Y Frenhines yn rhoi gwobr i Brifysgol Aberystwyth am ymchwil parasitoleg

Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth yr Athro Jon Timmis yn derbyn y wobr o'i Mawrhydi'r Frenhines ym Mhalas Buckingham

Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth yr Athro Jon Timmis yn derbyn y wobr o'i Mawrhydi'r Frenhines ym Mhalas Buckingham

22 Chwefror 2024

Mae’r Frenhines Camilla wedi cyflwyno gwobr o fri i Brifysgol Aberystwyth am ei gwaith parasitoleg arloesol mewn seremoni ym Mhalas Buckingham heddiw (dydd Iau, 22 Chwefror).

Mae’r anrhydedd frenhinol yn cydnabod gwaith gwyddonwyr yn Adran Gwyddorau Bywyd y Brifysgol sy’n arbenigo ar grŵp penodol o lyngyr lledog parasitig sy’n achosi clefydau distrywiol fel Sgistosomiasis mewn pobl a Ffasgiolosis mewn da byw.

Mae Sgistosomiasis yn glefyd trofannol sydd fel rheol yn lledaenu drwy gysylltiad â dŵr ffres wedi’i heintio, gan ladd tua 12,000 o bobl a heintio mwy na 200 miliwn bob blwyddyn.

Mae Ffasgiolosis yn effeithio ar fwy na 300 miliwn o wartheg a 250 miliwn o ddefaid yn fyd-eang, gyda cholledion i’r diwydiant amaeth o dros £2.5 biliwn y flwyddyn.

Caiff Gwobrau Pen-blwydd y Frenhines eu dyfarnu am yn ail flwyddyn i ddathlu rhagoriaeth ac arloesedd ac i gydnabod gwaith eithriadol sydd o fudd i’r byd ehangach.

Dan ofal yr Ymddiriedolaeth Pen-blwydd Frenhinol, dyma'r Anrhydedd uchaf i’w dyfarnu i sefydliadau addysg bellach ac uwch y Deyrnas Gyfunol.

Yn siarad wedi iddo dderbyn y wobr gan Y Frenhines ym Mhalas Buckingham, dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Jon Timmis:

“Anrhydedd o’r mwyaf oedd derbyn y wobr gan Ei Mawrhydi’r Frenhines ar ran y Brifysgol. Rwy’ mor falch bod gwaith arloesol ein gwyddonwyr wedi’i gydnabod yn y fath fodd. Mae’n tanlinellu unwaith yn rhagor bwysigrwydd yr ymchwil o safon fyd-eang sy’n digwydd yma yn Aberystwyth.

“Mae ein gwyddonwyr wedi bod yn astudio’r parasitiaid hyn ers dros ganrif, gan ddadansoddi eu cylchoedd bywyd cymhleth a’u rhyngweithiadau lletyol i lefel ddigynsail o fanwl, a nodi gwendidau y gellir eu targedu â brechlynnau neu gyffuriau newydd. Hoffwn i estyn fy llongyfarchiadau diffuant i bawb a fuodd yn ymwneud â’r ymchwil blaengar hwn, ddoe a heddiw.”

Yn ogystal, cafodd yr enillwyr y gwobrau eu canmol gan Brif Weinidog y Deyrnas Gyfunol, Rishi Sunak, a ysgrifennodd:

“Rwy’ am longyfarch enillwyr Gwobrau Pen-blwydd y Frenhines ar gyfer Addysg Uwch ac Addysg Bellach 2022-2024. Gwn y bydd anrhydeddau eleni hyd yn oed yn fwy arbennig wrth inni gofio’r ddiweddar Frenhines Elizabeth II a’i chefnogaeth hirsefydlog i’r gwobrau hyn, ac am y lles aruthrol a ddaw yn sgil addysg.

“Fel y mae eich gwaith yn ei ddangos, mae gwaith rhyfeddol yn digwydd yng ngholegau a phrifysgolion Prydain heddiw – a hynny yn yr ysbryd o ymholi, lles y cyhoedd a chwilota am wybodaeth. Felly gadewch i mi ddiolch i holl enillwyr Gwobr Pen-blwydd y Frenhines am bopeth rydych chi'n ei wneud."

Mynychwyd y seremoni ym Mhalas Buckingham hefyd gan yr Athro Karl Hoffmann, Cyfarwyddwr Canolfan Barrett ar gyfer Rheoli Llyngyr, Prifysgol Aberystwyth a sawl un o’i gyd-ymchwilwyr . Ychwanegodd yr Athro Hoffman:

“Mae’n anhygoel i’r tîm yma yn Aberystwyth dderbyn y wobr nodedig hon. Mae llyngyr parasitig yn achosi rhai o’r clefydau heintus mwyaf andwyol, gwanychol a chronig ymhlith pobl ac anifeiliaid ledled y byd. Maen nhw’n lladd miloedd o bobl ac anifeiliaid yn flynyddol, ac yn arwain at ddioddefaint miliynau’n fwy. Maen nhw hefyd yn bygwth diogelwch bwyd a chnydau ac yn creu colledion economaidd sylweddol.

“Mae’r seremoni a’r wobr hon yn deyrnged i’r holl barasitolegwyr sydd wedi creu canolfan ragoriaeth yn Aberystwyth. Mae eu gwaith yn chwarae rhan allweddol yn yr ymdrechion rhyngwladol i reoli clefydau llyngyr lledog a lliniaru ar eu heffeithiau andwyol ar iechyd pobl ac anifeiliaid yn ogystal â chynhyrchu bwyd yn fyd-eang.”

Dywedodd Syr Damon Buffini, Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth Penblwydd Brenhinol:

“Mae Gwobrau Pen-blwydd y Frenhines ar gyfer Addysg Uwch ac Addysg Bellach yn rhan annatod o’n cyfundrefn Anrhydeddau genedlaethol, gan daflu goleuni ar y gwaith arloesol sy’n digwydd mewn prifysgolion a cholegau ledled y Deyrnas Gyfunol. Mae pob un o’r 22 enillydd yn dangos rhagoriaeth, arloesedd ac effaith, gyda llawer yn mynd i’r afael â rhai o’r problemau anoddaf rydym ni fel cymdeithas yn eu hwynebu heddiw. Dylid eu canmol am gyrraedd y pinacl hwn o lwyddiant yn y sector addysg drydyddol. Llongyfarchiadau!”

Enillodd Prifysgol Aberystwyth Wobr Pen-blwydd y Frenhines yn 2009 yn ogystal am ei hymchwil arloesol ac uchel ei effaith ym maes bridio planhigion a chnydau.