Myfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth yn ennill gwobr ffermio fawreddog

Rhian Griffiths yn derbyn ei gwobr gan Ei Huchelder Brenhinol y Dywysoges Frenhinol

Rhian Griffiths yn derbyn ei gwobr gan Ei Huchelder Brenhinol y Dywysoges Frenhinol

21 Mai 2026

Mae myfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth wedi cael cydnabyddiaeth ledled Prydain ar ôl ennill y brif wobr mewn cystadleuaeth rheoli busnes amaethyddol.

Dyfarnwyd y wobr gyntaf i Rhian Griffiths, myfyrwraig Amaethyddiaeth yn ei blwyddyn olaf, yng Ngwobrau Pinnacle The Farmers Club ar gyfer rhagoriaeth mewn rheoli busnes, cystadleuaeth genedlaethol hirsefydledig sy’n cydnabod y doniau gorau sy’n dod i’r amlwg yn y sector amaethyddol.

Bellach yn eu 29ain flwyddyn, mae'r gwobrau yn herio myfyrwyr o bob cwr o'r Deyrnas Unedig i ddatblygu strategaethau busnes arloesol, cystadleuol ac amgylcheddol gyfrifol ym maes ffermio.

Caiff ceisiadau ysgrifenedig eu beirniadu yn y lle cyntaf, ac yna gwahoddir wyth ymgeisydd i’r rownd derfynol yn The Farmers Club yn Llundain lle byddant yn cyflwyno eu prosiectau ac yn cymryd rhan mewn cyfweliad proffesiynol gerbron arbenigwyr o’r diwydiant.

Datblygwyd prosiect arobryn Rhian Griffiths drwy fodiwlau Rheoli Fferm ei chwrs gradd, lle mae myfyrwyr y flwyddyn olaf yn cymhwyso eu gwybodaeth i ddatblygu atebion busnes i heriau amaethyddol yn y byd go iawn. Yr her eleni oedd creu cynllun busnes fferm ar gyfer darpar brynwyr fferm laeth yng Ngheredigion.

Cyflwynwyd Cwpan Nickerson i Rhian gan Ei Huchelder Brenhinol y Dywysoges Frenhinol. Yn ogystal â hyn derbyniodd wobr £2,000 a roddwyd gan The Cave Foundation.

Dywedodd Rhian Griffiths:

"Roedd cael fy newis ar gyfer cystadleuaeth mor fawreddog eisoes yn teimlo fel cydnabyddiaeth o’r holl waith rwyf wedi’i wneud yn rhan o’m hastudiaethau. Roedd cyrraedd yr wyth olaf ledled Prydain yn brofiad swreal. Roedd derbyn y Wobr Aur gan Ei Huchelder Brenhinol y Dywysoges Anne yn brofiad arbennig iawn, ac mae cael dod â’r wobr adref i Aberystwyth yn fy llenwi â balchder, gwerthfawrogiad a hyder i gamu i'm dyfodol."

Hefyd ar y rhestr fer oedd ei gyd-fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth, Cameron Anderson, sy'n astudio Amaeth a Rheoli Busnes.

Cameron Anderson and Rhian Griffiths


Dywedodd Anthony O'Regan, Darlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth:

"Mae hwn yn llwyddiant ardderchog i Rhian ac yn gydnabyddiaeth haeddiannol o ansawdd uchel ei gwaith, ei phroffesiynoldeb a'i chraffter. Mae Gwobrau Pinnacle yn hynod gystadleuol, ac mae llwyddiant ar y lefel hon yn adlewyrchu ei gallu i gymhwyso egwyddorion rheoli busnes mewn cyd-destun ymarferol, sy'n canolbwyntio ar y diwydiant.

"Hefyd, hoffwn longyfarch Cameron ar gyrraedd y rhestr fer – mae’r ffaith bod dau o’n myfyrwyr yn y rownd derfynol yn adlewyrchiad cryf o safon ein myfyrwyr ac yn dangos ansawdd uchel ein dysgu wrth baratoi graddedigion ar gyfer gyrfaoedd yn yr economi wledig."

Darparwyd cronfa wobrau'r gystadleuaeth gan The Cave Foundation ac fe’i gweinyddwyd gan ADAS a The Farmers Club.