Straen acíwt mewn ceffylau ddim o reidrwydd yn gysylltiedig â’r dewis o ffrwyn - astudiaeth

Ceffyl dressage yn gwisgo ffrwyn enfaog. Llun gan Kira o Pixabay

Ceffyl dressage yn gwisgo ffrwyn enfaog. Llun gan Kira o Pixabay

02 Medi 2025

Mae astudiaeth newydd wedi canfod nad y math o ffrwyn y mae ceffylau’n ei gwisgo mewn cystadlaethau dressage yw'r unig ffactor sy'n effeithio ar eu lefelau straen.

Astudiodd gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Portsmouth effaith gymhleth defnyddio ffrwyn ddwbl dwy-enfa yn hytrach na ffrwyn un-enfa.

Dadansoddodd yr ymchwilwyr 135 o geffylau mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau dressage gan gofnodi arwyddion o straen, a amlygir trwy ymddygiadau fel chwifio eu cynffonnau, taflu eu pennau, ac agor eu cegau.

Canfuwyd bod yr ymddygiadau hyn yn gyffredin mewn ceffylau dressage yn ystod cystadlaethau, ni waeth pa fath o ffrwyn a ddefnyddir.

Er mwyn cael darlun mwy cyflawn, edrychwyd hefyd ar ffactorau eraill, gan gynnwys lefel a math o gystadleuaeth dressage, ongl pen y ceffyl wrth farchogaeth, a'r defnydd o wahanol eitemau cyfrwy, fel trwynffrwyn, math o fochddarn, sbardunau, a bonedau clust. 

Mae canfyddiadau’r ymchwil, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Animals, yn dangos nad y math o ffrwyn a ddefnyddir yw’r unig ffactor sy’n dylanwadu ar anesmwythder neu straen mewn ceffylau. Mae hefyd yn cael ei effeithio gan lawer o ffactorau eraill, gan gynnwys profiad y marchogwr ac arferion hyfforddi.

Daw'r ymchwil newydd ar adeg o graffu cynyddol ar gampau marchogaeth a’u safonau lles anifeiliaid.

Mewn cystadlaethau dressage ar lefelau uwch, mae'n ofynnol i farchogwyr ddefnyddio ffrwynau dwbl - rheol sydd wedi sbarduno cryn drafod ymhlith marchogwyr, hyfforddwyr, ac ymgyrchwyr lles anifeiliaid.

Dywedodd Dr Sebastian McBride, cydawdur ac uwch ddarlithydd ymddygiad anifeiliaid ym Mhrifysgol Aberystwyth:

"Mae'r ymchwil hon yn herio'r naratif simplistig fod ffrwynau dwbl yn eu hanfod yn fwy niweidiol. Mae ein canfyddiadau yn cynnig darlun mwy cynnil o lawer - mae’r math o ffrwyn yn rhyngweithio â dawn y marchogwr, hyfforddiant y ceffyl, a hyd yn oed safle pen y ceffyl yn ystod y perfformiad. Nid y cyfrwy yn unig sy’n bwysig, ond sut y caiff ei ddefnyddio a'r sawl sy’n ei ddefnyddio."

Dr Sebastian McBride.  Llun gan Jay Williams


Mae'r ymchwil hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd edrych ar ymddygiad y ceffylau i asesu eu lles.

Trwy adnabod patrymau ymddygiad sy'n awgrymu straen, mae'r astudiaeth yn cynnig fframwaith ar gyfer cynnal astudiaethau yn y dyfodol i ddeall sut y gall cystadlaethau marchogaeth a marchogwyr effeithio ar gyflwr meddwl y ceffyl.

Ychwanegodd Dr Sebastian McBride:

"Mae ceisio asesu lles meddyliol ceffylau yn gymhleth, ac mae angen canolbwyntio ar y dystiolaeth. Mae ein hastudiaeth yn ychwanegu at gorff cynyddol o ymchwil sy'n cefnogi penderfyniadau mwy gwybodus, sy'n ystyried lles ceffylau, mewn campau marchogaeth."

Awduron eraill yr astudiaeth oedd graddedigion Prifysgol Aberystwyth Rifka Faithfull a Emily Drury a Dr Kate Lewis o Ganolfan Seicoleg Gymharol ac Esblygol Prifysgol Portsmouth.