Cadeirydd newydd Sefydliad Keats yn Athro o Aberystwyth

Yr Athro Richard Marggraf-Turley, Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, Prifysgol Aberystwyth

Yr Athro Richard Marggraf-Turley, Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, Prifysgol Aberystwyth

12 Rhagfyr 2025

Mae academydd o Aberystwyth wedi'i benodi'n Gadeirydd Sefydliad Keats, elusen sy’n fyd-enwog ac yn hyrwyddo bywyd, gwaith ac etifeddiaeth y bardd rhamantaidd enwog John Keats.

Mae'r Athro Richard Marggraf-Turley o Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi'i benodi i arwain y sefydliad i gydnabod ei gyfraniad at ysgolheictod llenyddol, y dyniaethau cyhoeddus ac addysg ddiwylliannol.

Mae John Keats, a fu’n byw rhwng 1795 a 1821, yn dal i fod yn un o'r beirdd mwyaf poblogaidd a dylanwadol yn yr iaith Saesneg.

Er byrred ei fywyd, cynhyrchodd ei waith rai o'r cerddi gorau a ysgrifennwyd erioed, gan gynnwys yr enwog 'To Autumn' ac 'Ode to a Nightingale' a 'The Eve of St Agnes'.

Nod Sefydliad Keats a sefydlwyd yn 2010 yw annog mwynhad a dealltwriaeth o gerddi, llythyrau, bywyd a chyfnod Keats, gan ysbrydoli cenedlaethau newydd o ddarllenwyr, myfyrwyr a beirdd ifanc i wireddu eu dyheadau creadigol.

Gan weithio'n agos gyda Thŷ Keats yn Hampstead a gyda phartneriaid ledled y Deyrnas Gyfunol ac yn rhyngwladol, mae'r Sefydliad yn cefnogi rhaglen uchelgeisiol o ddarlithoedd, darlleniadau a mentrau addysgol.

Mae ei gefnogwyr nodedig yn cynnwys y Fonesig Judi Dench, y Fonesig Janet Suzman a Syr Geoffrey Bindman, gyda Syr Andrew Motion yn Noddwr.

Mae cyhoeddiadau'r Athro Marggraf-Turley ei hun ar Keats a Rhamantiaeth yn cynnwys ‘Keats’s Boyish Imagination’, ‘Bright Stars: Keats, Barry Cornwall and Romantic Literary Culture’, a – ei fonograff diweddaraf, a fydd allan fis Chwefror nesaf – ‘Fantastic Shapes: Topology and Textuality in Romantic Poetry’. Wrth ymateb i’r newyddion am ei benodiad yn Gadeirydd Sefydliad Keats, dywedodd:

“Mae'r elusen hon yn gwneud gwaith hanfodol wrth gadw un o'n beirdd mwyaf yn fyw ar gyfer cenedlaethau newydd. Mae'n anrhydedd i mi gael fy ngofyn i arwain ei phennod nesaf a chefnogi ei chenhadaeth o addysg, creadigrwydd ac ymgysylltu â'r cyhoedd.”

“Dyma gyfle mawr i’r Sefydliad. Gyda chalendr sefydledig o ddarlithoedd blynyddol, cynadleddau daucanmlwyddiant, dathliadau a gweithgareddau allgymorth, mae’r sefydliad bellach yn canolbwyntio ar gryfhau ei sylfaen o gefnogwyr, sicrhau ei ddyfodol ariannol, ehangu adnoddau digidol ac ehangu ymgysylltiad y cyhoedd â gwaith Keats a llenyddiaeth Rhamantaidd. Un flaenoriaeth allweddol yw ymestyn cenhadaeth addysgol y Sefydliad y tu hwnt i gynulleidfaoedd arbenigol i gyrraedd ysgolion, awduron ifanc a’r gymuned ehangach.”

Ychwanegodd Dr Patrick Finney, Dirprwy Is-Ganghellor Cyfadran y Dyniaethau ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“Rwy’n llongyfarch Richard yn gynnes ar y penodiad mawreddog hwn ac rwy’n edrych ymlaen at y ffyrdd y bydd y rôl arweinyddiaeth ddiwylliannol genedlaethol hon yn cyfrannu at y nod rydyn ni’n ei rannu i newid bywydau er gwell drwy ragoriaeth ymchwil, allgymorth a gwerth cyhoeddus y celfyddydau”