Darlith gyhoeddus ar ddyfodol y Deyrnas Unedig

Yr Athro Michael Kenny, Cyfarwyddwr Sefydliad Polisi Cyhoeddus Bennett ym Mhrifysgol Caergrawnt.

Yr Athro Michael Kenny, Cyfarwyddwr Sefydliad Polisi Cyhoeddus Bennett ym Mhrifysgol Caergrawnt.

19 Ebrill 2024

“Fydd y Deyrnas Unedig yn goroesi?” yw’r pwnc llosg gwleidyddol a fydd yn destun darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Traddodir ‘Fractured Union’ gan yr Athro Michael Kenny, arbenigwr ar gyfansoddiad y DU, hunaniaeth genedlaethol a gwleidyddiaeth diriogaethol.

Cynhelir y ddarlith gan Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru Prifysgol Aberystwyth, yn rhan o gyfres newydd o ddigwyddiadau yn trafod y Dyfodol Cyfansoddiadol.

Bydd yr Athro Kenny, sy'n Gyfarwyddwr Sefydliad Polisi Cyhoeddus Bennett ym Mhrifysgol Caergrawnt, yn trafod ei lyfr newydd  'Fractured Union: Politics, Sovereignty and the Fight to Save the UK’ (Hurst, 2024). 

Gan ddefnyddio corpws o gyfweliadau â Gweinidogion, ASau a gweision sifil - a gynhaliwyd dros sawl blwyddyn - mae'r Athro Kenny wedi archwilio i'r diffyg ffydd wleidyddol yn hyfywedd hirdymor yr Undeb Brydeinig. 

Bydd ei ddarlith yn ystyried yr argyfyngau a'r tensiynau yn yr Undeb, y cymhlethdodau a'r heriau sy’n dod o ddatganoli, ac yn trafod sut mae digwyddiadau anferth fel refferendwm yr Alban ar annibyniaeth, Brecsit, a’r pandemig Cofid wedi ychwanegu at y tensiynau rhwng San Steffan a'r gweinyddiaethau datganoledig.

Dywedodd y Dr Anwen Elias, Darllenydd mewn Gwleidyddiaeth a Chyd-Gyfarwyddwr ar Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru (CWPS): "Dyma gyfle gwych i glywed gan un o'r meddylwyr blaenllaw ar wleidyddiaeth gyfansoddiadol yn y DU. Bydd ei anerchiad amserol yn ystyried yr heriau cyfansoddiadol pennaf sy'n wynebu'r Deyrnas Unedig a allai beryglu dyfodol yr Undeb."

Cynhelir y ddarlith ddydd Llun 29 Ebrill 2024 ym Mhrif Neuadd yr Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol ar Gampws Penglais, Prifysgol Aberystwyth.  Bydd y noson yn dechrau â derbyniad diodydd am 6pm, gyda’r ddarlith am 6.30pm a sesiwn holi a ateb wedyn.

Mae'r digwyddiad yn rhad ac am ddim ac mae croeso i bawb.  Gellir archebu’ch lle yn: https://www.tickettailor.com/events/cwpsaber/1175352