Actor Cymreig o fri yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd

Rakie Ayola
22 Mai 2026
Mae’r actor Rakie Ayola, enillydd sawl gwobr BAFTA, sy'n fwyaf adnabyddus am ei rolau yn Kaos, Doctor Who, The Pact a Holby City, wedi derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Aberystwyth.
Mae’r actor Rakie Ayola, enillydd sawl gwobr BAFTA, sy'n fwyaf adnabyddus am ei rolau yn Kaos, Doctor Who, The Pact a Holby City, wedi derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Aberystwyth.
Dyfarnwyd y Gymrodoriaeth er Anrhydedd yn ystod seremoni yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth. Mae ei gyrfa yn ymestyn dros bedwar degawd ac mae hefyd yn cynnwys ymddangosiadau yn Anthony, Shetland a Midsomer Murders ar ITV.
Yn 2023, enillodd Wobr BAFTA Cymru am yr Actores Orau am ei rôl yn y ddrama BBC The Pact, lle portreadodd weithiwr cymdeithasol a mam i dri o blant, y caiff ei bywyd ei chwalu gan ddyfodiad dieithryn dirgel.
Yn yr un seremoni, enillodd hefyd wobr fawreddog Siân Phillips BAFTA Cymru, a roddir i unigolyn o Gymru sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i ffilm neu deledu.
Mae ei gwobrau eraill yn cynnwys BAFTA am yr Actores Gefnogol Orau yn 2021 am ei rôl yn y ffilm BBC Anthony, yn ogystal â gwobr yr Actores Orau mewn Drama yn y Black British Theatr Awards yn 2020. Ynghyd â'i gwaith actio, mae hi'n gwasanaethu fel Ymddiriedolwr Theatr Genedlaethol Cymru a Fuel Theatre.
Wrth siarad am ei gwobr, dywedodd Rakie Ayola:
“Diolch yn fawr iawn Prifysgol Aberystwyth. Rwy’n wirioneddol ddiolchgar am eich cydnabyddiaeth o’m gwaith drwy’r anrhydedd hon. Diolch hefyd am seremoni gyflwyno mor bersonol. Mae arwyddocâd y wobr hon wedi’i gyfoethogi gan y caredigrwydd, y cynhesrwydd a’r haelioni a gefais gan eich staff academaidd a’ch myfyrwyr. Gobeithio mai dyma ddechrau perthynas hir, greadigol ac ysbrydoledig.”
Yn ystod ei hymweliad ag Adran Theatr, Ffilm a Theledu’r Brifysgol, cyfarfu â myfyrwyr a chymerodd ran mewn sesiwn holi ac ateb, gan rannu mewnwelediadau am ei gwaith ar y llwyfan ac ar y sgrin.
Dywedodd Dr Kim Knowles, Pennaeth yr Adran ym Mhrifysgol Aberystwyth:
“Mae Rakie yn un o actorion Cymreig mawr ein hoes. Mae ei hyblygrwydd ar y llwyfan a’r sgrin ar draws ystod eang o rolau a genres yn hynod drawiadol.
“Mae hi hefyd yn gwybod pwysigrwydd rhoi rhywbeth yn ôl, boed hynny drwy wasanaethu fel llysgennad i’r Anthony Walker Foundation, noddwr yr Actor’s Children’s Trust, y Childhood Tumour Trust, Collage Voices, Praxis Performing Arts, neu Wobrau Cerddoriaeth Pobl Ddu Cymru. Mae hi’n dderbynnydd haeddiannol iawn o Gymrodoriaeth er Anrhydedd.”
