Gradd nyrsio milfeddygol i gychwyn ym mis Medi yn Aberystwyth

Dechreuodd y myfyrwyr cyntaf yng Nghanolfan Addysg Milfeddygaeth  Prifysgol Aberystwyth ym mis Medi 2021.

Dechreuodd y myfyrwyr cyntaf yng Nghanolfan Addysg Milfeddygaeth Prifysgol Aberystwyth ym mis Medi 2021.

07 Mai 2024

Bydd myfyrwyr yn astudio i fod yn nyrsys milfeddygol ym Mhrifysgol Aberystwyth ym mis Medi eleni fel rhan o gynllun i ehangu unig Ysgol Gwyddor Filfeddygol Cymru.

Fel rhan o’r radd sylfaen mewn Nyrsio Milfeddygol ym Mhrifysgol Aberystwyth, bydd myfyrwyr yn astudio’r sgiliau a’r galluoedd sydd eu hangen o’r diwrnod cyntaf er mwyn gofalu am  ystod o anifeiliaid bach a rhai mawr. 

Mae’r cwrs yn cyfuno dysgu agweddau theori ac ymarferol, ac yn cynnwys lleoliad gwaith am flwyddyn mewn milfeddygfa sy’n rhan annatod o’r rhaglen.

Bydd y myfyrwyr yn elwa ar adnoddau’r Brifysgol, gan gynnwys labordy sgiliau clinigol, labordai ymchwil ac anatomeg, canolfan geffylau ar gyfer dysgu, a ffermydd y Brifysgol. Mae ffug-glinig milfeddygol wrthi’n cael ei ddatblygu a bydd yn caniatáu i fyfyrwyr baratoi ar gyfer lleoliadau clinigol mewn gofod ymarfer.

Cafodd Canolfan Addysg Milfeddygaeth newydd Aberystwyth, sy’n rhan allweddol o Ysgol Gwyddor Filfeddygol gyntaf Cymru, ei hagor yn swyddogol ym mis Rhagfyr 2021 gan y Brenin Charles III.

Mae myfyrwyr wedi bod yn astudio i fod yn filfeddygon ym Mhrifysgol Aberystwyth ers mis Medi 2021, wedi buddsoddiad o dros £2 filiwn mewn cyfleusterau newydd.

Dywedodd yr Athro Darrell Abernethy, Pennaeth Ysgol Gwyddor Filfeddygol Prifysgol Aberystwyth:

“Gyda’r rhaglen israddedig wedi hen ddechrau, ac yn unol â gweledigaeth yr Ysgol ac adborth gan y proffesiwn, rydyn ni’n falch iawn o gyflwyno gradd nyrsio filfeddygol eleni.

“Trwy gyfoethogi’r proffesiwn, rydyn ni’n cefnogi nid yn unig y gymuned ffermio ond perchnogion anifeiliaid anwes, pobl â diddordeb mewn ceffylau, llywodraeth genedlaethol ac, yn ei  thro, cymdeithas Cymru. Dyna hefyd pam mae Prifysgol Aberystwyth wedi buddsoddi cymaint mewn creu canolfan ragoriaeth mewn iechyd anifeiliaid i ychwanegu at ei llwyfannau presennol - o labordai o’r radd flaenaf i arbenigedd o safon byd mewn ymchwil i TB mewn gwartheg.

“Bellach mae gan Gymru ei Hysgol Filfeddygol ei hun sy’n diwallu ac sy’n cwrdd ag anghenion ei chymuned filfeddygol ei hun - o ddarparu graddedigion sy’n gallu siarad Cymraeg, sy’n dod o Gymru ac sydd felly’n fwy tebygol o aros yng Nghymru, i gefnogi'r proffesiwn gyda hyfforddiant ôl-raddedig ac ymgymryd ag ymchwil sy'n rhagorol ac sydd hefyd yn berthnasol yn lleol.”

Emma Anscombe-Skirrow, Uwch Ddarlithydd ac Arweinydd Nyrsio Milfeddygol sy’n gyfrifol am y gwaith o sefydlu’r cwrs newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Gyda thros 10 mlynedd o brofiad ym maes addysg, yn flaenorol, bu’n gweithio gyda Choleg Brenhinol y Llawfeddygon Milfeddygol lle bu’n achredu cymwysterau israddedig ac ôl-raddedig.

Dywedodd Emma Anscombe-Skirrow:

“Mae llwyddiant unig Ysgol Gwyddor Filfeddygol Cymru ers iddi agor yn wych i’w weld. Mae ychwanegu astudiaethau nyrsio milfeddygol at yr radd filfeddygol sydd eisoes yn cael ei haddysgu yma yn gyfle gwych i ehangu darpariaethau addysgol yr Ysgol.”

Gellir gwneud ymholiadau am y cwrs nyrsio milfeddygol ac ymgeisio drwy e-bostio vetssat@aber.ac.uk.