Prifysgol Aberystwyth a Choleg David Game yn lansio partneriaeth rhaglen sylfaen ryngwladol newydd

Cynrychiolwyr o Brifysgol Aberystwyth a Choleg David Game
19 Ionawr 2026
Mae Prifysgol Aberystwyth a Choleg David Game wedi cyhoeddi cydweithrediad strategol newydd a gynlluniwyd i baratoi myfyrwyr rhyngwladol ar gyfer astudiaethau israddedig yn y Deyrnas Gyfunol.
Mae'r bartneriaeth yn dwyn ynghyd ragoriaeth academaidd Prifysgol Aberystwyth ac arbenigedd recriwtio byd-eang Coleg David Game.
O dan y cytundeb, bydd Prifysgol Aberystwyth yn parhau i gyflwyno ei Rhaglen Sylfaen Ryngwladol ar y campws, tra bydd Coleg David Game yn gyfrifol am farchnata rhyngwladol a recriwtio myfyrwyr.
Bydd myfyrwyr a dderbynnir trwy'r 5 llwybr hyn yn derbyn un Cadarnhad Derbyn ar gyfer Astudiaethau (CAS) integredig sy'n cwmpasu'r blynyddoedd Sylfaen ac Israddedig. Mae hyn wedi'i gynllunio i sicrhau profiad llyfn o'r dechrau i raddio, yn amodol ar gymwysterau academaidd y myfyriwr.
Dywedodd Harriet Howse, Pennaeth Ymgysylltu Byd-eang a Chyfarwyddwr Cyswllt Marchnata Byd-eang a Recriwtio Myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth:
"Rydym ni wrth ein bodd yn gweithio gyda Choleg David Game, enw uchel ei barch mewn addysg ryngwladol. Mae'r cydweithrediad hwn yn cefnogi nod strategol Aberystwyth o ehangu ein gorwelion rhyngwladol wrth gynnig llwybr o ansawdd uchel a chefnogol i fyfyrwyr talentog ledled y byd i mewn i'n cymuned brifysgol. Rydym ni’n edrych ymlaen at groesawu ein carfan gyntaf yn 2026."
Ychwanegodd Theo Theodorou, Cyfarwyddwr Partneriaethau, Cydweithrediadau ac Addysg Drawswladol yng Ngholeg David Game:
"Mae'r bartneriaeth hon yn cynrychioli'r bennod nesaf yn ymrwymiad Coleg David Game i ddatblygu cydweithredu ystyrlon, effaith uchel gyda phrifysgolion blaenllaw'r Deyrnas Gyfunol. Mae enw da academaidd Prifysgol Aberystwyth, ynghyd â'n seilwaith recriwtio a'n rhwydweithiau byd-eang, yn creu cyfle eithriadol i ddenu myfyrwyr rhyngwladol amrywiol ac o safon uchel i astudio yng Nghymru."
Ynglŷn â Phrifysgol Aberystwyth
Wedi'i sefydlu ym 1872, mae Prifysgol Aberystwyth yn un o sefydliadau addysg uwch hynaf a mwyaf hanesyddol y Deyrnas Gyfunol. Heddiw, mae'n cael ei chydnabod yn fyd-eang am ei rhagoriaeth ymchwil, ansawdd addysgu rhagorol, a phrofiad myfyrwyr cryf.
Wedi'i henwi'n Brifysgol Gynaliadwy'r Flwyddyn yn y Deyrnas Gyfunol ar gyfer 2026 gan Ganllaw Prifysgolion Da The Times a'r Sunday Times, mae wedi bod y brifysgol orau yng Nghymru am foddhad cyffredinol myfyrwyr am y deng mlynedd diwethaf, ar sail yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr.
Mae 98% o'i hymchwil o safon ryngwladol neu uwch, a dros 75% o safon sy’n arwain y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol yn ôl Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021. Mae’r rhagoriaeth ymchwil a dysgu hon yn ysbrydoli pobl i newid bywydau er gwell, meithrin gwybodaeth, adeiladu cymunedau a chryfhau Cymru a’r byd yn ehangach.
Mae gan y Brifysgol draddodiad hir o groesawu myfyrwyr o bob cwr o'r byd ac mae wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd cynhwysol a chefnogol lle gall dysgwyr rhyngwladol ffynnu. Mae ei hymroddiad i gymuned, cynaliadwyedd ac ymgysylltiad byd-eang yn llunio ei chryfderau academaidd a'i phartneriaethau ledled y byd.
Ynglŷn â Choleg David Game
Wedi'i sefydlu ym 1974, mae Coleg David Game yn un o brif ddarparwyr addysg annibynnol y Deyrnas Gyfunol, gan gynnig Lefel A, llwybrau sylfaen prifysgol, a rhaglenni rhyngwladol. Gyda phresenoldeb yn Llundain, Caerfaddon, a Lerpwl, a rhwydwaith o bartneriaid recriwtio byd-eang, mae'r Coleg yn cefnogi cannoedd o fyfyrwyr rhyngwladol i symud ymlaen i brifysgolion blaenllaw'r Deyrnas Gyfunol bob blwyddyn.
AU1826
