Atriwm newydd yn allweddol i ddatgloi potensial enfawr yr Hen Goleg

Chwith i’r Dde: Lyn Hopkins o gwmni Penseiri Lawray; Shaun Davies, Uwch Reolwr Prosiect gydag Andrew Scott Cyf; Jim O’Rourke. Rheolwr Prosiect yr Hen Goleg a’r Athro Anwen Jones, Arweinydd y Prosiect ar ran Gweithrediaeth Prifysgol Aberystwyth, ar safle mynedfa newydd Stryd y Brenin a’r atriwm, a llun o sut fydd yr atriwm newydd yn edrych.

Chwith i’r Dde: Lyn Hopkins o gwmni Penseiri Lawray; Shaun Davies, Uwch Reolwr Prosiect gydag Andrew Scott Cyf; Jim O’Rourke. Rheolwr Prosiect yr Hen Goleg a’r Athro Anwen Jones, Arweinydd y Prosiect ar ran Gweithrediaeth Prifysgol Aberystwyth, ar safle mynedfa newydd Stryd y Brenin a’r atriwm, a llun o sut fydd yr atriwm newydd yn edrych.

28 Mawrth 2024

Bydd mynedfa ac atriwm newydd yng nghefn yr Hen Goleg gyn datgloi potensial aruthrol yr adeilad hanesyddol rhestredig gradd 1 yn ôl Lyn Hopkins o gwmni penseiri’r prosiect, Lawray.

Yn ymestyn dros saith llawr ac yn darparu mynediad rhwydd i bob lefel o’r Hen Goleg a’r Cambria, bydd yr atriwm newydd hefyd yn cynnwys ystafell ddigwyddiadau ar gyfer 200 o bobl gyda ffenest wydr fawr â golygfeydd godidog o Fae Ceredigion.

Bydd yr adeilad newydd, canolbwynt cynllun uchelgeisiol Prifysgol Aberystwyth i drawsnewid yr Hen Goleg yn ganolfan o bwys ar gyfer dysgu, treftadaeth, diwylliant a menter, wedi ei wisgo â thywodfaen i adlewyrchu’r newidiadau helaeth a wnaed i’r adeilad yn ystod y 19eg ganrif gan y penseiri J P Seddon a C J Ferguson.

Mae disgwyl i’r gwaith o dorri’r seiliau’r atriwm newydd ddechrau tua diwedd Ebrill.

Golygfa o’r atriwm newydd o’r tu fewn.

Wrth amlinelli ei weledigaeth ar gyfer yr atriwm newydd, dywedodd Lyn: “Dros y blynyddoedd bu’r Hen Goleg yn hynod heriol i unrhyw un oedd yn dymuno symud o un pen o’r adeilad i’r llall gan fod angen dychwelyd i’r llawr gwaelod bob tro cyn dringo eto. Ac roedd y grisiau cul niferus yn golygu ei fod yn anhygyrch i lawer o bobl. Gan dynnu ar waith Seddon a Ferguson a sut yr oeddent yn  chwarae â gofodau, aethom ati i ddylunio ardal gyfoes sy’n agor yr adeilad cyfan ac yn galluogi pawb i gael mynediad i bob lefel o’r tirnod hyfryd hwn am y tro cyntaf erioed.”

“Drwy gynnwys grisiau a lifftiau newydd, mae’r atriwm hefyd wedi’i gwneud hi’n bosibl i ni gadw llawer o nodweddion pensaernïol gwreiddiol a chymeriad yr Hen Goleg, gan gynnwys y grisiau troellog serth sy’n cysylltu’r llawr gwaelod â’r lloriau uwchben. Hebddo, ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl”, ychwanegodd Lyn.

Dywedodd Jim O’Rourke, Rheolwr Prosiect yr Hen Goleg: “Rydym yn falch iawn o weld y gwaith adeiladu’n dechrau ar yr atriwm newydd a fydd yn ganolbwynt i’r adeilad hanesyddol hwn. Bydd yn agor yr Hen Goleg mewn ffordd na lwyddwyd i’w wneud o'r blaen tra’n cydnabod treftadaeth bensaernïol yr adeilad a gwaith Seddon a Ferguson, wrth iddo esblygu ers y 1860au.”

Mi fydd yr atriwn yn cynnig dehongliad cyfoes o dreftadaeth bensaernïol yr Hen Goleg, ac yn fynedfa gyhoeddus newydd o Stryd y Brenin i gyd-fynd â’r brif fynedfa newydd o’r promenâd drwy’r Filas Sioraidd.

Mi fydd yr adeilad gam yn ôl o'r ffordd, er mwyn cynnal yr olygfa o'r Hen Goleg ar hyd y ffordd o Heol y Wîg (Pier Street).

Mi fydd yr atriwm hefyd yn darparu’r seiliau a’r cantilifer ar gyfer yr ystafell ddigwyddiadau newydd a fydd yn ‘arnofio’ uwchben y Filas Sioraidd.

Mae’r gofod newydd hwn â’i olygfeydd panoramig ar draws Bae Ceredigion, yn allweddol i hyfywedd economaidd y prosiect.

Golygfa o’r ystafell wydr newydd o gyfeiriad y promenâd.

Ychwanegodd Lyn: “Ein briff oedd creu gofod newydd sy’n ddigon mawr i gyd-fynd â mannau eraill yn yr adeilad a allai gynnal digwyddiadau mwy, megis priodasau yn yr Hen Lyfrgell, sy’n bwysig ar gyfer hyfywedd yr Hen Goleg fel lleoliad.

“Yn ogystal â chynnig golygfeydd anhygoel o Benrhyn Llŷn a’r Wyddfa ar ddiwrnod clir, mae’r ystafell ddigwyddiadau newydd wedi ein galluogi i gadw llawer o ofodau eraill yr adeilad, megis yr Hen Neuadd ac Ystafell Seddon, yn eu fformat gwreiddiol, a thrwy hynny barchu eu treftadaeth a’u hygrededd bensaernïol.”

Bydd yr ystafell ddigwyddiadau hefyd gam yn ôl fel na fydd yn rhwystro’r olygfa o’r Hen Goleg, Y Cambria a’r Filas Sioraidd, wrth i bobl ddynesu ati ar hyd y promenâd.

Mae natur gyfyng lleoliad yr atriwm, ar safle hen swyddfa Ystadau’r Brifysgol, wedi bod yn ystyriaeth bwysig i’r tîm dylunio.

Dywedodd Lyn: “Rydym yn ymwybodol iawn o’r heriau sy’n wynebu tîm adeiladu’r atriwm ac rydym wedi gwneud pob ymdrech adlewyrchu natur y gofod ei hun a’r rhan gul Stryd y Brenin sy’n arwain ato, yn ein dyluniadau. Gobeithiwn yn fawr y bydd hyn yn cyfyngu, cyn belled ag y bo modd, ar unrhyw darfu ar y rhai sy’n byw ac yn gweithio yn y rhan hon o’r dref.”

Adeilad sy'n esblygu

Yr Hen Goleg cyn tân mawr 1885 gyda Tŷ’r Castell yn y canol.

Yr atriwm yw’r ychwanegiad diweddaraf at yr Hen Goleg rhestredig gradd 1 sydd wedi gweld llawer o newidiadau mawr ers i Syr Uvedale Price adeiladu Tŷ’r Castell ar y safle yng nghanol y 1790au.

Gwaith John Nash, pensaer Llannerch Aeron a Phalas Buckingham, oedd Tŷ’r Castell, gafodd ei brynu yn y 1860au gan Thomas Savin, dilledydd o Groesoswallt a ddaeth yn gontractiwr rheilffordd.

Wrth weithio gyda'r pensaer J P Seddon, aeth Savin ati i drawsnewid y safle yn westy i gyd-fynd â dyfodiad y rheilffordd i Aberystwyth.

Methiant fu menter Savin gan iddo ddioddef yn sgil cythrwfl ariannol canol y 1860au ac fe brynwyd y safle ym 1867 fel cartref cyntaf Prifysgol Cymru.

Parhaodd Seddon â’r gwaith o addasu’r adeilad, hyd yn oed ar ôl tân mawr 1885, pan ddinistriwyd llawer o adain ogleddol yr adeilad.

Cafodd yr Hen Goleg ei ailadeiladu ar ôl tân mawr 1885. Er na ddifrodwyd rhan ddeheuol yr adeilad, cafodd ei hailddatblygu yn labordai gwyddoniaeth gan y pensaer J P Seddon.

Gwnaethpwyd newidiadau pellach yn ystod ail hanner y 1890au pan ddymchwelwyd Tŷ’r Castell, cartref y Prifathro am nifer o flynyddoedd, i wneud lle ar gyfer bloc gwyddoniaeth newydd gan y pensaer C J Ferguson.

Cafodd Tŷ’r Castell ei ddymchwel yn yr 1890au er mwyn creu lle ar gyfer bloc gwyddoniaeth newydd gan y pensaer C J Ferguson.

Bywyd Newydd i'r Hen Goleg

Cefnogir prosiect yr Hen Goleg gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, Cronfa Cymunedau’r Arfordir, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ymddiriedolaethau dyngarol, ac unigolion.

Pan fydd wedi'i gwblhau bydd yn ganolfan newydd o bwys ar gyfer dysgu, treftadaeth, diwylliant a menter mewn tri pharth thema: Byd Gwybodaeth, Diwylliant a Chymuned, a Menter ac Arloesi.

Wedi’i hysbrydoli gan arwyddair y Brifysgol, bydd Byd Gwybodaeth yn cynnwys canolfan sy’n dathlu Gwyddoniaeth ac Ymchwil arloesol, Amgueddfa Prifysgol, parth Pobl Ifanc gyda gweithgareddau dan arweiniad ieuenctid i hybu sgiliau, dyheadau a lles, canolfan astudio 24-7 i fyfyrwyr a chyfleuster sinema flaengar.

Bydd y cwad, calon draddodiadol yr Hen Goleg, yn ganolbwynt i orielau arddangos y parth Cymunedol a Diwylliant a fydd yn cynnwys arddangosfeydd wedi’u curadu o gasgliadau’r Brifysgol ac arddangosfeydd teithiol gan bartneriaid blaenllaw. Mae’r parth hwn hefyd yn cynnwys Canolfan Ddeialog gyntaf y DU.

Bydd y parth Menter ac Arloesi yn darparu 12 Uned Busnes Creadigol a mannau cymunedol i annog entrepreneuriaid ifanc mewn busnesau creadigol a digidol.

Unwaith y bydd wedi'i gwblhau disgwylir i'r Hen Goleg ddenu 200,000 o ymwelwyr a chyfrannu hyd at £14.5m yn flynyddol at yr economi leol, gan ei roi ar yr un lefel â chyrchfannau twristiaeth mawr megis cestyll Caernarfon a Chonwy.

Bydd hyd at 130 o swyddi'n cael eu creu yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol a bydd mwy na 400 o gyfleoedd gwirfoddoli. Bydd llety gwesty 4*, bariau, caffis a gofodau ar gyfer gweithgareddau a digwyddiadau ar draws 7 llawr a 143 o ystafelloedd, gan gynnwys ystafell ddigwyddiadau ddramatig i 200 o bobl gyda golygfeydd godidog ar draws Bae Ceredigion.

Disgwylir i Ran 1, sy'n cynnwys yr Hen Goleg ei hun a'r filas Sioraidd (1 a 2 Rhodfa’r Môr), gael ei gwblhau tua diwedd 2025.

Disgwylir i Ran 2, Y Cambria, gael ei gwblhau erbyn diwedd 2026.