Eclips yr Haul 2024: Ras tîm Aberystwyth tuag at yr Haul

Chwith i'r dde: Dal eclips yr haul yn Valliant, Oklahoma, Simone Di Matteo (NASA), Nathalia Alzate (NASA) a astudiodd ar gyfer ei PhD ym Mhrifysgol Aberystwyth, a Brad Ramsey sy'n astudio ar gyfer PhD yn Aberystwyth ar hyn o bryd.

Chwith i'r dde: Dal eclips yr haul yn Valliant, Oklahoma, Simone Di Matteo (NASA), Nathalia Alzate (NASA) a astudiodd ar gyfer ei PhD ym Mhrifysgol Aberystwyth, a Brad Ramsey sy'n astudio ar gyfer PhD yn Aberystwyth ar hyn o bryd.

09 Ebrill 2024

Bu'n rhaid i wyddonwyr o Aberystwyth a'r Unol Daleithiau oedd wedi teithio i Dallas, Texas, i astudio’r diffyg ar yr haul newid eu cynlluniau ar fyr-rybudd wedi i gymylau darfu ar eu trefniadau.

Roedd y tîm, a oedd yn cynnwys cyn-fyfyrwyr a myfyrwyr presennol o grŵp Ffiseg Cysawd yr Haul Prifysgol Aberystwyth, wedi adnabod tri lleoliad posibl yng nghyffiniau’r ddinas yn Texas i gofnodi’r diffyg ar yr haul fel rhan o raglen ryngwladol i astudio tywydd y gofod.

Roedd yr eclips diweddaraf hwn yn arbennig o nodedig gan ei fod yn cyd-daro ag uchafbwynt bywiogrwydd ar wyneb yr haul, digwyddiad unwaith bob 11 mlynedd pan fo wyneb yr Haul ar ei fwyaf bywiog.

Fodd bynnag, oherwydd rhagolygon am dywydd cymylog, penderfynodd y tîm deithio tua’r gogledd-ddwyrain ar hyd llwybr yr eclips yn y gobaith o sicrhau golwg glir o'r digwyddiad.

Wedi gadael Dallas ar doriad y wawr, cyrhaeddodd un criw Paris, Texas, a theithiodd y llall i Valliant, Oklahoma, bron i dair awr i ffwrdd.

Darparodd awyr lâs Paris yr amgylchiadau delfrydol ar gyfer astudio’r digwyddiad haul tra bod cyfuniad o gymylau uchel tenau ac awyren yn hedfan ar draws y corona, wedi tarfu ar yr ymgais i gasglu data yn Oklahoma.

Arweiniwyd y gwaith gan yr Athro Huw Morgan, o'r grŵp Ffiseg Cysawd yr Haul ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Dywedodd: “O ystyried y cymylau a’r rhagolygon cyfnewidiol ar gyfer cyfnod y diffyg ar yr haul, gwnaeth y tîm o Aberystwyth yn rhyfeddol o dda i gofnodi’r digwyddiad hwn. Nid yn unig y buodd angen iddyn nhw newid eu cynlluniau ar y funud olaf, fe lwyddon nhw i ddod o hyd i leoliadau amgen a gosod yr offer mewn pryd i gymryd y mesuriadau angenrheidiol a darparu data sy'n ein helpu ni i ddeall mwy am yr hyn sy'n digwydd ar yr haul a thywydd y gofod.”

Roedd y tîm yn defnyddio camerâu a ddatblygwyd ym Mhrifysgol Aberystwyth gan Dr Matt Gunn, gwaith oedd wedi ei gyllido gan Gyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg UKRI.

Yn ddiweddar comisiynwyd Dr Gunn i adeiladu Enfys, offeryn allweddol ar gyfer crwydryn Exo-Mars yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd.

Roedd yr offer a ddefnyddiwyd hefyd yn sail ar gyfer profi technoleg a allai alluogi gwyddonwyr i astudio eclips yr haul o’r gofod fel rhan o MESOM (Moon-Enabled Solar Occultation Mission), lle mae gwyddonwyr o Aberystwyth yn gweithio gydag ymchwilwyr yn UCL a Phrifysgol Surrey.

Mae’r daith wedi’i chynllunio i gylchdroi'r lleuad, a bydd yn galluogi gwyddonwyr i astudio eclipsau’r haul yn fisol, gyda phob eclips yn para rhwng 20 a 30 munud.

Byddai’r cyfryw daith yn osgoi problemau gyda chymylau yn effeithio ar yr astudiaethau. 

Y tîm dan arweiniad Aberystwyth fu’n astudio eclips yr haul ar ddydd Llun 8 Ebrill oedd Nathalia Alzate (NASA, PhD o Brifysgol Aberystwyth), Simone Di Matteo (NASA), Gabriel Muro (Caltech, PhD o Brifysgol Aberystwyth), a Brad Ramsey a Harshita Gandhi, y ddau’n fyfyrwyr PhD ym Mhrifysgol Aberystwyth ar hyn o bryd.