Adroddiad The Cambrian News and Meirionethshire Standard am y tân

Yr Hen Goleg ar dân: llosgwyd rhan helaeth o adain ogleddol yr adeilad gan y tân ar noson 8/9 Gorffennaf 1885.

Yr Hen Goleg ar dân: llosgwyd rhan helaeth o adain ogleddol yr adeilad gan y tân ar noson 8/9 Gorffennaf 1885.

05 Ebrill 2024

Yn ystod noson yr 8fed/9fed o Orffennaf 1885 llosgwyd yr Hen Goleg gan dân. Tŷr Castell, preswylfa’r Prifathro ac adain ddeheuol yr adeilad oedd yr unig rannau na chafodd eu heffeithio.

Ar y pryd, roedd cynlluniau ar y gweill i ailddatblygu’r Hen Goleg gyda chyfraniadau preifat sylweddol yn eu lle i ariannu’r gwaith. Yn ffodus, nid oedd y gwaith hwnnw wedi dechrau pan ddinistriwyd yr adeilad gan y tân.

Cyhoeddwyd adroddiad manwl am ddigwyddiadau noson y tân a’r wythnos ganlynol yn The Cambrian News and Meirionethshire Standard ar 17 Gorffennaf 1885.

Mewn darn sy’n bron i 9,000 o eiriau, cyhoeddodd y papur adroddiad manwl am y tân a’r gwaith o chwilio am gyrff tri dyn lleol fu farw yn ystod y digwyddiad.

Roedd James Edwin Brett yn 21 oed ac yn byw gyda'i fam yn Lôn Rhosmari (Princess Street). Roedd Samuel Jones, enamelydd llechi o Stryd Portland a phreifat ym Myddin yr Iachawdwriaeth yn briod â chwech o blant, a John Davies o Laurel Place, Y Porth Bach (Eastgate), yn gweithio i Gorfforaeth Aberystwyth ac yn briod gyda dau o blant.

Daethpwyd o hyd i’w gweddillion o dan amgueddfa’r Hen Goleg yn ddiweddarach ar ddydd Iau 9 Gorffennaf, lai na 24 awr ar ôl i’r tân ddechrau.

Yr Hen Goleg ar ôl y tân.

Clywodd y cwest, a gynhaliwyd yn Neuadd y Dref yr un noson, sut y gwelwyd y dynion yn rhedeg i fyny'r grisiau i ail lawr yr adeilad, ychydig funudau cyn i lawr yr amgueddfa ddymchwel.

Mae'r papur hefyd yn adrodd ar ymweliad y Cyrnol Syr Charles Firth, Llywydd Cymdeithas y Frigâd Dân, Llundain, ar y dydd Llun canlynol i ymchwilio i achos tebygol y tân ac adolygu’r mesurau diogelwch.

Yn ôl yr adroddiad, achoswyd y tân gan “hylosgi digymell ymhlith y gwastraff cotwm a ddefnyddiwyd i lanhau ar ôl yr arbrofion cemegol yn adran y labordy”.

Yn ei adolygiad o ddiogelwch tân, adroddir bod y Cyrnol Syr Charles Firth wedi’i “syfrdanu fod sefydliad cyhoeddus mawr o’r math hwn heb unrhyw ddarpariaeth resymol ei hunain ar gyfer diffodd tanau”.

Yn yr adran am ymateb allanol mae’r papur yn adrodd am y pryder ymhlith pobl ledled Cymru a rhoddion a wnaed i deuluoedd y rhai oedd wedi dioddef profedigaeth ac at y gwaith ailadeiladu.

Cyfrannodd Mr Stuart Rendel, AS Sir Drefaldwyn £10 at gronfa’r gweddwon, a derbyniwyd telegram gan Mr Lewis Morris, un o Ysgrifenyddion Mygedol y coleg, yn dweud y byddai’r Trysorydd yn talu costau’r angladdau.

Ceir sylw hefyd gan bapurau newydd eraill gan gynnwys The South Wales Daily News, a adroddodd; “Mae miloedd, cannoedd o filoedd o Gymry wedi clywed y newyddion am y tân dinistriol yng Ngholeg Aberystwyth gyda chymaint o boen ac ing fel pe bai eu tai eu hunain wedi cael eu llosgi.”

Fodd bynnag, adroddodd y Western Mail fod “Aberystwyth wedi’i llosgi’n ulw, ac ein gofyd yw fod hynny’n ddiwedd ar Aberystwyth.”

Mae’r papur yn mynd ymlaen i alw ar bobl Abertawe i “ddod ymlaen yn feiddgar a chynnig adeiladu coleg newydd yn eu plith eu hunain ar yr amod (a) y bydd y Llywodraeth yn gwarantu parhad o’r grant a roddir i Aberystwyth ar hyn o bryd a (b) fod awdurdodau Coleg Aberystwyth yn cytuno i drosglwyddo iddynt y deg neu ddeuddeng mil o bunnau yr yswiriwyd eu heiddo ar ei gyfer.”

Y Sul wedi’r tân gwelwyd pregethau yn cael eu traddodi yng Nghapel y Bedyddwyr Saesneg, Capel yr Annibynwyr Cymraeg yn Stryd y Popty, Capel yr Annibynwyr Saesneg, Eglwys y Bedyddwyr Bethel, Llanbadarn, Eglwys Gymraeg y Santes Fair, Eglwys Sant Mihangel, â phob un yn cael ei adrodd yn y papur o dan y pennawd “Cyfeiriadau o’r Pulpud”.

Daw’r adran i ben â phregeth a draddodwyd gan Brifathro’r Coleg, y Parch T C Edwards, M.A., yng Nghapel y Methodistiaid Saesneg yn Newfoundland Street (Stryd y Baddon yn ddiweddarach).

Yn olaf, mae adroddiadau am yr angladdau. Adroddir fod dwy fil o bobl wedi mynychu angladdau John Davies a Samuel Jones a gynhaliwyd ar y prynhawn Sul.

Cynhalwyd angladd James Brett ddydd Mawrth 14 Gorffennaf, ac yn ol yr adroddiad roedd llawer fawr o bobl y dref yno, yn eu plith clerigwyr a gweinidogion, cynghorwyr tref ac ynadon.”

Gellir darllen yr adroddiad llawn ar https://newspapers.library.wales/view/3416656/3416660

Gydaf chefnogaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, Cronfa Cymunedau’r Arfordir, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ymddiriedolaethau dyngarol, ac unigolion, mae’r Hen Goleg yn cael ei drawsnewid yn ganolfan o bwys ar gyfer dysgu, treftadaeth, diwylliant a menter.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan prosiect yr Hen Goleg.