Y Brifysgol i gynnal sesiynau trawsnewidiol yng Ngŵyl y Gelli: Ail-ddychmygu Democratiaeth, Heddwch a Bioamrywiaeth

Gŵyl y Gelli. Credyd: Sam Hardwick

Gŵyl y Gelli. Credyd: Sam Hardwick

09 Ebrill 2024

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi ei bod yn cymryd rhan yng Ngŵyl y Gelli 2024, sy’n enwog am ddod â meddylwyr, awduron ac artistiaid ynghyd i archwilio pŵer syniadau ac adrodd straeon.

Eleni, mae'r ŵyl yn ehangu ei gorwelion gyda'r thema ‘Ail-ddychmygu ein Byd a'n Creadigrwydd’.

Bydd y tair sesiwn Brifysgol Aberystwyth yn ymchwilio i bynciau democratiaeth, heddwch a bioamrywiaeth, gan drafod llwybrau tuag at ddyfodol sy'n cyd-fynd â'n delfrydau cyfunol a lles ein planed.

Sesiwn 1 (Digwyddiad 164): Doing Democracy Differently
Siaradwyr: Anwen Elias yn siarad â Jennifer Wolowic
Dyddiad/amser: 4pm, Dydd Mawrth 28 Mai 2024 – Meadow Stage

Mae rhwydweithiau a sefydliadau o amgylch y byd yn hyrwyddo gwedd newydd ar ddemocratiaeth ac yn ceisio creu dulliau sy’n fwy cyfranogol, hygyrch a chynhwysol. Ymunwch â Dr Anwen Elias, Cyd-gyfarwyddwr Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru, a Dr Jennifer Wolowic, Prif Arweinydd Canolfan Ddeialog Prifysgol Aberystwyth, wrth i ni drafod y modd y mae Prifysgol Aberystwyth yn ceisio cefnogi’r gwaith hwn trwy gelfyddyd, ffotograffiaeth a collage dan arweiniad y gymuned, a hynny i helpu i lunio polisïau a sefydliadau ar gyfer dyfodol egnïol. Mae’r ymgyrch hon yn ymuno â galwad i weithredu i groesawu llwybrau arloesol mewn democratiaeth, gan gyfuno dinasyddiaeth weithredol â mynegiant artistig. Dewch i ni drawsnewid democratiaeth gyda’n gilydd.

Sesiwn 2 (Digwyddiad 231): Inspiration for a New Generation: The Welsh Women’s Peace Petition
Siaradwyr: Mererid Hopwood a Jenny Mathers yn siarad â Betsan Powys
Dyddiad/amser: 11:30am, Dydd Iau 30 Mai 2024  - Meadow Stage

A all ymdrechion heddwch dinasyddion cyffredin effeithio ar fyd sydd wedi ymgolli mewn rhyfel? Gan mlynedd yn ôl meiddiodd merched Cymru ddychmygu byd heb ryfel a chymryd camau i gyflawni hynny: arwyddodd bron i 400,000 ddeiseb yn apelio ar fenywod America i gefnogi eu galwad am heddwch. Ymunwch â Mererid Hopwood a Jenny Mathers, golygyddion Yr Apêl 1923–24, wrth iddynt drafod stori ryfeddol Deiseb Heddwch Merched Cymru gyda’r newyddiadurwraig Betsan Powys, a cheisio ysbrydoliaeth ar gyfer cenhedlaeth newydd o heddychwyr. Bydd y drafodaeth hon yn tynnu cymariaethau â gwrthdaro cyfoes, gan gynnig mewnwelediad i’r ymchwil barhaus am heddwch a rôl dinasyddion cyffredin wrth lunio byd di-ryfel.

Sesiwn 3 (Digwyddiad 355): Penguins, Rhinos and Poverty: Tackling uncomfortable questions in biodiversity conservation
Siaradwyr:  Darrell Abernethy yn siarad â Jennifer Wolowic

Dyddiad/amser: 1:00pm, Dydd Sul 2 Mehefin 2024 – Spring Stage

Mae bywyd gwyllt ac ecosystemau ledled y byd yn wynebu bygythiadau enfawr ond mae nodi blaenoriaethau a dulliau cadwraeth yn codi llawer o gwestiynau heriol. Sut mae cydbwyso'r awydd i warchod rhywogaethau bywyd gwyllt sydd dan fygythiad ag anghenion poblogaethau dynol? Pwy sy'n penderfynu? Ymunwch â sgwrs rhwng Pennaeth Ysgol Milfeddygaeth Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Darrell Abernethy, a chynrychiolydd o WWF i drafod sut mae gweithgareddau dynol ac argyfyngau naturiol yn effeithio ar rai o rywogaethau mwyaf gwerthfawr y byd.


I gael rhagor o wybodaeth am y sesiynau ac i brynu tocyn ewch i wefan Gŵyl y Gelli.

Ymunwch â ni yng Ngŵyl y Gelli 2024 am daith o ddarganfod ac ysbrydoliaeth.