Canllaw newydd i daclo cam-drin pobl hŷn gyda thechnoleg

Credyd: Artem Labunsky via Unsplash
02 Hydref 2025
Mae canllaw newydd wedi’i lansio i helpu i fynd i’r afael â bygythiad cynyddol o gam-drinwyr domestig yn defnyddio technoleg, megis clychau drws clyfar a ffonau symudol, yn erbyn pobl hŷn.
Wedi'i ddatblygu gan ymchwilwyr Prifysgol Aberystwyth, Heddlu Dyfed-Powys, a Chymorth Twf Addysg Rhieni (PEGS), mae'r adnodd ar gyfer staff ar y rheng flaen yn tynnu sylw at y bygythiad cynyddol o ddefnyddio technoleg newydd i gam-drin pobl dros 60 oed.
Mae tystiolaeth yn dangos bod y rheini sy’n camdrin yn gynyddol ddefnyddio technoleg digidol i fygwth, stelcio neu aflonyddu - mae 1 ymhob 3 menyw wedi profi cam-driniaeth ar y cyfryngau cymdeithasol neu lwyfannau ar-lein eraill ar ryw adeg yn eu bywydau.
Yn y cyfamser, mae tystiolaeth a gasglwyd gan PEGS yn dangos bod 14% o'r rhieni hŷn a gefnogwyd ganddynt wedi profi cam-drin digidol gan blant neu wyrion.
Mae'r canllaw newydd yn cynnwys cyngor ar ffyrdd ymarferol o atal camddefnyddio technoleg, megis sut i atal stelcio trwy olrhain ffonau symudol, mynediad diogel i gyfrifon banc a chloi dyfeisiau clyfar.
Wedi'i ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, mae'r pecyn cymorth newydd yn tynnu ar ddata'r heddlu, mewnwelediadau dioddefwyr, ac astudiaethau achos i ddangos sut mae troseddwyr yn camddefnyddio technolegau bob dydd i fonitro, rheoli, ecsploetio a dychryn dioddefwyr hŷn.
Mae un achos yn ymwneud â Keith, 67 oed, dyn sydd â salwch terfynol, y gwariodd ei fab sy'n oedolyn dros £20,000 o arian Keith heb ganiatâd gan ddefnyddio ei ffonau clyfar a'i gyfrifon siopa ar-lein.
Mae achos arall yn tynnu sylw at Katherine, a gafodd ei stelcio, ei aflonyddu a rheolaeth drwy orfodaethgan ei phartner gan ddefnyddio proffil Facebook ffug, ap olrhain symudol a chamera cloch drws Ring, ochr yn ochr â channoedd o alwadau a negeseuon camdriniol.
Wedi'i leoli yn y Ganolfan ar gfyer Oedran, Rhyw a Chyfiawnder Cymdeithasol Prifysgol Aberystwyth, mae’r fenter Dewis Choice yn cefnogi dioddefwyr hŷn cam-drin domestig. Yr astudiaeth hirdymor gyntaf sy'n edrych ar wneud penderfyniadau yn ddiweddarach mewn bywyd, mae'n cyfuno darparu gwasanaethau uniongyrchol gydag ymchwil arloesol.
Dywedodd Rebecca Zerk, Cyd-arweinydd prosiect Dewis Choice ym Mhrifysgol Aberystwyth:
“Wrth i fwy o wasanaethau symud ar-lein, mae nifer cynyddol o bobl hŷn yn dibynnu ar aelodau o’r teulu neu ofalwyr i reoli tasgau digidol ar eu rhan. Heb reolaeth uniongyrchol dros eu cyfrifon ar-lein, gall oedolion hŷn fod mewn mwy o berygl o bobl yn cymryd mantais gan y rheiny sydd agosaf atyn nhw. Gall y ddibyniaeth hon adael pobl hŷn mewn mwy o berygl o gam-drin ariannol, twyll, dwyn hunaniaeth, a gorfodaeth.
“Yn ogystal, mae profiad cyfyngedig o dechnoleg, hyder is wrth ddefnyddio offer digidol, a bod yn anghyfarwydd â risgiau ar-lein yn gallu gwneud oedolion hŷn yn fwy agored i risgiau fel sgamiau, twyll, a cham-drin drwy thechnoleg.
“Mae staff ac ymarferwyr rheng flaen a’r system cyfiawnder troseddol yn gynyddol ymwybodol o rôl technoleg wrth hwyluso cam-drin domestig. Fodd bynnag, mae natur ac effaith y math yna o gam-drin ar ddioddefwyr hŷn dal heb gael ei ymchwilio yn ddigonol. Nod y canllaw hwn yw llenwi’r bwlch hwn a dwyn ynghyd gwybodaeth, mewnwelediadau a data gan ein partneriaid. Rydym ni’n mawr obeithio y gall y canllaw hwn helpu i amddiffyn pobl hŷn rhag y risg hon o niwed.”
Mae data diweddar Heddlu Dyfed-Powys yn dangos, rhwng Mai 2024 ac Ebrill 2025, fod dros 950 o droseddau cysylltiedig â cham-drin domestig yn cynnwys dioddefwyr hŷn. Roedd mwy na 10% o'r achosion hyn yn gysylltiedig â thechnoleg fel ffonau symudol, cyfryngau cymdeithasol a bancio ar-lein.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gwasanaethu Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys a hi yw’r ardal blismona ddaearyddol fwyaf yng Nghymru a Lloegr. Gan gwmpasu mwy na 515,000 o bobl, mae bron i hanner y boblogaeth breswyl gyfan yn 45 oed a throsodd, ac mae 22% dros 65 oed.
Ychwanegodd Allan Rush o Heddlu Dyfed Powys:
“Mae cam-drin sy’n cael ei alluogi gan dechnoleg yn peri bygythiad cynyddol i bobl hŷn a allai fod yn llai cyfarwydd ag offer digidol, gan eu gwneud nhw’n agored i gamdriniaeth. O sgamiau ar-lein ac ymosodiadau gwe-rwydo i wyliadwriaeth o bell ac ecsbloetio ariannol, mae troseddwyr yn gallu defnyddio ffonau clyfar, y cyfryngau cymdeithasol a dyfeisiau cartref clyfar i reoli, twyllo neu ynysu unigolion hŷn. Yn aml, mae'r bwlch digidol yn gadael pobl hŷn heb y sgiliau na'r gefnogaeth i adnabod neu adrodd am gam-drin.
“Un her i'r Heddlu a gweithwyr proffesiynol rheng flaen yw cadw i fyny â'r dechnoleg hon sy'n esblygu'n gyflym a sut y gallai ei chamddefnydd arwain at gam-drin y rhai sydd angen eu diogelu.
“Bydd y canllaw hwn yn adnodd gwerthfawr i ymarferwyr sydd efallai ddim yn arbenigwyr technoleg trwy ddarparu'r wybodaeth a'r offer i adnabod, ymateb i ac atal ffurfiau digidol o gam-drin.”
Ychwanegodd Michelle John, Cyfarwyddwr PEGS:
"Yn PEGS, rydym ni’n gweld yn uniongyrchol sut mae’n bosibl defnyddio technoleg i ymestyn patrymau cam-drin, gan gynnwys achosion lle mae’r rhai sydd agosaf at rieni a neiniau a theidiau yn gallu cymryd mantais ohonyn nhw. Mae'r cynnydd mewn cam-drin sy’n cael ei hwyluso gan dechnoleg yn erbyn pobl hŷn yn bryder cynyddol, ac mae'r canllaw hwn yn cynnig y dulliau a'r wybodaeth i weithwyr proffesiynol rheng flaen i ymateb yn effeithiol. Drwy rannu tystiolaeth a strategaethau ymarferol, gallwn ni sicrhau bod ymarferwyr mewn gwell sefyllfa i adnabod cam-drin digidol ac amddiffyn dioddefwyr rhag niwed pellach."
Mae’r canllaw – Cefnogi Dioddefwyr Hŷn Cam-drin Domestig a Hwylusir gan Dechnoleg – ar gael i weithwyr proffesiynol ar wefan Dewis Choice.