Grawn sy’n gwrthsefyll sychder yn ‘hanfodol’ wrth i’r boblogaeth gynyddu - cymrawd ymchwil newydd

Dr Jaykumar Patel

Dr Jaykumar Patel

20 Mawrth 2024

Mae ymchwil byd-enwog planhigion Prifysgol Aberystwyth wedi derbyn hwb gyda chymrodoriaeth ymchwil sy’n cael ei hariannu gan yr Undeb Ewropeaidd.

Dyfarnwyd yr ysgoloriaeth uchel ei bri i Dr Jaykumar Patel er mwyn iddo allu ymchwilio i wella gallu’r cnwd miled perlog i ymdopi gyda sychder.

Mae miled perlog yn gnwd grawn sy’n cael ei fwyta’n bennaf mewn nifer o wledydd yn Affrica, yn ogystal ag yn India a De Asia.

Yn draddodiadol, defnyddiwyd miled perlog ar gyfer gwneud uwd, kedgeree a bara fflat megis chapattis, ond yn gynyddol mae’n cael ei ddefnyddio mewn bara, bisgedi a grawnfwydydd brecwast.

Bydd yr ymchwil newydd yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig yn Aberystwyth yn edrych ar enynnau allweddol y cnwd gan anelu at ddefnyddio technoleg flaengar i wella ei gynnyrch, ei allu i wrthsefyll sychder a’i gynnwys maethyddol.

Mae gan Dr Patel ddoethuriaeth mewn bioleg foleciwlaidd planhigion, ac astudiodd ym Mhrifysgol Aberystwyth am gyfnod. Ar hyn o bryd mae'n Ymchwilydd Ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Ben-Gurion yn Negev, Israel. Dywedodd:

“Rwy’n falch iawn o gael dychwelyd i Aberystwyth i gyfrannu at yr ymchwil hanfodol hwn. Mae cryfhau gallu miled perlog i wrthsefyll sychder a pha mor faethlon yw yn hollbwysig wrth inni wynebu heriau poblogaeth sy’n tyfu, rhagor o afiechydon cysylltiedig â diet, a newid hinsawdd.

“Gyda phoblogaeth y byd yn debygol o agosáu at 9 biliwn erbyn 2050, mae angen i allbwn bwyd ddyblu i ddiwallu anghenion pobl. Mae hyn ar adeg pan fo 768 miliwn o bobl yn dioddef o ddiffyg maeth yn y byd eisoes - y mwyafrif helaeth ohonynt yn Asia ac Affrica. Wrth i ni siarad, mwy na 529 miliwn o bobl sy’n dioddef o diabetes Math-2.

“Mae gan yr ymchwil hwn nid yn unig y potensial i chwyldroi bridio miled perlog ond hefyd i gymryd camau breision tuag at amaethyddiaeth gynaliadwy, lliniaru newid hinsawdd, a lleihau baich byd-eang diabetes Math-2, yn unol â Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig. Nod ein prosiect yw creu gwrthocsidyddion a mathau eraill o filed perlog sy'n gyfoethog o ran maetholion ac sy'n gallu gwrthsefyll sychder; cyfrannu at well sicrwydd bwyd a datblygiad economaidd mewn ardaloedd bregus y byd.”

Ychwanegodd yr Athro Rattan Yadav o Brifysgol Aberystwyth a fydd yn goruchwylio’r ymchwil:

“Mae miled berlog yn gnwd sydd eisoes yn bwydo pobl mewn llefydd lle mae tiroedd amaethyddol mwyaf ymylol yn y byd. Mae gwaith Dr Patel yn tanlinellu ymrwymiad Aberystwyth i fynd i’r afael â heriau byd-eang gydag ymchwil arloesol - mae’n wych ei fod e’n mynd i fod yn rhan o’r tîm.”

“Drwy gynhyrchu miled perlog sy’n gyfoethog o ran maetholion ac sy’n gallu gwrthsefyll sychder, bydd y prosiect hwn yn cynnig atebion sy’n fforddiadwy i her gynyddol diabetes Math-2 a gordewdra. Yr hyn sy’n ein hysgogi yw gwybod y gallai’r ymchwil wneud gwahaniaeth mor sylweddol i bobl sy’n byw mewn llawer o wledydd ledled y byd - llefydd lle mae ffermio’n anodd ac yn mynd yn galetach oherwydd newid hinsawdd.”

Mae Cymrodoriaethau Unigol Marie Sklodowska-Curie yn rhan o raglen ymchwil ac arloesi Horizon 2020 yr Undeb Ewropeaidd, a’u nod yw cefnogi symudedd ymchwilwyr profiadol sydd â gradd doethur.