.

“Mater i lunwyr polisi fydd penderfynu ar ffurf Gwasanaeth Prawf Cymreig mewn ymgynghoriad priodol â’r rhanddeiliaid priodol, ond mae dysgu sylweddol yn cael ei gynnig yn ein cyhoeddiad i wella diogelwch cymunedol a chyfiawnder cymdeithasol i holl gymunedau Cymru o bosibl.”

Wrth gyflwyno eu cynigion i Lywodraeth Cymru, mae’r grŵp arbenigol annibynnol wedi tynnu ar ddegawdau o ymchwil a phrofiad ym maes ymarfer a llywodraethu prawf. Nod eu gwaith yw cyfrannu at gynlluniau polisi cyfiawnder Llywodraeth Cymru, yn dilyn casgliadau Comisiwn Thomas a ganfu nad yw’r system cyfiawnder troseddol bresennol yn gwasanaethu pobl Cymru. Maen nhw'n dweud bod hyn bellach wedi'i atgyfnerthu ymhellach gan adroddiad newydd y Comisiwn Annibynnol.

Daw barn y grŵp Cymreig yn dilyn pryderon gan y Prif Arolygydd Prawf sy’n gadael, Justin Russell a ddywedodd fod safonau prawf wedi ‘gwaethygu’ yn y ddwy flynedd ddiwethaf. Ac mae canfyddiadau diweddaraf Canolfan Llywodraethiant Cymru yn dweud bod cyfradd carcharu Cymru yn parhau i fod yn uwch nag unrhyw ran arall o'r DU.

Mae Grŵp Datblygu'r Gwasanaeth Prawf yn bwriadu defnyddio eu cyhoeddiadau i gynorthwyo sgyrsiau ar ddatganoli’r gwasanaeth prawf yng Nghymru, yn ogystal â hyrwyddo cyfleoedd pellach ar gyfer ymchwil a dealltwriaeth i wasanaethau prawf effeithiol.

Mae rhagor o wybodaeth am waith Grŵp Datblygu'r Gwasanaeth Prawf a Chanolfan Troseddu a Chyfiawnder Cymdeithasol Cymru ar gael yn https://wccsj.ac.uk/cy/prawf.

Gellir gweld copi llawn o'r adroddiad yma.