Cynnig ar y cyd i sefydlu Ysgol Ddeintyddol newydd yng Nghymru

Yr Athro Iain Barber
03 Tachwedd 2025
Mae Prifysgolion Bangor ac Aberystwyth wedi datblygu cynnig cychwynnol ar y cyd i Lywodraeth Cymru sefydlu Ysgol Ddeintyddol newydd.
Gan weithio gyda’r byrddau iechyd a Phrifysgol Caerdydd, nod y cynllun lefel uchel yw creu cyfleoedd hyfforddiant deintyddol newydd, gan fynd i’r afael â’r angen am addysg a gwasanaethau deintyddol gwell yn y Gogledd a’r Canolbarth.
Byddai’r Ysgol, a arweinir ar y cyd gan Brifysgolion Aberystwyth a Bangor, yn cynnwys sefydlu canolfannau addysg ddeintyddol ar draws y ddau ranbarth, a’u rheoli gan y ddwy brifysgol.
Canolbwyntio ar anghenion gofal deintyddol sylfaenol a chymunedol ar draws y Gymru wledig a lled-wledig yw’r nod, gan gynnwys anghenion siaradwyr Cymraeg.
Byddai’r Ysgol Ddeintyddol newydd yn elwa o’r ddarpariaeth bresennol yn y ddwy brifysgol, gan gynnwys Ysgol Feddygol Gogledd Cymru ac Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor a’i phortffolio o raglenni deintyddol ac iechyd, ac arbenigedd Prifysgol Aberystwyth ym meysydd addysg nyrsio ac iechyd gwledig.
Mae’r ddwy brifysgol wedi cydweithio i ddatblygu’r model sy’n cydfynd â chynlluniau Llywodraeth Cymru i gryfhau gwasanaethau, ac fe fydd gwireddu’r model yn amodol ar amcanion a chyllido llawn gan y llywodraeth.
Mae’r cynnig ar y cyd hefyd yn tynnu ar brofiad modelau addysg gymunedol a ddatblygwyd gan y ddwy ysgol ddeintyddol a agorwyd yn fwyaf diweddar yn y Deyrnas Gyfunol .
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i weithio gyda Phrifysgolion Bangor ac Aberystwyth i addasu eu cwricwlwm er mwyn iddo weithio ar gyfer Cymru gyfan.
Dywedodd Dirprwy Brofost a Phennaeth Coleg Meddygaeth ac Iechyd Prifysgol Bangor, yr Athro Mike Larvin:
"Mae hyn yn gam cynnar iawn yn ein cynllunio, ond mae’r Brifysgol wedi ymrwymo’n llawn i ddatblygu'r Ysgol Ddeintyddol yn y Gogledd a’r Canolbarth. Rydym ni wedi cryfhau ein cynnig o ran ein cyfleusterau a chapasiti academaidd i gefnogi ehangu rhaglenni Hylendid a Therapi Deintyddol a ddatblygwyd mewn cydweithrediad â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a darparwyr deintyddol preifat. Mae'r amgylchedd cyllido yn heriol iawn ac rydym ni’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru fel ein bod ni i gyd, pan fydd yr amgylcheddau polisi a chyllido'n caniatáu, rydym ni’n barod i weithredu ein cynnig yn gyflym.”
Dywedodd yr Athro Iain Barber, Dirprwy Is-Ganghellor Cyfadran y Gwyddorau ym Mhrifysgol Aberystwyth:
“Rydyn ni’n falch iawn o gydweithio gyda’n partneriaid ar y datblygiad hwn sydd mor bwysig i gymunedau yn y Gogledd a’r Canolbarth.
“Mae’n hysbys iawn bod prinder o weithwyr deintyddol proffesiynol yn ein cymunedau lleol. Rydyn ni’n gwybod y gallai’r cynnig yma wneud gwahaniaeth - mae tystiolaeth o'r proffesiwn meddygol yn dangos cysylltiad cryf rhwng lle mae myfyrwyr yn hyfforddi a ble maen nhw'n dewis ymarfer.
“Byddai’r Ysgol newydd hefyd yn ehangu mynediad i’r proffesiynau deintyddol, yn enwedig o gymunedau sydd wedi’u tangynrychioli a gydag ymgeiswyr sy’n hanu o Gymru ac sy’n siarad Cymraeg.”
“Mae llwyddiant y ddarpariaeth nyrsio yma yn dangos y potensial sydd gennym ni yn Aberystwyth i gyfrannu fwyfwy at gwrdd ag anghenion ein gwasanaethau iechyd cenedlaethol sy’n bwysig iawn i ni i gyd. Mae’r cynnig hwn hefyd yn gweddu’n dda iawn gyda ein gweledigaeth ehangach i adeiladu ein cymunedau ac i gryfhau Cymru.”
Dywedodd yr Athro Nicola Innes, Pennaeth yr Ysgol Ddeintyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd:
“Rydym ni’n croesawu’r cyfle i gyfrannu at y cynlluniau cychwynnol i ddatblygu Ysgol Ddeintyddol newydd yng Nghymru. Yn debyg i sefydlu Ysgol Feddygol Gogledd Cymru, byddwn ni’n gweithio gyda phrifysgolion eraill Cymru a phartneriaid i sicrhau cyfleoedd hyfforddi ar gael mewn rhannau eraill o Gymru. Rydym ni’n gwybod bod myfyrwyr yn meithrin perthynas arbennig gyda’r lle maen nhw’n astudio, yn enwedig yn ystod eu hyfforddiant yn y gymuned. Pe bai’r Ysgol Ddeintyddol newydd yn cael ei gwireddu, gobeithio y bydd yn helpu gyda llenwi’r bwlch yn y ddarpariaeth ddeintyddol rydym ni’n gwybod sy’n bodoli mewn rhannau o ganolbarth a gogledd Cymru.”
Mae cynnig lefel uchel ar y cyd gan Brifysgolion Aberystwyth a Bangor wedi’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru a dyna oedd y cam cyntaf mewn proses i gyflwyno achos busnes cynhwysfawr fel cynnig ffurfiol i Lywodraeth Cymru ei ystyried.
