Dathlu dynodiad Dinas Llên drwy oleuo Castell Aberystwyth

Gwaith celf wedi’i daflunio ar gastell Aberystwyth – Credyd: Angharad Bache
23 Mawrth 2026
Mae llwyddiant diweddar Aberystwyth a Cheredigion i ddod yn Ddinas Llên UNESCO wedi’i ddathlu trwy daflunio arddangosfa o gelf leol ar Gastell Aberystwyth.
Fel rhan o gydweithrediad â Chanolfan Deialog Prifysgol Aberystwyth, cafodd y tafluniad ei greu, ei guradu a'i gynhyrchu'n greadigol gan Big Wave / Ton Fawr, gan drawsnewid tŵr y castell yn arddangosfa i chwe artist lleol.
Ymhlith y gwaith bu animeiddiadau wedi'u hysbrydoli gan chwedl Jane Leonard neu 'Siani Pob Man' fel y’i gelwir. Gwraig o Gei Newydd oedd Siani a fyddai’n dweud straeon ac yn gwerthu wyau cyw iâr a chardiau post ag arnynt lun ohoni hi a cherddi roedd hi wedi ysgrifennu am ei hun i dwristiaid yn yr ardal.
Wrth siarad am ei waith celf, dywedodd y storïwr a'r darlunydd Peter Stevenson, sy'n byw yn Aberystwyth:
“Roedd Siani Pob Man yn byw ar ei phen ei hun ar draeth Cei Bach, ar dir neb rhwng y llanw uchel a'r clogwyn lle'r oedd hi'n talu rhent i neb. Roedd hi'n cadw ieir a gafr, yn canu emynau ac yn adrodd straeon, ac roedd plant yn dwlu arni. Ei ffrind agosaf oedd Mr Morgan. The Sea. Y Môr. Efallai mai dyma yw heddwch?"
Yn ogystal â gwaith Peter Stevenson, roedd gwaith gan Catrin Davies, Suzanne Harris, Nikki Pontin, Jo Munton ac Erin Hughes i’w weld ar arddangosfa’r castell.
Mae un o’r darnau wedi’i ddylanwadu gan sylwadau a wnaed gan yr ysgolhaig Mary-Ann Constantine am “fan dall ramantus” hanesyddol mewn cynrychioliadau o Gymru - lle’r oedd tirweddau’n cael eu hedmygu’n weledol, ond lleisiau a safbwyntiau Cymru’n aml yn cael eu hanwybyddu.
Wedi’i gynnal dros benwythnos cyhydnos y gwanwyn, bu’r tafluniad liw nos yn gwahodd cynulleidfaoedd i fyfyrio ar sut mae ein hamgylchedd yn ein llunio ni a sut mae heddwch yn cymryd gwahanol ffurfiau: yn y dirwedd, yn y cof, mewn annibyniaeth, mewn cymuned, neu’n syml mewn eiliad o hoe.
Wrth siarad am y tafluniad ar y castell, dywedodd Dr Jen Wolowic, Prif Arweinydd y Ganolfan Ddeialog ym Mhrifysgol Aberystwyth:
“Mae’n foment gyffrous i Aberystwyth a Cheredigion fel y lle cyntaf yng Nghymru i gael ei ddynodi yn Ddinas LLên UNESCO. Mae hyn yn adlewyrchu ein treftadaeth a’n gwaith parhaus, yn unol â gweledigaeth UNESCO ‘gan fod rhyfeloedd yn dechrau ym meddyliau pobl, ym meddyliau pobl y mae’n rhaid adeiladu amddiffynfeydd heddwch’.
“Mae’n bosibl gweld y gwaith hwnnw mewn eiliadau fel hyn, lle mae celf a llenyddiaeth yn dod â phobl ynghyd i ymgynnull, myfyrio a rhannu. Mae’n gyfle i fod yn rhan o’r hyn sy’n gwneud Aberystwyth yn gymuned gynhwysol, ddwyieithog ac allblyg, a pham mae’r Brifysgol yn gweithio mewn partneriaeth ag eraill i gryfhau’r lle nodedig hwn ymhellach.”
Ychwanegodd Sally Blaise o Big Wave:
“Mae trawsnewid gofod cyhoeddus yn ganolog i waith Ton Fawr. Gyda’r gosodiad celf yma, wnaethon ni greu defod o olau sy’n cael ei rhannu yng nghyfnod olaf y gaeaf. Mae’n gyfle i gasglu ein cymuned ynghyd ar ôl iddi nosi, edrych i fyny, a chanfod y castell o’r newydd. Wrth wraidd y gwaith, mae’r syniad o Heddwch Cadarnhaol — nid fel rhywbeth goddefol, ond fel rhywbeth rydym ni’n ei greu’n weithredol gyda’n gilydd.”
Mae’r prosiect yn rhan o raglen ehangach o weithgareddau sy’n cael eu trefnu gan bartneriaeth Dinas Llên yn ystod mis Mawrth i ddathlu dynodiad Aberystwyth a Cheredigon fel Ddinas Llên.
Caiff y gweithgareddau eu hariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru ac mae manylion llawn yr holl ddigwyddiadau ar wefan Dinas Llên: dinasllen.cymru
Mae partneriaeth Dinas Llên yn cynnwys Cyngor Tref Aberystwyth, Prifysgol Aberystwyth, Cyngor Llyfrau Cymru, Cyngor Sir Ceredigion, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (gan gynnwys y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, Cyfnewidfa Lên Cymru a Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau).
AU8326
