Aberystwyth yw Dinas Llên UNESCO gyntaf Cymru

31 Hydref 2025

Mae Aberystwyth Ceredigion yn ymuno â dros 50 o ddinasoedd a gydnabyddir gan UNESCO am eu cyfraniad i lenyddiaeth yn benodol, gan gynnwys Barcelona, Dulyn, Seattle a Rio de Janeiro. Hefyd mae’r dynodiad Dinas Llên yn golygu mai Aberystwyth Ceredigion yw Dinas Greadigol UNESCO gyntaf Cymru.

A hithau’n ganolfan i lyfrau a llên, mae gan Aberystwyth Ceredigion seilwaith bywiog o ŵyliau, siopau llyfrau, theatrau, digwyddiadau a gwyliau diwylliannol, darlithoedd, canolfannau ymchwil a rhagoriaeth academaidd, byd cyhoeddi, llên a barddoniaeth sy'n cysylltu â phob rhan o’r sir. Crëwyd y Ddinas Llên newydd ar ôl cais cryf gan bartneriaeth strategol Dinas Llên. Mae’r dynodiad UNESCO yn dwyn ynghyd Aberystwyth a sir ehangach Ceredigion i ddathlu traddodiadau llenyddol yr ardal a’i sîn ddiwylliannol ddwyieithog a ffyniannus.

Athro yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth yw Mererid Hopwood; mae’n aelod o bartneriaeth Dinas Llên ac meddai:

“Fel y fro gyntaf yng Nghymru i gael ei chydnabod gan rwydwaith Dinasoedd Creadigol UNESCO, mae arwyddocâd y dynodiad a gyhoeddwyd heddiw yn mynd y tu hwnt i Aberystwyth a sir Ceredigion ac i’r llwyfan cenedlaethol a rhyngwladol. Mae’n gyfle i atgyfnerthu’r diwylliant llenyddol cyfoethog ry’n ni’n ei fwynhau yma a’i rannu â’r byd. ‘Mynd o’ch gwobr at eich gwaith’ yw’r dywediad Cymraeg, ac yn sicr rydym ni’n edrych ymlaen yn awr at wynebu’r cyfrifoldeb sy’n dod gyda’r fraint sylweddol hon.”

Ffurfiwyd partneriaeth Dinas Llên yn 2021 i fwrw ymlaen â rhaglen ymchwil ac ymgynghori yn lleol a pharatoi’r cais cyn ei gyflwyno ym mis Mawrth 2025. Mae’r bartneriaeth yn cynnwys Cyngor Tref Aberystwyth, Prifysgol Aberystwyth, Cyngor Llyfrau Cymru, Cyngor Sir Ceredigion, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (gan gynnwys Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, Cyfnewidfa Lên Cymru a Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau).

Pam Aberystwyth Ceredigion?

Efallai nad yw Aberystwyth Ceredigion yn ddinas yn yr ystyr traddodiadol ond mae sîn lenyddol helaeth yr ardal, ei phrifysgolion a’i sefydliadau llenyddol cenedlaethol, yn golygu ei bod yn gymwys i gael dynodiad Dinas Greadigol UNESCO.

Mae llên a chreadigrwydd mewn amryw o ffurfiau, yn Gymraeg a Saesneg, yn rhan annatod o fywyd bob dydd yma, i bobl o bob oed a chefndir. Mae llenyddiaeth wrth ein traed wrth inni gerdded ar bromenâd Aberystwyth. Mae ar y cei yn Aberteifi ac ar lwybr coetir Llandre. Gall Aberystwyth ei hun hawlio cysylltiad â mwy na 300 o feirdd, a hon yw’r dref gyntaf yng Nghymru i gyflogi Bardd Tref.

Mae Ceredigion yn gartref i gasgliad sylweddol o gyhoeddwyr, yn ogystal â sefydliadau llenyddol Cymreig o bwys cenedlaethol a rhyngwladol gan gynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru. Mae Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn ganolfan ragoriaeth ryngwladol ym maes Astudiaethau Celtaidd, ac mae Prifysgol Aberystwyth yn fyd-enwog am ei rhagoriaeth wrth addysgu ac ymchwilio i ieithoedd a llenyddiaeth, gan gynnwys Cymraeg, Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol. Drwy Gyfnewidfa Lên Cymru a Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau rydym yn cysylltu Cymru â’r byd ac yn rhannu llenyddiaeth o Gymru gyda chynulleidfaoedd newydd drwy gyfieithiadau.

Mae Aberystwyth Ceredigion yn ymuno â Dinasoedd Creadigol o bob cwr o’r byd i gydnabod bod creadigrwydd yn sbarduno datblygu cynaliadwy gan ganolbwyntio ar bobl, lle a chymunedau lleol.

Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Jones, Maer Aberystwyth:

“Mae’n wych o beth fod Aberystwyth Ceredigion wedi derbyn y statws hwn gan roi ein sir ar lwyfan byd-eang a dathlu ein treftadaeth ddiwylliannol a llenyddol unigryw. Mae llenyddiaeth i bawb ac rydym bellach wedi ymuno â rhwydwaith byd-eang o ddinasoedd sydd â chreadigrwydd wrth wraidd eu cymunedau lleol, gan greu dyfodol mwy cynhwysol, gwydn a chynaliadwy.

Mae llenyddiaeth a chreadigrwydd yn helpu i wneud Aberystwyth Ceredigion yn lle anhygoel i fyw, gweithio, astudio ac ymweld ag ef ac rydym yn credu y bydd cael dynodiad Dinas Llên gyntaf Cymru yn sbarduno twf pellach yn y diwydiannau creadigol, yn dod â budd i fusnesau lleol ac yn helpu mwy o bobl i’n darganfod ni a’n straeon. Mae’r dynodiad hwn yn perthyn i bawb yn Aberystwyth Ceredigion ac mae cymaint o gyfleoedd i gymryd rhan a rhannu syniadau – dim ond y cam cyntaf yw hwn!”.

Dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan:

“Llongyfarchiadau Aberystwyth Ceredigion am ddod yn Ddinas Greadigol a Dinas Llên UNESCO gyntaf Cymru.

“Mae Cymru yn wlad llawn creadigrwydd, gydag awduron, beirdd, cantorion ac actorion gwych. Wrth gwrs, mae llawer ohonynt yn dod o ardal Aberystwyth ac wedi mynychu’r Brifysgol yno, ac mae’r cyhoeddiad hwn yn gydnabyddiaeth o’r sîn lenyddol ddisglair, yn y Gymraeg a’r Saesneg, ar draws y sir.

“Mae statws Dinas Llên UNESCO yn gyrhaeddiad haeddiannol iawn, ac rwy’n edrych ymlaen at weld cyfleoedd yn datblygu a gweld Dinas Llên newydd Cymru’n ffynnu.”

Anfonodd cynrychiolwyr UNESCO y neges ganlynol:

“Llongyfarchiadau Aberystwyth Ceredigion ar ddod yn Ddinas Greadigol a Dinas Llên UNESCO gyntaf Cymru!

Mae’r nod hwn o gydnabyddiaeth fyd-eang yn taflu goleuni ar fywiogrwydd a chryfder diwylliant llenyddol dwyieithog Cymru, a’i chyfraniad at greadigrwydd yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. 

Fel rhan o rwydwaith Dinasoedd Creadigol UNESCO, mae Aberystwyth Ceredigion yn ymuno â chymuned sy’n hyrwyddo cynhwysiant, cynaliadwyedd ac arloesedd trwy ddiwylliant a chreadigrwydd.

Mae’n dangos sut y gall ymdrechion lleol a rhyngwladol flaenoriaethu llenyddiaeth, gan helpu i gryfhau dylanwad diwylliannol Cymru a’r DU, yn ogystal â’u llais ar lwyfan y byd.”

Llysgennad y DU, UNESCO, Anna Nsubuga

Cadeirydd Comisiwn Cenedlaethol y DU, UNESCO, Yr Athro Anne Anderson

Ysgrifennydd Cyffredinol Comisiwn Cenedlaethol y DU, UNESCO, James Ömer Bridge

Cafodd y prosiect i ymgeisio am statws UNESCO ei ariannu'n rhannol gan Medr drwy Gronfa Arloesi Ymchwil Cymru

Gallwch weld sut mae modd i chi gymryd rhan, a chael y wybodaeth ddiweddaraf am Ddinas Llên Aberystwyth Ceredigion, drwy fynd i wefan https://dinasllen.cymru/, dilyn @AberystwythDinasLlen ar y cyfryngau cymdeithasol, neu chwilio am ‘Dinas Llên Aberystwyth’.