Datgelu bywydau nosol adar y môr drwy waith celf ac arddangosfa newydd

Paentiad o adar drycin Manaw

Paentiad o adar drycin Manaw

15 Medi 2026

Bydd bywydau nosol adar drycin Manaw sy'n bridio ar ynysoedd oddi ar arfordir gorllewinol Prydain i'w gweld mewn arddangosfa newydd diolch i waith dan arweiniad academydd o Aberystwyth.

Mae'r adar môr rhyfeddol hyn yn bridio ar ynysoedd oddi ar arfordir y DU, ac Ynys Sgomer ym Mharc Cenedlaethol Sir Benfro yw'r nythfa fwyaf o adar drycin yn y byd.  Mae adar drycin yn mudo miloedd o filltiroedd i Dde America bob blwyddyn, gan ddychwelyd i nythu mewn tyllau neu gilfachau cudd ar yr ynysoedd bob gwanwyn i fagu eu cywion.

Yn ddiweddar, mae Dr Julian Ruddock o'r Ysgol Gelf ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi teithio i ynysoedd amrywiol ar gyrion gorllewinol y DU, gan gynnwys Sgomer, Sgogwm ac Ynys Enlli yng Nghymru, yn ogystal â The Great Blasket yn Iwerddon i ymchwilio i'r adar drycin a'r ynysoedd lle maent yn byw. Mae'r prosiect yn gydweithrediad Celf a Gwyddoniaeth gydag OxNav (The Oxford University Navigation Group), sy’n ymchwilio i ymddygiad llywio a mudo’r adar.  Mae'r tîm yn defnyddio teclynnau geoleoli bychain a osodir ar draed yr adar i gofnodi amser y wawr a hyd y dydd i ddarparu safleoedd, sydd yn eu tro yn datgelu llwybrau mudo’r adar.

Mae ymchwil Dr Ruddock yn defnyddio’r data gwyddonol hyn yn ogystal â recordiadau sain, cyfweliadau â gwyddonwyr ac arsylwadau uniongyrchol o waith maes i helpu i adrodd straeon yr adar ac ecolegau'r ynysoedd trwy fframwaith amgen celf.

Yn ogystal â'u sgiliau mudo a llywio, mae adar drycin Manaw yn enwog am eu cri arswydus yn y nos a ddefnyddir i adnabod eu cymheiriaid ac i ganfod lleoliad eu nythod yn y tywyllwch. Mae Dr Ruddock yn gweithio gyda grŵp OxNav i wneud recordiadau sain o'r adar ar Ynys Sgomer, gyda'r nod o godi ymwybyddiaeth a chynyddu gwerthfawrogiad o’r adar anhygoel hyn nad oes llawer o bobl wedi cael y profiad o’u gweld oherwydd eu hymddygiad nosol. Er bod pobl sy’n ymweld â’r ynys yn ystod y dydd yn gweld yr olygfa gyfarwydd o balod, ychydig sy'n profi bywyd yr ynys ar ôl iddi dywyllu pan fydd oddeutu 350,000 pâr o adar drycin yn dychwelyd i’w nythod dan lenni’r nos.

Fel rhan o'r prosiect, mae Dr Ruddock hefyd yn ymchwilio i waith yr awdur natur o bwys, R.M. Lockley (1903-2000) a gyflawnodd waith arloesol ar adar drycin Manaw ar ynys arall yn Sir Benfro, Sgogwm, yn y 1930au. Ysgrifennodd Lockley lyfrau arwyddocaol am fywyd gwyllt Cymru, gan gynnwys 'Letters from Skokholm' (1947), sy'n cofnodi bywyd beunyddiol ar yr ynys anghysbell hon yng Nghymru.

Bydd ymchwil Dr Ruddock yn cael ei ddatblygu i greu gweithiau celf sy'n cyfuno ffilm, sain, gosodwaith, darluniau a phaentiadau, gyda chynlluniau i gynnal arddangosfeydd mewn lleoliadau megis Oriel y Parc yn Nhyddewi ym mis Mai 2027.

Dywedodd Dr Ruddock:

"Er bod llawer nad ydym yn ei ddeall o hyd am arferion mudo adar drycin, mae gwyddoniaeth yn datgelu ffeithiau rhyfeddol am y rhywogaeth hon a rhywogaethau eraill sy’n rhannu’r blaned â ni, a gall celf ein helpu i gysylltu â'r wybodaeth honno mewn ffordd wahanol. Mae wedi bod yn wych cael cydweithio â thîm OxNav, a fu’n hael iawn wrth rannu eu gwybodaeth a'u hangerdd am yr adar hyn. Yr hyn sydd mor ddiddorol am adar drycin Manaw yw'r dirgelwch o ran sut mae'r adar hyn yn canfod eu ffordd dros gefnforoedd helaeth gan ddefnyddio'r haul, y sêr a magnetedd y Ddaear i ddychwelyd i'r un lle bob blwyddyn. Mae cyfran sylweddol o'r boblogaeth fridio fyd-eang o adar drycin i’w canfod ar ynysoedd Cymru, ond er hynny ychydig iawn mae’r cyhoedd yn ehangach yn gwybod am y rhywogaeth hon. Yn ogystal â chyfleu’r wybodaeth, rwyf hefyd yn ceisio cyfleu’r sain, yr awyrgylch a'r ymdeimlad o fawredd a rhyfeddod sy'n dod o brofi noson ar ynys lle ceir nythfa o adar y môr, fel Sgomer."

Ychwanegodd Dr Katrina Siddqi-Davies o OxNav ym Mhrifysgol Rhydychen:

"Mae wedi bod yn wych cael Julian yn rhan o'r tîm, ac rwy’n edrych ymlaen yn arw i ystyried sut y gallwn adrodd straeon adar drycin Manaw mewn ffyrdd newydd a chreadigol.  Maen nhw’n mentro ar deithiau rhyfeddol ar draws hemisfferau ac yn byw bywydau hynod yn rhai o'r rhannau mwyaf anghysbell o'r byd, felly maent yn sicr yn haeddu bod yn destun gweithiau celf gwych.

"Er bod adar drycin Manaw yn rhywogaeth sydd wedi'i hastudio'n helaeth, bob blwyddyn rydyn ni’n parhau i ddysgu mwy am eu hymddygiad ar y môr, sut maen nhw'n ymdopi â newidiadau amgylcheddol, a'r cydlynu a'r gwaith tîm anhygoel sydd ei angen i fagu un cyw yn llwyddiannus. Rwy'n gobeithio y bydd y prosiect hwn yn helpu i ddod â phobl yn agosach at yr adar drycin ac yn ysbrydoli mwy o chwilfrydedd a gwerthfawrogiad am fywydau cudd adar y môr."