Y Dudalen Gysylltiadau

Mae nifer o wefannau sy’n ddefnyddiol o ran cynllunio sefydliadol, academaidd, ariannol ac ymchwil i’w gweld isod.
1.
Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (www.hefcw.ac.uk)

Mae gwefan y Cyngor Cyllido’n arbennig o ddefnyddiol os ydych am ddod o hyd i wybodaeth am fethodoleg gyllido’r Cyngor, datganiadau i’r wasg, cymorth ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg a Hyfforddiant Cychwynnol i Athrawon yn ogystal ag ystod eang o fentrau. Gallwch hefyd lawrlwytho cylchlythyron y Cyngor o’r wefan  (yn yr adran gyhoeddiadau). Ymhlith Cylchlythyron y Cyngor mae ceisiadau am wybodaeth ynglyn â chynllunio’r modd y mae cyllid yn cael ei wario, monitro cynlluniau o’r fath, ymgynghori ynglyn â chyllid a newidiadau eraill o ran cynllunio yn y sector a gwybodaeth ynghylch cynllunio strategol y Cyngor.
2.
Llywodraeth Cymru (http://new.wales.gov.uk)

Mae gwefan Llywodraeth Cymru’n darparu gwybodaeth am gynlluniau’r Llywodraeth ar gyfer y sector, gan gynnwys y gyllideb flynyddol, sy’n rhoi peth gwybodaeth am y newidiadau yn y modd yr ariennir y sector.
3.
Addysg Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang (www.esd-wales.org.uk)

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r Cyngor Cyllido’n rhoi mwyfwy o bwyslais ar Addysg Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang.
4.
Yr Adran Busnes, Menter a Sgiliau  (www.bis.gov.uk

Gwefan yr Adran Busnes, Menter a Sgiliau a grëwyd ym mis Mehefin 2009 ar ôl uno’r Adran Busnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio a’r Adran Arloesedd, Prifysgolion a Sgiliau.