Prosiect nodedig i astudio etholiad y Senedd 2026

Y Senedd ym Mae Caerdydd.

Y Senedd ym Mae Caerdydd.

02 Medi 2025

Mae Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) UKRI wedi dyfarnu mwy na £1m i dîm ymchwil o brifysgolion Aberystwyth ac Abertawe i arwain Astudiaeth Etholiad Cymru 2026 (WES 2026), prosiect pedair blynedd a fydd yn darparu data arolwg diduedd o ansawdd uchel ar agweddau gwleidyddol ac ymddygiad pleidleisio yng Nghymru.

Mae'r cydweithrediad yn dwyn ynghyd Dr Anwen Elias (Prifysgol Aberystwyth), a’r Athro Matt Wall a Dr Bettina Petersohn (Prifysgol Abertawe), gan weithio mewn partneriaeth â Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD), fel rhan o fuddsoddiad y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) mewn seilwaith data ar gyfer ymchwil etholiadol.

Dywedodd yr Athro Alison Park, Dirprwy Gadeirydd Gweithredol y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC):

“Mae’n bleser gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol gefnogi’r astudiaeth o etholiad Senedd Cymru 2026, sy’n gonglfaen i’n hymrwymiad i bwysigrwydd hirdymor astudiaethau o etholiadau’r Deyrnas Unedig. Mae'r buddsoddiad wedi’i dargedu yma yn sicrhau bod ymchwilwyr, llunwyr polisi a chymunedau gwleidyddol ledled y Deyrnas Unedig yn parhau i elwa o'r mewnwelediadau cyfoethog y mae'r astudiaethau hyn yn eu darparu.

“Ers 1999, mae Astudiaeth Etholiad Cymru wedi rhoi chwyddwydr hanfodol ar wleidyddiaeth, etholiadau ac ymddygiad pleidleiswyr Cymru. Edrychwn ymlaen at weld mewnwelediadau’r Astudiaeth Etholiad Cymru nesaf dan arweiniad Abertawe, gan adeiladu ar waith rhagorol y timau blaenorol.”

O dan y teitl 'Astudiaeth Etholiad Cymru 2026: Lle, Pŵer ac Ymgysylltiad Gwleidyddol', bydd y tîm ymchwil yn goruchwylio casglu a lledaenu data arolwg gwreiddiol sy’n cwmpasu etholiad Seneddol 2026, sydd i’w gynnal ar gyfer 7 Mai. Hwn fydd etholiad cyntaf Cymru o dan system etholiadol newydd, gan gynyddu nifer yr Aelodau o 60 i 96, sy’n newid seismig yn nemocratiaeth Cymru.

Dywedodd yr Athro Matt Wall o Brifysgol Abertawe: "Mae'n anrhydedd i mi arwain y bennod nesaf o Astudiaeth Etholiad Cymru. Mae hwn yn gyfle cyffrous i ddyfnhau ein dealltwriaeth o ymddygiad gwleidyddol yng Nghymru ac i sicrhau bod data hygyrch o ansawdd uchel yn cefnogi trafodaeth gyhoeddus wybodus a llunio polisïau effeithiol.

“Caiff yr arolwg ei gynllunio i ganiatáu dadansoddiad cymharol o etholiad Cymru 2026 ledled y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol. Bydd Astudiaeth Etholiad Cymru 2026 yn ei gwneud hi'n bosibl astudio ffyrdd newydd o astudio pwysigrwydd lleoliad mewn gwleidyddiaeth. Gan dynnu ar gyfleoedd data geo-dagiedig sydd ar gael yn gyhoeddus a gweithio gyda'r gymuned ymchwil gymdeithasol Gymreig trwy ein partneriaeth â WISERD, bydd Astudiaeth Etholiad Cymru 2026 yn gweld Cymru ar flaen y gad o ran technegau dadansoddi etholiadol, gan flaenoriaethu ansawdd data, hygyrchedd ac effaith.”

Dywedodd Dr Anwen Elias, sy'n ddarllenydd yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol  Prifysgol Aberystwyth: “Bydd y prosiect hwn yn olrhain barn y cyhoedd yng Nghymru ar adeg hollbwysig i ddemocratiaeth Cymru – bydd system newydd yn cael ei chyflwyno ar gyfer ethol cynrychiolwyr i Senedd fwy, a gallai fod newidiadau gwleidyddol o ganlyniad i’r diwygiadau hyn. Rwy'n llawn cyffro i fod yn rhan o dîm y prosiect, a fydd yn gweithio gyda gwneuthurwyr penderfyniadau a phobl ifanc i lywio a rhannu canfyddiadau'r ymchwil."

Mae Astudiaeth Etholiad Cymru 2026 yn cydweithio â WISERD fel partner sy'n darparu seilwaith ymchwil gymdeithasol ledled Cymru – gan dynnu ar ddata a chyfleoedd dadansoddol a guradwyd gan WISERD, yn ogystal â gweithio gyda Rhwydwaith Ymchwil Gwleidyddiaeth a Llywodraethu WISERD i gynnwys y gymuned ysgolheigaidd.

Bydd Astudiaeth Etholiad Cymru 2026 yn cyfrannu at adeiladu capasiti ac arloesedd methodolegol mewn cymunedau ymchwil etholiadol sy'n benodol i Gymru a rhai ar draws y Deyrnas Unedig, gan gyd-fynd ag amcanion ehangach y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol o wella defnyddioldeb a chyrhaeddiad ei isadeiledd data a ariennir.

Dywedodd yr Athro Adam Hedgecoe, Cyfarwyddwr WISERD:

“Mae WISERD yn hynod falch o ychwanegu Astudiaeth Etholiad Cymru at ei bortffolio o brosiectau ymchwil, gan dynnu ar adnoddau ac arbenigedd ar draws nifer o’n prifysgolion cyfansoddol; mae hon yn enghraifft wych o’r ymchwil gydweithredol, draws-sefydliadol y mae WISERD wedi’i harloesi yng Nghymru.”

Yn y cyfnod cyn yr etholiad, bydd Astudiaeth Etholiad Cymru 2026 yn lansio gwefan newydd, cyfres o bodlediadau, a gweithgareddau mewn ysgolion i ysbrydoli ac ymgysylltu â phleidleiswyr ifanc.