Astudiaeth arloesol yn bwriadu gwella'r ddarpariaeth fwyd i ddisgyblion mewn ysgolion arbennig

Dr Thomas Wilson, Adran y Gwyddorau Bywyd, Prifysgol Aberystwyth

Dr Thomas Wilson, Adran y Gwyddorau Bywyd, Prifysgol Aberystwyth

27 Tachwedd 2026

Mae ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth yn rhan o astudiaeth arloesol sy'n bwriadu gwella iechyd a lles plant a phobl ifanc ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau (SEND).

Gall sensitifrwydd synhwyraidd, deiet cyfyngedig, anawsterau cyfathrebu ac anghenion iechyd unigol wneud bwyta yn yr ysgol yn heriol i blant a phobl ifanc sydd ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau.

Bydd y prosiect cydweithredol, dan arweiniad Prifysgol Swydd Hertford, yn edrych ar sut y gellid gwella'r ddarpariaeth fwyd mewn ysgolion arbennig.

Bydd rôl Prifysgol Aberystwyth yn canolbwyntio ar gloriannu a yw'r rhaglen yn arwain at welliannau mesuradwy mewn deiet plant. 

Gan ddefnyddio methodolegau a ddatblygwyd yn y Brifysgol, bydd ymchwilwyr o Aberystwyth yn dadansoddi biofarcwyr wrinol cymeriant bwyd er mwyn nodi newidiadau mewn patrymau dietegol ac asesu a yw'r ymyriad yn gwella maeth ymhlith y disgyblion sy'n cymryd rhan.

Mae'r dull yn defnyddio samplau wrin i roi mesur gwrthrychol o’r bwyd sydd wedi’i fwyta’n ddiweddar ac mae'n arbennig o werthfawr mewn lleoliadau lle ceir anghenion addysgol arbennig ac anableddau, lle gall arolygon dietegol traddodiadol fod yn anodd eu cynnal yn gywir.

Dywedodd Dr Thomas Wilson, ymchwilydd yn Adran y Gwyddorau Bywyd ym Mhrifysgol Aberystwyth:

"Un o'r heriau mewn ymchwil maeth yw deall a yw ymyriadau yn newid yr hyn y mae pobl yn ei fwyta mewn gwirionedd.  Mae dulliau traddodiadol yn aml yn dibynnu ar ddyddiaduron bwyd neu holiaduron, ond gall y rhain fod yn anodd eu defnyddio'n gyson ac yn gywir, yn enwedig wrth weithio gyda disgyblion sydd ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau.” 

“Drwy ddadansoddi biofarcwyr mewn samplau wrin, gallwn gael darlun gwrthrychol o gymeriant deietegol diweddar a chanfod newidiadau yn y bwydydd penodol a fwyteir.  Mae hyn yn rhoi ffordd inni fesur a yw'r dull yn trosi'n welliannau dietegol gwirioneddol i blant a phobl ifanc.  Rydym yn hynod falch o gael cyfrannu technegau asesu maeth arloesol at brosiect sydd â'r potensial i wella canlyniadau iechyd i ddisgyblion sydd ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau."

Mae'r astudiaeth yn canolbwyntio ar raglen Adapt-Ed Nourish, sef dull o drin bwyd sydd wedi'i deilwra ar gyfer ysgol gyfan a ddatblygwyd gan yr elusen School Food Matters mewn partneriaeth â Phrifysgol Swydd Hertford a Phrifysgol Essex.  Mae'r rhaglen yn edrych ar sut y gall ysgolion wella bwyd a maeth drwy gydol y diwrnod ysgol, gan gynnwys addysg bwyd, polisïau bwyd ysgolion ac amgylchedd ehangach yr ysgolion.

Dywedodd Rebecca O'Connell, arweinydd y prosiect ac Athro ym maes Bwyd, Teuluoedd a Chymdeithas yn y Ganolfan Ymchwil i Iechyd Cyhoeddus a Gofal yn y Gymuned (CRIPACC), Prifysgol Swydd Hertford:

"Mae dull sy’n cwmpasu’r ysgol gyfan yn golygu canolbwyntio nid yn unig ar amser cinio ond ar fwyd drwy gydol y diwrnod ysgol ac ar draws gwahanol feysydd yr ysgol.  Felly, mae'n golygu meddwl am bolisïau bwyd ysgolion ac addysg bwyd yn ogystal â’r ddarpariaeth fwyd a cheisio creu mwy o gysondeb rhyngddynt.  Mae hefyd yn golygu cynnwys y gymuned gyfan – disgyblion, rhieni a staff – yn agwedd yr ysgol tuag at fwyd."

Caiff y prosiect ei arwain gan Brifysgol Swydd Hertford, gan weithio ochr yn ochr â Phrifysgol Aberystwyth, Prifysgol Essex, Prifysgol Dwyrain Anglia, Dinas St George ym Mhrifysgol Llundain a'r elusennau School Food Matters a Future Care Capital.  Caiff ei ariannu gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) ac fe'i cefnogir gan Gydweithrediad Ymchwil Gymhwysol NIHR (ARC): Dwyrain Lloegr.

 

AU25256